Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Trosolwg

Mae’r system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig wedi dechrau newid nawr. Bydd y newid yn digwydd dros gyfnod o dair blynedd a bydd y term Anghenion Addysgol Arbennig yn cael ei ddisodli gan y term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd hwn yn disodli’r term Anawsterau ac Anableddau Dysgu (AAD) hefyd.

Fel rhan o’r newidiadau hyn, bydd pwyslais ar anelu’n uchel a gwella canlyniadau i’r holl blant a phobl ifanc sydd ag ADY.

Ar gyfer y mwyafrif o blant a phobl ifanc, mae modd diwallu eu hanghenion trwy addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Dylai pob lleoliad addysg roi addysgu gwahaniaethol neu gefnogaeth arall wedi’i thargedu ar waith er mwyn helpu disgyblion i wneud cynnydd, lle bo hynny’n briodol. Fodd bynnag, bydd gan nifer fach o blant a phobl ifanc ADY sy’n golygu bod angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY). Mae DDdY yn ychwanegol at neu’n wahanol i ddarpariaeth addysg neu hyfforddiant sydd ar gael yn gyffredinol i bawb. Mae esbonio sut byddwn ni’n diwallu anghenion eich plentyn yn cael ei alw’n ymateb graddedig.

Beth mae'r cyfan yn ei olygu?

O fis Medi 2021, cyflwynwyd y term Anghenion Dysgu Ychwanegol yn lle’r term Anghenion Addysgol Arbennig, a bydd yn cwmpasu plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anghenion sy’n golygu bod angen DDdY.

Mae gan unigolyn anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo neu ganddi anhawster neu anabledd dysgu (pa un a yw'r anhawster neu’r anabledd dysgu yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae’n bwysig cofio bod plant a phobl ifanc yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd, ac y gallai eu hanghenion newid dros amser. Trwy gylch parhaus o adnabod anghenion a rhannu gwybodaeth, cynllunio, gweithredu ac adolygu cynnydd, mae modd canfod a darparu cefnogaeth wahanol yn ôl yr angen.

Gellid cynyddu, lleihau neu newid y gefnogaeth dros amser yn unol â chynnydd unigol eich plentyn. Golyga hyn yr ailedrychir ar benderfyniadau a gweithredoedd blaenorol, cânt eu mireinio a’u hadolygu er mwyn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gynyddol o’ch plentyn. Mae’n eu cynorthwyo hefyd i wneud cynnydd ac yn eu helpu i wireddu eu gobeithion a’u dyheadau.

Beth i'w wneud os ydych chi’n credu bod ar eich plentyn angen cymorth

Os ydych chi’n pryderu ynghylch cynnydd eich plentyn, siaradwch â’r ysgol yn uniongyrchol. Bydd athro/ athrawes dosbarth eich plentyn yn:

  • Darparu cymorth ychwanegol i’ch plentyn a bydd hyn yn cael ei adolygu yn rheolaidd i weld a oes angen cymorth pellach.
  • Fe allwch gael cyngor a chymorth pellach gan Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol
  • Fe allwch gael cyngor gan arbenigwyr, fel seicolegydd addysg neu therapydd lleferydd.

Os yw’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn teimlo ei bod yn bosibl bod gan eich plentyn anghenion dysgu hirdymor, fe allant ystyried fod angen asesiad o ADY ar eich plentyn. Gall yr asesiad hwn gynnwys arsylwi, profion, archwiliad meddygol a chyfweliadau gyda’ch plentyn ac arbenigwyr ADY.

Y Blynyddoedd Cynnar

Os penderfynir bod gan blentyn nad yw eto o oedran ysgol gorfodol a nad yw mewn lleoliad ysgol hefo ADY, yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am sicrhau’r DDdY ac am ysgrifennu eu Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae gan yr Awdurdod Lleol Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar ac mae modd cysylltu â’r swyddog yma i gael cyngor a chefnogaeth.

Cael mwy o wybodaeth am ADY ar gyfer plant cyn oed ysgol.

Disgyblion o Oed Ysgol

Ar gyfer Plant sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol, yr athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yw'r pwynt cyswllt cyntaf. Byddan nhw’n gallu gwrando ar eich pryderon, ac os gofynnir iddynt, byddant yn dechrau ystyried a oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei wneud o fewn 35 diwrnod gwaith, oni bai bod angen asesiad arbenigol pellach ar yr ysgol trwy’r Awdurdod Lleol neu Wasanaethau Iechyd - mewn achosion o’r fath, gall fod angen 12 wythnos ychwanegol.

Sefydliadau Addysg Bellach

Bydd pobl ifanc sy’n mynd i Sefydliad Addysg Bellach sydd ag ADY yn cael eu hanghenion wedi’u hadnabod trwy’r Sefydliad Addysg Bellach sy’n darparu yn y lle cyntaf. Mewn nifer fach o achosion hynod gymhleth, gall y Sefydliad Addysg Bellach gyfeirio person ifanc (gyda’u cydsyniad) at yr Awdurdod Lleol i gael cyngor a chefnogaeth bellach.

Darpariaeth Gyffredinol

Darpariaeth Gyffredinol ydy’r enw a roddir ar y ddarpariaeth sydd ar gael yn arferol i’r holl blant a phobl ifanc ac mae’n bosib y caiff ei darparu ar lefel dosbarth cyfan, grwpiau bach neu unigolion. Mae’n cael ei monitro a’i thracio yn unol â gweithdrefnau’r ysgol a gallai fod yn ddarpariaeth tymor byr neu’n fwy hir-dymor.

Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol

Os yw’n ymddangos fel pe na bai plentyn neu berson ifanc yn gwneud cynnydd, yna gall fod angen DDdY. Ar gyfer hyn, bydd anghenion y disgybl yn cael eu hadnabod trwy ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a gallai arwain at ddarparu darpariaeth ychwanegol a gwahanol er mwyn cynorthwyo’r disgybl i wneud cynnydd. Mae plant a phobl ifanc sydd yn cael DDdY yn cael eu hystyried yn rhai sydd ag ADY ac felly bydd angen CDU arnynt.

Cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg

Un o nodau craidd y Ddeddf ADY yw creu system gymorth ddwyieithog ar gyfer dysgwyr ag ADY. Mae hi’n ofynnol i awdurdodau lleol/cyrff llywodraethu ystyried a ddylai plentyn neu berson ifanc gael Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) yn y Gymraeg; mae’r ddyletswydd hon yn un barhaus, yn hytrach na phenderfyniad a wneir unwaith yn unig.  Os oes angen DDdY drwy gyfrwng y Gymraeg ar blentyn neu berson ifanc, bydd yr ysgol, neu Cyngor Sir Ddinbych yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau’r ddarpariaeth.

Cynllun Datblygu Unigol

Mae Cynllun Datblygu Unigol, neu CDU, yn cymryd lle Datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig ac mewn rhai achosion, Cynlluniau Addysg Unigol. Bydd y cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar yr unigolyn a gallant gynnwys nifer o asiantaethau, gan sicrhau mai’r plentyn neu’r person ifanc sydd yng nghanol y broses o gynllunio eu darpariaeth.

Bydd CDUau yn cael eu cyflwyno’n raddol dros y tair blynedd nesaf gan ddilyn amserlen Llywodraeth Cymru, wrth i’r Datganiadau a’r Cynlluniau Dysgu Unigol a ddefnyddir ar hyn o bryd gael eu hadolygu. Bydd cynlluniau’n cael eu hadolygu’n flynyddol o leiaf a byddant yn cael eu creu gyda’r plentyn neu’r person ifanc a’u rhieni/gofalwyr neu eiriolwr. Mae modd eu hadolygu hefyd os bydd gwybodaeth neu anghenion yn newid, ar gais y plentyn, y person ifanc neu riant/gofalwr.

Bwriad y CDUau hyn ydy amlinellu ADY plentyn neu berson ifanc, eu dyheadau a’u targedau ar gyfer eu cyflawni. Mae angen CDU ar unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn DDdY. Bydd y rhan fwyaf o’r CDUau hyn yn cael eu hysgrifennu a’u cynnal gan ysgolion, ond mewn rhai achosion mwy cymhleth, gall ysgolion wneud cais i’r Awdurdod Lleol ystyried anghenion y plentyn neu’r person ifanc. Os canfyddir bod yr anghenion hyn yn rhai cymhleth a bod angen mewnbwn arbenigol, gall yr Awdurdod Lleol ysgrifennu’r cynllun ac yna naill ai gyfarwyddo’r ysgol i gynnal y cynllun neu ei gynnal eu hunain.

Gall rhieni a phobl ifanc wneud cais i gael penderfyniadau penodol y maent yn anghytuno â nhw wedi’u hailystyried:

  1. ailystyried a oes gan blentyn ADY ai peidio;
  2. ailystyried CDU ysgol gyda golwg ar ei ddiwygio;
  3. Ailystyried a ddylai’r Awdurdod Lleol gymryd cyfrifoldeb dros gynnal CDU;
  4. ailystyried penderfyniad ysgol i roi’r gorau i gynnal CDU.

Ar gyfer plant nad ydynt o oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir gan Awdurdod Lleol, sydd ag ADY ac sydd angen CDU, bydd yn cael ei ysgrifennu a’i gynnal gan yr Awdurdod Lleol, trwy Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar.

Mewn achosion o ADY ôl-16, y darparwr ôl-16 fydd yn ysgrifennu ac yn cynnal y CDU yn y mwyafrif o achosion, gan gyfeirio at yr Awdurdod Lleol mewn achosion o ADY cymhleth neu niferus yn unig. Dim ond pan na fyddai’n rhesymol i’r darparwr ôl-16 sicrhau’r ddarpariaeth y byddai hynny’n digwydd. Yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am ysgrifennu a chynnal CDUau ar gyfer disgyblion a addysgir gartref, plant sy’n derbyn gofal, a disgyblion sydd wedi’u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad y nodir bod ganddynt ADY.

Dulliau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Mae Dulliau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn ganolog i’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Cymru. Maen nhw’n ymwneud â rhoi’r plentyn neu’r person ifanc yng nghanol y broses o ganfod eu hanghenion, cynllunio eu darpariaeth ac adolygu hynny.

Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses o ganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw ac ar eu cyfer, o gynllunio eu darpariaeth ac o amlinellu eu gobeithion a’u dyheadau, gan egluro sut y maent yn dymuno eu gwireddu oll yn rhan o ethos cyffredinol o ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Dylai adolygiadau CDUau gael eu cynnal mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a gall ysgol eich plentyn ddarparu gwybodaeth neu ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych ynglŷn â hynny.

Beth ddylech chi wneud os nad ydych yn hapus â phenderfyniad

Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ysgol ynghylch ystyriaeth ADY, gallwch ofyn i’r Awdurdod Lleol ailystyried y penderfyniad hwn. Cyn gwneud hynny, byddwn yn argymell eich bod yn trafod eich pryderon gydag ysgol eich plentyn. Ar ôl y drafodaeth, os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch gysylltu â’r Awdurdod Lleol i wneud cais am ail ystyriaeth drwy gysylltu â’r Awdurdod Lleol ar y manylion sydd ar waelod y dudalen hon.

Gall y cyfnod ailystyried gymryd hyd at saith wythnos. Yn ystod proses ailystyried, bydd yr Awdurdod Lleol yn adolygu’r wybodaeth a ddefnyddiwyd gan yr ysgol i wneud eu penderfyniad a gallant benderfynu eu bod yn cytuno â phenderfyniad yr ysgol neu eu bod yn anghytuno â’r penderfyniad hwnnw. Petai’r Awdurdod Lleol yn anghytuno, gallent gyfarwyddo’r ysgol naill ai i ysgrifennu a chynnal CDU ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc neu i ddiwygio’r fersiwn bresennol.

Os nad ydych chi’n hapus â phenderfyniad yr Awdurdod Lleol ynglŷn ag ADY, mae gennych hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.  Rhaid gwneud unrhyw apeliadau erbyn y diwrnod gwaith cyntaf o fewn wyth wythnos i benderfyniad yr Awdurdod Lleol. Os defnyddir y gwasanaethau datrys anghydfod a nodir isod, caiff yr amserlen ar gyfer apelio ei hymestyn am wyth wythnos bellach.

Dysgwch fwy am y Tribiwnlys Addysg (Cymru) (gwefan allanol)

Datrys Anghydfod

Os oes eisiau cyngor, canllawiau a chefnogaeth annibynnol arnoch, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy’n cael ei ddarparu gan SNAP Cymru

Darganfyddwch sut i gysylltu â SNAP Cymru (gwefan allanol)

Mae Gwasanaeth Datrys Anghydfod ar gael hefyd, wedi’i ddarparu gan SNAP Cymru. Gallwch gael gwybodaeth gan eich cydlynydd dynodedig neu trwy gysylltu â SNAP Cymru.

Dysgwch fwy am Wasanaeth Datrys AnghytundebAU SNAP Cymru (gwefan allanol)

Cyllid

Rydym yn dyrannu cyllid i ysgolion i gefnogi dysgwyr mewn ysgolion prif ffrwd yn cynnwys y rhai sydd ag ADY. 

Cytunir ar swm yr arian a ddirprwyi i ysgolion gan Benaethiaid yn y Fforwm Cyllideb Ysgolion fel canran o’r gyllideb ysgol gyffredinol. Mae Sir Ddinbych yn dirprwyo’r mwyafrif o’r gyllideb addysg i ysgolion.

Cyfarfod Cymedroli

I sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddyrannu’n addas i ysgolion unigol, mae Cyfarfod Cymedroli blynyddol yn digwydd rhwng y Pennaeth, y Cydlynydd ADY yn yr ysgol ac Ymgynghorwyr Arbenigol o'r Awdurdod Lleol.

Sicrhau Ansawdd

Rydym yn cyflawni gweithgaredd sicrhau ansawdd gydag ysgolion i sicrhau bod y ddarpariaeth a nodir i’r dysgwyr, yn cynnwys y rhai ag ADY yn ei lle a bod yr effaith yn cael ei monitro’n effeithiol. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth o ran sut i gofnodi’r gefnogaeth sydd gan ysgolion i ddysgwyr, yn cynnwys y rhai ag ADY.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am gefnogi dysgwyr mewn ysgolion prif ffrwd yn Sir Ddinbych, yn cynnwys y rhai ag ADY, cysylltwch â’r Cydlynydd ADY yn yr ysgol.

Dewch o hyd i fanylion cyswllt ysgol er mwyn cysylltu â Chydlynydd ADY.

Fel arall, gallwch gysylltu â: 

Ysgrifennwch at:

Gwasanaethau Addysg
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Ffôn: 01824 708064