Pafiliwn Llangollen, Llangollen


Bydd angen i chi drefnu apwyntiad cyn ymweld â Pharc Gwastraff ac Ailgylchu.

Darganfyddwch sut i archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu

Pafiliwn Llangollen
Ffordd yr Abaty
Llangollen
LL20 8SW

Dim ond preswylwyr o Sir Ddinbych (Dyffryn Dyfrdwy) gallai defnyddio’r parc ailgylchu yma.

Mi fydd angen i chi darparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn breswyliwr o Sir Ddinbych (e.e. trwydded gyrru neu bil cyfleustodau) er mwyn ddefnyddio'r parc ailgylchu yma.

Ni fydd mynediad yn cael ei ganiatáu i bobl sydd ddim yn breswyliwr o Sir Ddinbych.

Amseroedd agor

Bob 2ail a 4ydd dydd Sadwrn o bob mis 9am i 11am - ailgylchu a chael gwared ar wastraff a gwastraff yr ardd.

Dysgwch fwy am y gwasanaeth tebyg yng Nghorwen.

Beth allaf ddod gyda mi?

  • Eitemau'r cartref megis dodrefn, plastigion caled (er enghraifft, teganau), metel sgrap, eitemau trydanol (er enghraifft oergelloedd, poptai) ac eitemau mawr megis matresi.
  • Eitemau i'w hailgylchu fel poteli plastig, caniau tun, cardfwrdd, papur a photeli/jariau gwydr.
  • Gwastraff yr ardd (dim pridd - gofynnir i chi ysgwyd unrhyw bridd oddi ar blanhigion a llwyni).
  • Eitemau nad oes modd eu hailgylchu fel polystyren.

Beth na allaf ddod gyda mi?

  • Peidiwch â dod a gwastraff anhrefnedig - sicrhewch eich bod yn gwahanu eich eitemau ailgylchu cyn i chi ddod.
  • Ni allwn dderbyn gwastraff peryglus na gwastraff DIY neu adeiladu fel rwbel, pridd, brics, teils, poteli nwy, ffelt toi, ffenestri, drysau, pren neu fwrdd plastr. Bydd angen mynd â’r eitemau hyn i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.