Beth ddylwn i ei wneud â photiau blodau?

Gall potiau addurniadol heb eu difrodi gael eu glanhau a’u rhoi i’r Siop Ailddefnyddio ym Mharc Ailgylchu a Gwastraff y Rhyl drwy eu danfon i unrhyw rai o’n Parciau Ailgylchu a Gwastraff.

Siop Ailddefnyddio: Parc Gwastraff ac Ailgylchu'r Rhyl

Mae Siop ‘Ailddefnyddio’, wedi’i lleoli ym Mharc Ailgylchu gwastraff y Cartref y Rhyl, bellach ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

Gellir rhoi bywyd newydd i hen ddodrefn ac eitemau trydanol sy’n gweithio, yn ogystal â dillad o ansawdd uchel neu eitemau cartref a bric-a-brac eraill drwy gyfrannu eich eitemau diangen i’r Siop Ailddefnyddio.

Mae man cyfrannu ar agor 7 niwrnod yr wythnos yn y tri Pharc Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Ni ellir ailgylchu potiau blodau plastig, terracotta a serameg a dylid eu rhoi yn eich bin gwastraff cyffredinol du neu sachau pinc.

Bin gwastraff cyffredinol du

Bin gwastraff cyffredinol du.

Sachau pinc

Sachau pinc.