Cynllun Tacsis Trydan

Mae’r Cynllun Tacsis Trydan yn rhoi cyfle i yrwyr tacsis trwyddedig yn Sir Ddinbych roi cynnig ar dacsi sy’n rhedeg yn gyfan gwbl ar drydan am 30 diwrnod, er mwyn iddynt gael gweld buddion ariannol ac amgylcheddol cerbydau heb allyriadau.

Beth sy’n gynwysedig yn y cynllun?

Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • Defnydd o Kia EV6 Air trydan
  • trwyddedu'r cerbyd am ddim
  • yswiriant torri i lawr am ddim

Arolygon gwerthuso

Cyn, yn ystod, ac ar ôl cwblhau’r treial, bydd gofyn i’r gyrwyr gwblhau arolygon gwerthuso, a byddant yn cael mwy o wybodaeth am y cynlluniau a’r cymorth sydd ar gael er mwyn iddynt ddod yn berchen ar gerbydau dim allyriadau am y tymor hir.

Blaendal

Bydd angen ichi dalu blaendal o £250, a fydd yn cael ei ad-dalu’n llawn os a phan fydd y cerbyd yn cael ei ddychwelyd mewn cyflwr boddhaol. Bydd y cerbyd yn cael ei archwilio’n drylwyr cyn iddo gael ei fenthyca, ac unwaith eto pan fydd yn cael ei ddychwelyd (gallai gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i ad-dalu eich blaendal).

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Mae’r cynllun peilot yn cael ei anelu’n bennaf at leoliadau gydag ansawdd aer is yng ngogledd y sir, ond mae bwriad i gael pwyntiau gwefru ar draws Sir Ddinbych a gall gyrwyr tacsis sydd wedi eu lleoli yn unrhyw le yn y sir gymryd rhan yn y dyfodol agos.

Er mwyn cymryd rhan yn y cynllun mae’n rhaid ichi:

  • fod yn meddu ar drwydded yrru lân a roddwyd ichi yn y DU
  • bod rhwng 25 a 65 oed
  • bod wedi bod yn ddeiliad trwydded hacni am isafswm o 1 flwyddyn
  • arwyddo cytundeb yn nodi y byddwch yn cyfrannu £250 at dâl-dros-ben y polisi pe digwyddai unrhyw ddamwain/ddigwyddiad
  • fod yn fodlon cymryd rhan mewn cwrs hyfforddi ac asesiad gyrrwr a fydd yn para o leiaf 30 munud.
  • fod wedi cymryd rhan yn y cynllun o’r blaen am y 30 diwrnod llawn heb unrhyw ddigwyddiad difrifol na throseddau goryrru

Sut mae cymryd rhan?

Gallwch wneud cais ar-lein i gymryd rhan yn y cynllun.

Gwnewch gais ar-lein i gymryd rhan yn y Cynllun Tacsis Trydan

Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais?

Ar ôl gwneud cais:

  1. Bydd manylion trwyddedau’r gyrrwr a’r tacsi’n cael eu gwirio
  2. Bydd Swyddog Symudedd Fflyd yn cysylltu â’r cyfranogwr er mwyn cadarnhau a ydynt wedi bod yn llwyddiannus, ac i drafod dyddiadau posibl
  3. Os byddant wedi bod yn llwyddiannus, bydd y cytundeb rhentu, ynghyd â’r wybodaeth gefnogi, yn cael eu hanfon at y cyfranogwr er mwyn iddynt eu harwyddo a’u dychwelyd ynghyd ag unrhyw wybodaeth neu ddogfennau cefnogi angenrheidiol eraill
  4. Bydd y cyfranogwr yn talu’r blaendal o £250 ac yn casglu’r cerbyd ar amser a dyddiad a bennwyd ymlaen llaw

Rhagor o wybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ddatgarboneiddio’r Fflyd Tacsis erbyn 2028. Bydd cynlluniau peilot Tacsis Gwyrdd yn gymorth i gyrraedd y targed hwn gan y bydd yn hep i yrwyr tacsis sylweddoli buddion ariannol ac amgylcheddol cerbydau dim allyriadau, a fydd gobeithio'n cyfrannu at symud oddi wrth gerbydau disel a phetrol at Gerbydau Dim Allyriadau.

Faint mae hi’n ei gymryd i wefru’r cerbyd?

O pan mae bron yn wag (ni ddylech fyth yrru cerbyd tan y mae llai nag 20 milltir ar ôl) bydd yn cymryd rhwng 45 munud ac 1 awr i wefru’r cerbyd yn llawn gan ddefnyddio gwefrydd cyflym.

Pa mor bell all cerbyd fynd gyda batri llawn?

Mae gwneuthurwr y cerbyd (Kia) yn nodi y gall y cerbyd deithio am 328 milltir gyda batri llawn, ond mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Reolaeth ar y sbardun
  • Wyneb y ffordd
  • Y tymor (gwresogyddion / goleuadau / diniwlwyr)
A allaf i ymestyn y treial?

Tri deg diwrnod calendr yw hyd cytundeb y treial, a bydd angen dychwelyd y cerbyd ar y degfed diwrnod ar hugain. Rhoddir blaenoriaeth i’r gweithredwyr/gyrwyr hynny nad ydynt wedi cymryd rhan yn y cynllun o’r blaen, ond os nad yw cerbyd wedi cael ei archebu gan rywun arall, yna gellir ymestyn y cytundeb am gyfnod arall o 30 diwrnod.

Beth os bydd argyfwng neu os bydd y cerbyd yn torri i lawr?

Os bydd argyfwng, mae’r cerbyd yn dod gydag yswiriant torri i lawr yn y DU, yn cynnwys homestart.

A allaf roi manylion fy nghwmni fy hun ar y cerbyd?

Na allwch, mae’r cerbyd yn dod gyda dyluniad cerbyd trydan CSDd, ac ni chaiff y rhai sy’n cymryd rhan yn y cynllun ychwanegu at na thynnu unrhyw agwedd ar y dyluniad presennol.

A allaf ddychwelyd y cerbyd yn gynnar?

Gallwch. Pe na bai’r cerbyd yn addas neu pe na baech yn hoff ohono, gallwch ddychwelyd y cerbyd ar amser a dyddiad a bennwyd ymlaen llaw.

A all Sir Ddinbych hawlio’r cerbyd yn ôl yn gynnar?

Gall. Bydd offer telematig yn cael eu gosod ar y cerbyd, ynghyd â chamerâu dashfwrdd Gofal Gyrwyr Cyngor Sir Ddinbych. Bydd y system delematig yn cael ei monitro o bryd i’w gilydd, a bydd adborth gan gwsmeriaid yn cael ei fonitro hefyd. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cadw’r hawl i adalw’r cerbyd heb roi rhybudd pe bai enw da’r Awdurdod mewn perygl (h.y. safonau gyrru anfoddhaol).