Darganfyddwch sut i archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu
Parc Ailgylchu a Gwastraff y Rhyl
Marsh Road
Y Rhyl
LL18 2AD
Dim ond preswylwyr Sir Ddinbych a Chonwy a gaiff ddefnyddio’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.
Gellir dod â gwastraff o gartrefi yn Sir Ddinbych/Conwy yn unig i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.
Gall ffrindiau a theulu ddod â gwastraff i’r Parc Ailgylchu a Gwastraff ar ran un o breswylwyr Sir Ddinbych/Conwy.
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn breswylydd yn Sir Ddinbych/Conwy (e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustodau) i ddefnyddio’r Parc Ailgylchu a Gwastraff hwn.
Amseroedd agor
Ebrill - Hydref
- Dydd Llun: 9am - 5pm
- Dydd Mawrth: 9am - 5pm
- Dydd Mercher: 9am - 5pm
- Dydd Iau: 9am - 5pm
- Dydd Gwener: 9am - 5pm
- Dydd Sadwrn: 9am - 5pm
- Dydd Sul: 9am - 4pm
Tachwedd - Mawrth
- Dydd Llun: 9am - 4pm
- Dydd Mawrth: 9am - 4pm
- Dydd Mercher: 9am - 4pm
- Dydd Iau: 9am - 4pm
- Dydd Gwener: 9am - 4pm
- Saturday: 9am - 4pm
- Dydd Sadwrn: 9am - 4pm
Wedi cau: 25ain, 26ain ac 1af Ionawr.
Siop Dewis Ailddefnyddio (Parc Gwastraff ac Ailgylchu yn y Rhyl)
Mae sawl eitem sy’n hollol berffaith i’w hailddefnyddio yn cael eu taflu yn ein parciau ailgylchu a gwastraff fel sbwriel.
Gellir rhoi eitemau cartref a ellir eu hailgylchu megis dillad, teganau, dodrefn a beics i’r Siop Dewis Ailddefnyddio ym Mharc Ailgylchu a Gwastraff y Rhyl.
Rhoddion
Os oes gennych eitem nad ydych bellach ei hangen, sy’n rhy dda i’w hailgylchu neu ei thaflu, dewch â hi i’n siop Dewis Ailddefnyddio a siaradwch gydag aelod o staff. Nid oes angen apwyntiad.
Mae siop Dewis Ailddefnyddio y Rhyl ar agor bob dydd yn ystod yr amseroedd canlynol:
- Ebrill i Hydref: 9am i 4:30pm
- Tachwedd i Fawrth: 9am i 3:30pm
Ailgylchu ar gael ar gyfer
- Caniau erosol
- Ffoil alwminiwm
- Batris
- Batris car
- Cardfwrdd
- Cartonau
- Monitor Cyfrifiadur
- Cyfrifiaduron
- Olew coginio
- Nwyddau trydanol
- Olew modur
- Tiwbiau fflworoleuol
- Oergelloedd a rhewgelloedd
- Dodrefn
- Poteli nwy (costau'n daladwy)
- Poteli a jariau gwydr
- Gwydr fflat
- Gwastraff gardd
- Matresi
- Ffonau symudol
- Papur
- Paent
- Bwrdd plastr (costau'n daladwy)
- Poteli plastig
- Cetris peiriannau argraffu
- Metel sgrap
Gwasanaethau gwaredu sydd ar gael
Eitemau nad oes modd eu hailgylchu o aelwydydd (rhaid eu gwahanu o'r gwastraff y gellir ei ailgylchu cyn cyrraedd)
- Carpedi
- Ffelt toi (costau'n daladwy)
- Eitemau eraill o'r cartref na ellir eu hailgylchu
Gwastraff peryglus o aelwydydd
- Cemegau'r cartref
- Asbestos (mae'r terfynau'n berthnasol)
- Poteli nwy (costau'n daladwy)
Codi tâl ar wastraff DIY
Bydd yr awdurdod yn codi tâl i dderbyn gwastraff domestig penodol nad ydynt yn cael eu hystyried yn wastraff y cartref.
Ffioedd gwastraff DIY.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.