Nwyddau a gwasanaethau â chyfyngiad oed

Mae’n drosedd gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd â chyfyngiad oed i berson sydd dan yr oed a nodir. Gallwch ffeindio’r cosbau a’r cyfyngiadau ar blant a phobl ifanc sy’n prynu/hurio nwyddau neu wasanaethau arbennig drwy agor ein rhestr o nwyddau â chyfyngiad oed. 

Rhestr o nwyddau â chyfyngiad oed (PDF, 258KB)

Yn ansicr o oed person?

Os nad ydych chi’n siŵr a ydi person yn ddigon hen i brynu eich nwyddau neu eich gwasanaethau, yna dylech ofyn iddyn nhw ddangos prawf o’u hoed gydag un ai drwydded yrru cerdyn-llun, pasbort neu un o’r cynlluniau Prawf Oedran cenedlaethol e.e. (PASS). Dylech logio unrhyw wrthodiad ar ddalen gwerthiannau a wrthodir neu lyfr gwrthod. 

Adrodd gwerthiannau i rai dan oed

Os byddwch chi’n meddwl fod busnes wedi bod yn gwerthu unrhyw rai o’r eitemau hyn i rywun sydd dan oed, gallwch eu hadrodd drwy gysylltu â ni. Bydd angen i chi roi:

  • Enw a chyfeiriad y busnes rydych chi’n ei adrodd.
  • Manylion ynglŷn â pha bryd y digwyddodd y gwerthiant dan oed yma, beth a brynwyd a beth oedd oed y prynwr yn eich tyb chi.

Cyngor masnach

Gallwch ymweld â’n tudalen cyngor masnach i greu a thrawslwytho pecyn gwybodaeth i roi gwybodaeth i chi ar sut y gall eich busnes gydymffurfio â’r gyfraith.