Croeso Gan y Prif Weithredwr
Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â ni yma yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Mae Sir Ddinbych yn lle gwych i weithio a hefyd yn lle gwirioneddol fendigedig i fyw ynddo. Rhwng trefi bywiog y Rhyl a Phrestatyn ar yr arfordir, canolfannau hanesyddol Llanelwy, Dinbych a Rhuthun a thirweddau godidog Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae ein sir yn cynnig ansawdd bywyd ardderchog a naws gymunedol gref.
Mae’n fraint imi fod wedi gwasanaethu Cyngor Sir Ddinbych ers ei sefydlu ym 1996 a bûm yn cyflawni amryw swyddogaethau ar hyd y blynyddoedd. Ers pedair blynedd bellach, bu’n fraint imi fod yn Brif Weithredwr. Rwy’n falch o weithio ochr yn ochr â chydweithwyr diwyd mewn sefydliad sy’n perfformio’n dda ac yn meithrin partneriaethau â phreswylwyr, busnesau a chymunedau i ddarparu gwasanaethau rhagorol gyda’r adnoddau sydd ar gael.
Fel un o aelodau ein Tîm Arwain Strategol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth osod cyfeiriad strategol eich gwasanaethau. Byddwch yn cydweithio i foderneiddio’r Cyngor, annog dyfeisgarwch a hyrwyddo gwelliant parhaus, gan sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol ac yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon ar ran pobl Sir Ddinbych.
Rydym yn chwilio am arweinydd uchelgeisiol a blaengar sy’n meddwl yn strategol, yn datrys problemau’n greadigol ac yn medru rhoi cyngor arbenigol i’n Haelodau Etholedig wrth lunio polisïau a gwerthoedd y Cyngor a’u rhoi ar waith.
Os ydych chi’n barod i arwain trawsnewid ac annog newid er gwell mewn sefydliad blaengar a chryf ei berfformiad, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Yn gywir,
Graham H Boase
Prif Weithredwr