Hawlenni sgip

Mae’n rhaid i chi gael hawlen i roi sgip ar ffordd. Mae hyn yn cynnwys rhoi sgip ar balmant ac ar ymyl gwair. Mae hawlen sgip yn cael ei galw weithiau’n drwydded sgip.

Sut ydw i'n gwneud cais?

Dim ond ceisiadau gan gwmnïau llogi sgipiau gydag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth £5 miliwn y byddwn yn eu derbyn. Nid oes modd i unigolion wneud cais am hawlenni sgip.

I wneud cais am hawlen sgip, cysylltwch â chwmni llogi sgipiau o’ch dewis. Bydd y cwmni wedyn yn cwblhau’r ffurflen gais hon ac yn ei hanfon i'r cyfeiriad ar y ffurflen.

Faint mae'n costio?

Y ffi ar gyfer trwydded sgip yw £26 am hyd at 7 diwrnod a £74 y mis.

Y ffi ar gyfer trwydded sgip 'Roll On/Roll Off' yw £53 am hyd at 7 diwrnod a £184 y mis.

Bydd ffi ychwanegol o £11 y dydd os yw’r sgip mewn lleoliad gwaharddedig, cyfyngedig neu rwystredig.

Cais ôl-weithredol: £105 a ffi’r drwydded. Mae hyn yn gymwys ar gyfer sgip sy'n cael ei ganfod ar y briffordd heb drwydded.

Byddwn yn anfon anfoneb pob mis i’r cwmni llogi a fydd yn codi’r tâl arnoch chi.