Beth ddylwn i ei wneud â batris cartref?

Batris

Nid oes posib’ ailgylchu batris yn eich bin ailgylchu cymysg glas na sachau ailgylchu clir. Ceisiwch ddefnyddio batris ailwefru lle bo modd.

Peidiwch â rhoi batris o unrhyw fath yn unrhyw rai o’ch cynwysyddion gwastraff oherwydd risg o dân yn eich bin chi, ein cerbydau casglu gwastraff ni neu yn y cyfleuster trin gwastraff.

Mae batris yn niweidiol i’r amgylchedd ac mae’n rhaid iddynt gael eu hailgylchu gan gwmnïau arbenigol. Mae’n ofynnol gan y gyfraith i bob manwerthwr trydanol ac archfarchnad fawr ddarparu cyfleusterau ailgylchu am ddim. Ewch â nhw gyda chi pan fyddwch yn ymweld â'r siopau hyn i'w gwaredu'n ddiogel.

Gallwch fynd â’ch hen fatris i lawer o siopau lleol - chwiliwch am yr agosaf ar RecycleNow (gwefan allanol).

Beth ddylwn i ei wneud â batris car?