Ymweld â'n Parciau Gwastraff ac Ailgylchu

Mae ein Parciau Gwastraff ac Ailgylchu yn agored yn ystod eu horiau arferol ac rydym wedi cyflwyno system archebu i sicrhau eu bod yn ddiogel i chi eu defnyddio ac i’n staff weithio ynddynt.

Archebu ymlaen llaw

Mae’n rhaid i chi archebu slot apwyntiad ymlaen llaw cyn ymweld. Ni chaniateir mynediad i unrhyw un sydd heb drefnu apwyntiad.

Sut i archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu


Gallwch archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu ar-lein ble gallwch ddewis amser ar gael sy'n addas i chi. Gallwch archebu hyd at chwech apwyntiad mewn unrhyw gyfnod o ddau fis.

Peidiwch ag achebu lle os oes gennych chi, neu rywun rydych chi'n byw gydag ef, symptomau COVID-19.

Archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu arlein

Gallwch hefyd archebu lle drwy ein ffonio ni ar 01824 706000.

Canslo neu ddiwygio archeb

Os nad oes arnoch chi angen eich archeb neu’n methu ymweld â’r parc gwastraff ac ailgylchu mwyach, a fyddech cystal â chanslo eich archeb os gwelwch yn dda, er mwyn i ni fedru cynnig eich lle i rywun arall.

Gallwch ganslo neu ddiwygio eich archeb drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn e-bost cadarnhau eich archeb.

Fel arall, gallwch ffonio 01824 706000 i ganslo neu ddiwygio’ch archeb.

Trwyddedau

Bydd arnoch angen trwydded ar gyfer ein Parciau Ailgylchu a Gwastraff os byddwch chi’n dod â gwastraff mewn trelar sydd â mwy nag un echel neu gerbyd o fath masnachol.

Gwneud cais neu adnewyddu trwydded Ban ar Fan

Beth ydych angen ei wybod wrth ymweld â Pharc Gwastraff ac Ailgylchu

Wrth archebu i ymweld â Pharc Gwastraff ac Ailgylchu, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn:

  • dod â thystiolaeth o’ch cyfeiriad (fel trwydded yrru neu fil gwasanaeth)
  • dewch â’ch rhif cyfeirnod archebu gyda chi neu ni fyddwch yn cael mynediad i’r safle
  • cyrhaeddwch ar amser gan y byddwch ond yn cael mynd i'r safle ar yr amser a roddwyd i chi
  • didolwch yr holl eitemau a deunyddiau cyn cyrraedd y safle
  • arhoswch yn eich car nes byddwch yn cael caniatâd i ddod allan gan aelod o staff
  • ni ddylai mwy na dau o bobl adael eich car i ddadlwytho gwastraff ac ailgylchu.
  • dylech gydymffurfio â mesurau ymbellhau cymdeithasol bob amser neu gofynnir i chi adael y safle.
  • parchwch ein staff; mae rheolau safle ar waith i’ch diogelu chi a defnyddwyr eraill y safle, ac ni fydd ein staff yn mynd ar y safle os bydd gennych chi neu rhywun sy’n byw gyda chi symptomau COVID-19, fel tymheredd uchel neu beswch newydd, parhaus.