Trwyddedau Gweithgareddau Anifeiliaid 

Mae angen Trwydded Gweithgareddau Anifeiliaid (trwyddedau siop anifeiliaid anwes yn flaenorol) ar gyfer:

  • mewnforio, dosbarthu a gwerthu anifeiliaid mewn busnes
  • busnesau neu unigolion sy’n gweithredu o eiddo domestig at ddibenion masnachol (mae’n bosibl y cewch eich cyfrif fel busnes er nad ydych wedi’ch rhestru gyda Thŷ’r Cwmnïau).
  • eiddo sy’n agored i’r cyhoedd, neu i fusnesau eraill, lle bo anifeiliaid ar gael i’w prynu

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag amodau penodol wrth ymgymryd â’r gweithgareddau hyn.

Gweler y canllawiau o ran amodau ar gyfer gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes ar llyw.cymru (gwefan allanol)

Efallai y bydd arnoch angen Trwydded Bridio Cŵn os ydych chi’n bridio cŵn.

Rhagor o wybodaeth am Drwyddedau Bridio Cŵn

Sut i wneud cais neu adnewyddu’r drwydded

Cyn gwneud cais, mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych y caniatâd cynllunio perthnasol ar gyfer eich eiddo.

I wneud cais, neu i adnewyddu, Trwydded Gweithgareddau Anifeiliaid, bydd angen i chi:

  1. Lenwi ffurflen gais
  2. Talu ffi’r drwydded
  3. Derbyn archwiliad o’ch eiddo 

Ffurflen Gais

I gael ffurflen gais, anfonwch e-bost at animalhealth@denbighshire.gov.uk

Ffioedd Trwyddedau Gweithgareddau Anifeiliaid

Cost Trwydded Gweithgareddau Anifeiliaid yw £380 am flwyddyn.

Mae’n costio £380 i adnewyddu eich trwydded bob blwyddyn.

Archwiliadau

Ar ôl i ni dderbyn y cais llawn a’r ffi, bydd archwiliad yn cael ei gynnal i wirio eich bod yn cydymffurfio â’r amodau gofynnol. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i benderfynu a ddylem gymeradwyo’r drwydded.

Bydd Swyddog(ion) archwilio, a llawfeddyg milfeddygol o bosib ar gais, yn gwirio bod yr anifeiliaid yn derbyn llety addas, bwyd, ymarfer corff ac yn cael eu gwarchod rhag afiechyd a thân ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae modd gweld y canllawiau yr ydym yn eu defnyddio i drwyddedu gweithgareddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid a sefydliadau perthnasol. Gall y rhai sydd â thrwydded eisoes neu sy’n dymuno gwneud cais am drwydded ddefnyddio’r canllawiau hyn.

Gweld y canllawiau statudol ar gyfer cynllun trwyddedu gwerthu anifeiliaid anwes (gwefan allanol)


Trwyddedau Gweithgareddau Anifeiliaid bresennol yn Sir Ddinbych

My Boys Koi

Bradford House
The Square
Corwen
LL21 0DL

Gwefan: myboyskoi.com (gwefan allanol)

Pets at Home

Unit 2 Clwyd retail Park
Rhyl road
Rhuddlan
LL18 2TJ

Gwefan: petsathome.com (gwefan allanol)

Rhyl Aquaria

4/8 Abbey Street 
Rhyl
LL18 1NY

Gwefan: www.rhylaquaria.co.uk (gwefan allanol)

Seaworld Aquatics

9 Kinmel Street
Rhyl
LL18 1AE

Gwefan: seaworldaquatics.co.uk (gwefan allanol)

Tropical Exotics

Unit 15
HTM Business Park
Abergele Rd
Rhuddlan
LL18 5UZ

Gwefan: www.tropicalexotics.co.uk (gwefan allanol)