Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych: Caniatâd ar gyfer cwnsela 

Cyn darparu sesiwn cwnsela, mae angen i Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Pobl Ifanc Sir Ddinbych gael caniatâd gan y plentyn, unigolyn ifanc, neu riant neu gwarcheidwad.

Pwy sydd angen darparu caniatâd?

Rhaid i blant a phobl ifanc oedran ysgol gynradd gael caniatâd eu rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr er mwyn cael eu hatgyfeirio atom.

Rhaid i bobl ifanc dan 16 oed gael eu hasesu gennym mi i sicrhau bod ganddynt ‘gymhwysedd Gillick’ i gael cwnsela heb heb ganiatâd rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr.

Nid oes angen caniatâd rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr ar bobl ifanc dros 16 oed er mwyn cael mynediad i'n gwasanaeth.

Sut i roi caniatâd

Bydd angen i chi ddarllen y canlynol cyn cwblhau rhoi eich caniatâd ar-lein;

Plant a Phobl Ifanc

Gall plant a phobl ifanc roi eu caniatâd ar-lein i gymryd rhan mewn sesiwn cwnsela.

Rhoi eich caniatâd ar-lein i gymryd rhan mewn sesiwn cwnsela

Rhieni a gwarcheidwaid 

Gall rhieni a gwarcheidwaid roi eu caniatâd ar-lein i blentyn neu unigolyn ifanc gymryd rhan mewn sesiwn cwnsela.

Caniatâd rhieni a gwarcheidwaid i blentyn neu unigolyn ifanc gymryd rhan mewn sesiwn cwnsela