Glasoed, Mislif ac Urddas Mislif i Dadau Sir Ddinbych
Mae Glasoed, Mislif ac Urddas Mislif i Dadau Sir Ddinbych yn darparu gweminar a sesiwn holi ac ateb am ddim i helpu tadau, llystadau, teidiau a gofalwyr gwrywaidd yn Sir Ddinbych i deimlo’n fwy hyderus wrth gefnogi pobl ifanc trwy lasoed a’r mislif.
Brook fydd yn darparu’r sesiwn hon, sef elusen arweiniol y DU sy’n cefnogi iechyd rhywiol a lles pobl ifanc.
Mae’r sesiwn holi ac ateb yn cynnig gofod anffurfiol i dadau a gofalwyr gwrywaidd:
- Fynd dros bwyntiau allweddol y gweminar
- Gofyn unrhyw beth - nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fawr neu’n rhy fach
- Derbyn awgrymiadau ymarferol a chyngor gonest
- Rhannu profiadau gyda thadau eraill
- Magu hyder yn cefnogi’r bobl ifanc yn eich bywyd

Pam ei fod yn bwysig
Mae’n gallu bod yn anodd trafod y glasoed a’r mislif, ond mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Nid oes rhaid i chi wybod yr atebion i gyd. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw bod yn bresennol, yn ymwybodol ac yn agored.
Gadewch i ni helpu pobl ifanc i deimlo’n hyderus, teimlo eu bod yn cael eu parchu, a pheidio â theimlo cywilydd o’u cyrff.
Pwy all fynychu’r digwyddiad hwn?
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer tadau, llystadau, ewythrod, teidiau, a gofalwyr gwrywaidd plant neu bobl ifanc 9 oed a hŷn yn Sir Ddinbych.
P’un a ydych yn teimlo’n hyderus neu’n ansicr, dyma’r digwyddiad i chi.
Pryd a lle mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal?
Gallwch wylio’r gweminar am ddim ar unrhyw bryd, a chynhelir y sesiwn holi ac ateb ar-lein dros Zoom rhwng 6:30pm a 7:3:0pm ddydd Llun, 2 Mehefin 2025.
Find out more about Zoom (external website)
Sut i gymryd rhan
Gallwch wylio’r gweminar Urddas Mislif am ddim ar Youtube i:
- ddal i fyny â beth mae pobl ifanc yn ei brofi yn ystod y glasoed a’r mislif
- dysgu am urddas mislif, sut i siarad yn agored, a sut i ddarparu cefnogaeth ymarferol
Gallwch wylio’r gweminar Urddas Mislif am ddim ar Youtube (gwefan allanol)
Cofrestru ar gyfer y sesiwn holi ac ateb
Os hoffech chi fynychu’r sesiwn holi ac ateb, bydd yn rhaid i chi gofrestru ar ei chyfer.
Rydym yn argymell cofrestru’n gynnar gan mai hyn a hyn o lefydd sydd ar gael.
Cofrestru ar gyfer y sesiwn Glasoed, Mislif ac Urddas Mislif i Dadau Sir Ddinbych
Rhagor o wybodaeth
Wedi’i ariannu gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, mae’r sesiwn yn rhan o ymrwymiad ehangach i sicrhau fod pawb yn gallu siarad mewn modd agored a chefnogol am y mislif a thyfu i fyny.