Trwydded sgaffaldiau

Mae’n rhaid i chi gael trwydded cyn codi sgaffaldiau.

Os ydych chi eisiau codi sgaffaldiau ar ffordd, palmant, llwybr cerdded, ymyl gwair neu ar stryd gefn mae’n rhaid i chi gael trwydded gan y Cyngor.

Sut ydw i'n gwneud cais?

Dim ond ceisiadau gan gwmnïau sgaffaldiau gydag yswiriant atebolrwydd cyhoedd gwerth £45 miliwn y byddwn yn eu derbyn. Nid oes modd i unigolion wneud cais am drwydded sgaffaldiau.

Os ydych chi eisiau codi sgaffaldiau ar ffordd, palmant, llwybr cerdded, ymyl gwair neu stryd gefn mae’n rhaid i chi gysylltu â chwmni sgaffaldiau. Bydd y cwmni wedyn yn gwneud cais am drwydded ar eich rhan ac yn cysylltu â ni i drefnu trwydded ar gyfer pob ffordd sy’n cael ei heffeithio.

Fe ddylai’r cwmni sgaffaldiau gwblhau'r ffurflen gais hon a’i hanfon i’r cyfeiriad e-bost ar y ffurflen.

Faint mae'n costio?

Mae’n rhaif talu ffi o £69.30 (hyd at 10m), £86.90 (10m-50m), £104.50 (dros 50m), y mis ar gyfer y drwydded sgaffald yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych ymlaen llaw.

Mae cost ychwanegol o £12.10 y dydd yn gymwys os yw’r sgaffald mewn lleoliad sy’n waharddedig, cyfyngedig, neu rwystredig. Bydd ffi ychwanegol o £115.50 yn gymwys os ydynt yn canfod sgaffald ar briffordd heb drwydded.

Ar ôl i’ch cais gael ei brosesu, bydd ein hadran Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn cysylltu efo chi i drefnu taliad.