Trwydded cerbyd hacni

Gellir gofyn i gerbydau hacni eich codi oddi ar ochr y stryd neu o safle tacsis. Mae'r prisiau ar sail graddfa gymeradwy.

Prisiau a ffioedd uchaf gerbydau Hacni (o 1 Gorffennaf 2022)

Tariff 1: rhwng 6am a hanner nos

  • Prisiau cychwynnol (ar gyfer y filltir gyntaf): £3.50
    • Yna 25c am bob un degfed filltir neu ran o hynny
  • Amser aros: 30c y funud

Tariff 2: rhwng hanner nos a 6am

  • Prisiau cychwynnol (ar gyfer y filltir gyntaf): £5.25
    • Yna 37.5c am bob un degfed filltir neu ran o hynny
  • Amser aros: 40c y funud

Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc Sul y Pasg, Dydd Nadolig, Gwyl San Steffan a Diwrnod y Flwyddyn Newydd yn ôl tariff 2 trwy’r dydd.

Noswyl Nadolig a Noswyl Blwyddyn Newydd yn ôl tariff 2 o 6pm ymlaen.

Bagiau (ar wahan i fagiau siopa, cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio) tu allan i seddi teithwyr: 20c am bob eitem.

Pob anifail domestig, ac eithrio cŵn tywys: 20c am bob anifail domestig.

Tâl am faeddu’r cerbyd: £100.00.

Tâl ychwanegol am bob teithiwr ar gyfer siwrneiau mwy na 4 teithiwr: 20c y teithiwr dros 4 teithiwr.

Cynghorir Cwsmeriaid I ystyried y ffi yn erbyn y metr.

Cyn i chi wneud cais am drwydded cerbyd hacni, mae’n rhaid i chi sicrhau: 

  • bod eich cerbyd yn cydymffurfio â'r amodau (Gweld Cerbyd hacnai a hurio preifat amodau trwyddedu)
  • bod mesurydd tacsi wedi'i osod 
  • bod arwydd wedi’i osod ar y to

Yn dod yn fuan: Cerbyd hacnai a hurio preifat amodau trwyddedu

Sut mae gwneud cais?

Er mwyn gwneud cais am drwydded cerbyd hacni, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais trwydded cerbyd hacni a’i dychwelyd atom gyda: 

  • tystysgrif cofrestru’r cerbyd (V5/llyfr cofnod) 
  • eich tystysgrif yswiriant gyfredol 
  • tystysgrif cydymffurfio 
  • ffi’r drwydded (£200 ar hyn o bryd) 
  • Tystysgrif Gwasanaeth Codi pobl Anabl a Phrawf Pwysau (lle bo hynny’n berthnasol)

Ffurflen gais Trwydded Cerbyd Cerbyd Hacni (PDF, 1.27MB)

Anfonwch eich cais at:

Trwyddedu
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwalad
Caledfryn
Ffordd y Ffair
Dinbych
Sir Ddinbych
LL16 3RJ

Tystysgrif cydymffurfio

Y tro cyntaf y byddwch yn gwneud cais am drwydded cerbyd hacni, mae’n rhaid i’ch cerbyd lwyddo mewn prawf cydymffurfio. Mae’n rhaid cwblhau’r prawf yn ein gorsaf brawf drwyddedig ym Mharc Busnes Expressway, Ffordd Abergele, Bodelwyddan, LL18 5SQ. Gellir gwneud apwyntiad drwy ffonio 01745 839244.

Pan fyddwch yn mynd a'r cerbyd i'w brofi, mae’n rhaid fod ganddo fesurydd tacsi ac arwydd ar y to, ac mae’n rhaid bod daliwr plât wedi’i osod ar gefn y cerbyd.

Bydd y prawf cydymffurfio, sy’n cynnwys tystysgrif MOT, yn sicrhau bod eich cerbyd yn cyfateb â’r gofynion angenrheidiol. Ni ddylai cerbydau sy’n newydd i “fflyd” tacsi Sir Ddinbych fod yn hŷn na phum mlwydd oed. Os yw eich cerbyd yn llwyddo yn y prawf cydymffurfio, byddwch yn derbyn tystysgrif cydymffurfio, ac mae’n rhaid i chi ei chynnwys gyda’ch ffurflen gais am drwydded.

Yswiriant

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth bod eich cerbyd wedi’i yswirio’n briodol. Golyga hyn bod yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif yswiriant sy’n gymwys ar gyfer hurio cyhoeddus neu gerbyd hacni i’w hurio neu i dderbyn tâl. Bydd eich brocer yswiriant yn gallu rhoi cyngor i chi am yr yswiriant cywir.

Rhoi trwydded i chi

Pan fyddwn wedi derbyn yr holl waith papur, ac yn fodlon bod eich cerbyd yn cyfateb â’r gofynion, byddwn yn rhoi’r drwydded cerbyd, ynghyd â phlatiau trwydded ar gyfer eich cerbyd.

Am ba hyd fydd y drwydded yn ddilys?

Mae trwyddedau’n cael eu rhoi am uchafswm o 12 mis.

Faint fydd y gost?

Mae gwneud cais am drwydded cerbyd hacni yn costio £200 ar hyn o bryd.

Gweld yr holl ffioedd gyrwyr tacsi, cerbydau a gweithredwyr

Sut y gallaf dalu?

Gellir talu â cherdyn dros y ffôn i wasanaethau cwsmeriaid (01824 706000). Mae taliad gyda siec neu arian parod ar gael yn un o Siopau Un Alwad Sir Ddinbych yn unig.

Talu drwy BACS

Mae ein manylion BACS yn:

  • Banc: Natwest, 5 Queen Street, y Rhyl, LL18 1RS
  • Cod Didoli: 54 41 06
  • Rhif y Cyfrif: 22837469
  • Enw’r Cyfrif: Cronfa Sirol Cyngor Sir Ddinbych

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeirnod pan fyddwch chi’n gwneud taliad h.y. yn nodi enw/eiddo/rhif trwydded (os ydych chi’n ei wybod) ynghyd efo Cod Cost. Unwaith y bydd taliad wedi'i wneud, anfonwch gopi o'r taliad at trwyddedu@sirddinbych.gov.uk.

Cod cost

Rhowch y cod cost 3476-40100 wrth wneud taliad trwydded cerbyd hacni.

Gall methu â darparu’r cod cost priodol neu enw’r eiddo achosi oedi wrth brosesu eich cais. 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Cais am eithriad rhag dyletswyddau o dan ddeddf Cydraddoldeb 2010 (PDF, 611KB)

Llywodraeth Cymru: Tacsis a cherbydau hurio preifat - polisi eithriadau meddygol o dan y ddeddf cydraddoldeb (gwefan allanol)