Trwyddedau sefydliadau rhyw

Mae angen trwydded arnoch i redeg siop neu sinema rhyw. Mae hyn yn golygu unrhyw eiddo sy’n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw, a lleoliadau lle caiff ffilmiau dinoethol eu dangos i’r cyhoedd.

Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?

Y ffordd gyflymaf a rhwyddaf i gael trwydded sefydliad rhyw yw drwy wneud cais ar lein.

Gwneud cais ar-lein am trwydded sefydliadau rhyw (gwefan allanol)

Adnewyddu

Mae trwydded sefydliad rhyw yn ddilys am flwyddyn. Gallwch adnewyddu eich trwydded ar-lein.

Adnewyddu trwydded sefydliadau rhyw ar-lein (gwefan allanol)

Rhowch wybod i ni os bydd yna newid

Os oes gennych drwydded sefydliad rhyw eisoes a bod eich amgylchiadau yn newid, gadewch i ni wybod.

Rhowch wybod i ni am newid ar-lein

Faint mae’n ei gostio?

Cost trwydded newydd ar gyfer sefydliad rhyw yw £6,250.

Mae yn costio £2,600 i adnewyddu eich trwydded bob blwyddyn.

Pan fyddwch yn gwneud cais am eich trwydded ar-lein byddwch yn talu’r ffi ar-lein, gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.