Beth ddylwn i ei wneud â chrochenwaith neu lestri?

Gall trugareddau fel tsieina heb dorri gael eu hailddefnyddio a’u rhoi i siopau elusen lleol neu Siop Ailddefnyddio’r Rhyl ym Mharc Gwastraff ac Ailgylchu’r Rhyl.

Siop Ailddefnyddio: Parc Gwastraff ac Ailgylchu'r Rhyl

Mae Siop ‘Ailddefnyddio’, wedi’i lleoli ym Mharc Ailgylchu gwastraff y Cartref y Rhyl, bellach ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

Gellir rhoi bywyd newydd i hen ddodrefn ac eitemau trydanol sy’n gweithio, yn ogystal â dillad o ansawdd uchel neu eitemau cartref a bric-a-brac eraill drwy gyfrannu eich eitemau diangen i’r Siop Ailddefnyddio.

Mae man cyfrannu ar agor 7 niwrnod yr wythnos yn y tri Pharc Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Tsieina/crochenwaith wedi torri

Dylai tsieina neu grochenwaith wedi torri gael ei lapio mewn papur newydd a’i roi yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sach binc i gael gwared ag o’n ddiogel.

Bin gwastraff cyffredinol du

Bin gwastraff cyffredinol du.

Sachau pinc

Sachau pinc.