Anghenion Dysgu Ychwanegol: Plant cyn-ysgol

Mae cefnogaeth ar gael i blant cyn ysgol sydd ag oedi datblygiadol. 

Mae plant yn datblygu yn wahanol ac mae’r rhan fwyaf yn wynebu rhywfaint o heriau yn ystod eu siwrnai ddysgu y gellir eu goresgyn yn aml gan gyfleoedd dysgu o ansawdd da.

Cefnogi

Os oes gennych bryderon ynglŷn â datblygiad eich plentyn, rydym yn argymell eich bod yn eu trafod gyda phobl sy'n adnabod eich plentyn yn dda, megis aelodau o’r teulu neu ffrindiau, a gweithwyr iechyd proffesiynol megis eich ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu baediatregydd.

Plant sy’n mynychu lleoliad gofal plant

Os yw eich plentyn yn mynychu lleoliad gofal plant ac mae gennych bryderon ynglŷn â’u datblygiad, siaradwch gyda’ch darparwr gofal plant gan y byddant yn gallu:

  • adnabod meysydd y mae eich plentyn yn eu cael yn anodd trwy arsylwi ar eu chwarae
  • cynnal asesiadau i adnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu
  • cwblhau’r Proffil Cyfnod Sylfaen neu gynnal Wellcomm (offeryn Sgrinio Datblygiad Iaith)
  • cynllunio’r camau nesaf yn siwrnai ddysgu eich plentyn a gweithredu Strategau Cyffredinol i helpu cynnydd eich plentyn a fydd yn cael ei fonitro yn rheolaidd

Byddwch chi, fel rhieni/gofalwyr yn rhan bwysig yn y broses hon wrth i blant ddysgu yn y cartref ac mewn gofal plant.

Plant nad ydynt yn mynychu lleoliad gofal plant

Os nad yw eich plentyn yn mynychu gofal plant ac mae gennych bryderon ynglŷn â’u datblygiad, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu baediatregydd. Gallant gynnig cyngor a gwneud atgyfeiriad at Dîm Estyn Allan Cyn Ysgol Sir Ddinbych.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gysylltu â ni os hoffech fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i blant cyn ysgol sydd ag oedi datblygiadol.

Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Rydym yn darparu cefnogaeth ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddiwallu anghenion plant.

Mae’n bwysig deall beth sy’n gweithio’n dda i’ch plentyn yn y cartref ac mewn gofal plant; i ganolbwyntio ar gryfderau a dyheadau.

Rhaid i ni ystyried beth sy'n bwysig i'r plentyn; beth sy'n eu gwneud yn hapus ac yn gyflawn er mwyn i ni ddefnyddio’r rhain i ysgogi a gwella’r dysgu.

Gyda’n gilydd, mae angen i ni ystyried y ffordd orau o gefnogi eich plentyn, i’w helpu i wneud cynnydd a goresgyn unrhyw rwystrau i ddysgu.

Mwy am Arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn addysg (gwefan allanol).