Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol: Cwestiynau Cyffredin

Gellir cofrestru ar gyfer pob ardal yn Sir Ddinbych o 8 Ionawr tan 1 Mawrth 2024. Bydd ffenestr gofrestru arall yn agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.



Beth yw 'nwyddau hylendid amsugnol' (absorbent hygiene products/AHP)?

‘Nwyddau hylendid amsugnol’, a elwir yn ‘AHP’, yw eitemau a ddefnyddir i amsugno hylifau a gwastraff corfforol, fel clytiau, bagiau clytiau a weips, yn ogystal â nwyddau anymataliaeth oedolion.

Yn ôl i'r brig


Beth yw'r gwasanaeth casgliadau AHP newydd?

O fis Mehefin 2024, rydym yn cyflwyno gwasanaeth casglu am ddim ar draws y sir ar gyfer eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn, byddwn yn casglu’r gwastraff hwn gennych chi bob wythnos.

Ar ôl ichi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, fe wnawn ni ddanfon y canlynol ichi:

  • cyflenwad o sachau piws untro i chi eu llenwi â’ch gwastraff AHP,
  • cadi du gyda chaead piws i chi roi eich sachau llawn ynddo i ni eu casglu,
  • set o dagiau ‘ail-archebu’ – pan fyddwch ar fin rhedeg allan o sachau, clymwch un o’r tagiau hyn i handlen eich cadi, ac fe wnawn ni adael cyflenwad newydd o sachau ar ben, neu wrth ymyl, eich cadi – a
  • llythyr yn cadarnhau’r diwrnod casglu, gyda nodyn atgoffa ynghylch yr hyn y byddwn yn ei gasglu fel rhan o’r gwasanaeth newydd hwn.

Byddwn yn danfon yr eitemau hyn i’ch cartref rhwng 23 Chwefror a 17 Mai 2024, cyn i’r gwasanaeth newydd gael ei lansio ar draws y sir, Mehefin 2024.

Yn ôl i'r brig


Pam ydych chi’n cyflwyno casgliadau newydd ar gyfer AHP?

Gwyddom fod hyd at 20% o’r hyn y mae preswylwyr yn eu rhoi yn eu bin du neu sachau pinc ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu yn wastraff AHP. Rydyn ni’n cyflwyno’r gwasanaeth newydd i symud y gwastraff hwn o’r cynwysyddion hynny, i greu mwy o le i’r gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Rydym hefyd wrthi’n ystyried ffyrdd y gallwn ailgylchu’r AHP a gasglwn gennych chi. O fis Mehefin 2024, byddwn yn dechrau casglu’r gwastraff hwn ar wahân i’ch gwastraff ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu ar draws y sir, fel y byddwn yn barod i ddechrau ailgylchu eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol ar unwaith pan fydd gennym gontract â chyfleuster ailgylchu.

Unwaith y gallwn ailgylchu gwastraff AHP, gallai gael ei ddefnyddio i gynhyrchu amrywiaeth o nwyddau newydd, a allai gynnwys byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianyddol i’w ddefnyddio ar wynebau ffyrdd.

Yn ôl i'r brig


Sut allaf i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau AHP newydd?

Gallwch gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol newydd a fydd yn gweithredu ar draws y sir o ddydd Llun 8 Ionawr hyd at 1 Mawrth 2024.

Os byddwch yn dewis peidio â chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu newydd, neu os nad ydych yn gymwys i gofrestru yn ystod y cyfnod cofrestru cychwynnol, dylech barhau i roi eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn eich cynhwysydd ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


Pa fathau o AHP fyddwch chi'n ei gasglu?

Byddwn yn casglu:

  • clytiau, bagiau clytiau a weips,
  • padelli gwely a phadiau leinio tafladwy,
  • padiau anymataliaeth,
  • padiau gwelyau a chadeiriau,
  • bagiau colostomi a stoma,
  • bagiau cathetr a photeli wrin,
  • menig plastig a ffedogau tafladwy.

Ni fyddwn yn casglu:

  • gwastraff clinigol, fel gorchuddion neu rwymau sydd wedi’u halogi â gwaed, nodwyddau, chwistrelli a nwyddau miniog eraill,
  • nwyddau hylendid, fel padiau leinio, tamponau a thyweli mislif,
  • unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu o gartref gan ddefnyddio cynwysyddion eraill a ddarperir gan y Cyngor, ac
  • unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol.

Yn ôl i'r brig


Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi'r eitemau anghywir yn y cadi AHP?

Os byddwch yn rhoi eitemau yn eich cadi na ddylent fod yno, ni fyddwn yn casglu ei gynnwys. Yn hytrach, byddwn yn:

  • rhoi taflen ichi i’ch atgoffa o’r hyn y gallwch ac na allwch ei roi yn eich cadi, ac yn
  • rhoi sticer neu dag ar eich cadi yn gofyn ichi sortio ei gynnwys, er mwyn ichi allu rhoi eich cadi wedi’i lenwi’n gywir allan eto ar eich dyddiad casglu nesaf.

Os byddwch yn rhoi’r eitemau anghywir yn eich cadi am yr eildro, ni fyddwn yn casglu ei gynnwys. Byddwn yn:

  • rhoi taflen arall ichi ac yn
  • rhoi sticer neu dag arall ar eu eich cadi.

Os byddwch yn rhoi’r eitemau anghywir yn eich cadi am y trydydd tro, ni fyddwn yn casglu ei gynnwys. Byddwn yn:

canslo eich cofrestriad o’r gwasanaeth.

Yn ôl i'r brig


Faint mae'r gwasanaeth casgliadau AHP newydd yn ei gostio?

Mae’r gwasanaeth casgliadau AHP newydd am ddim i breswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych.

Yn ôl i'r brig


Pa mor aml fyddwch chi’n casglu AHP?

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd, byddwn yn danfon llythyr ichi yn cadarnhau eich diwrnod casglu.

Byddwn yn casglu gwastraff AHP o’ch cartref bob wythnos.

Yn ôl i'r brig


Pwy sy'n cael cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau AHP newydd?

Caiff aelwydydd gyda babanod neu blant mewn clytiau, ac oedolion sy’n defnyddio nwyddau anymataliaeth, gofrestru ar gyfer y casgliadau AHP newydd.

Mae’n rhaid i gyfeiriad yr eiddo a roddir wrth gofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd fod yn brif gartref y sawl sy’n creu’r gwastraff.

Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael i:

Yn ôl i'r brig


Rwy'n edrych ar ôl fy wyrion/wyresau sy'n defnyddio clytiau. Gaf i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth?

Na chewch. Dim ond i gartrefi ble mai’r preswylwyr sy’n cynhyrchu’r gwastraff hwn mae’r gwasanaeth casgliadau AHP newydd ar gael.

Dylech naill ai:

  • ofyn i rieni eich wyrion a’ch wyresau neu eu gwarcheidwaid i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth i drefnu iddynt fynd â’r gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol o’ch cartref fel y gallant ei roi yn y cadi neu;
  • roi’r gwastraff hwn yn eich cynhwysydd ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


Rwy'n warchodwr plant cofrestredig / rwy’n berchen ar/yn rheoli meithrinfa. Gaf i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth?

Na chewch. Rhaid i fusnesau drefnu casgliad gwastraff masnachol ar wahân ar gyfer eu gwastraff AHP.

Yn ôl i'r brig


Rwyf wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau AHP newydd ond heb dderbyn y cadi du hyd yma. Beth ddylwn ei wneud?

Os nad ydych wedi derbyn eich cadi du newydd erbyn 17 Mai 2024, cysylltwch â ni.

Yn ôl i'r brig


Sut ddylwn i gyflwyno fy AHP i gael ei gasglu?

  1. rhowch dim ond yr eitemau cywir yn eich sachau piws untro,
  2. clymwch eich sachau yn dynn, yna eu rhoi yn eich cadi du,
  3. caewch gaead eich cadi,
  4. rhowch eich cadi yn eich man casglu cyn 7yb ar eich diwrnod casglu, a
  5. casglwch eich cadi o’ch man casglu unwaith y byddwn wedi casglu ei gynnwys.

Peidiwch â defnyddio unrhyw fath arall o gynhwysydd; defnyddiwch y sachau piws untro a’r cadi du a ddarparwyd gan y Cyngor yn unig.

Peidiwch â rhoi AHP ychwanegol allan wrth ymyl eich cadi du. Yr enw ar hyn yw ‘gwastraff ochr’. Nid ydym yn casglu ‘gwastraff ochr’ a gallech orfod talu dirwy.

Os oes gennych fwy o AHP i’w roi allan bob wythnos nag y gallwch ei ffitio yn eich cadi, cysylltwch â ni er mwyn inni gael trafod eich anghenion, os gwelwch yn dda.

Yn ôl i'r brig


Mae fy nghadi AHP wedi torri / wedi mynd ar goll. Sut allaf i gael un yn ei le?

Os bydd angen cadi arnoch yn lle’r hen un, cysylltwch â ni ac fe wnawn ddanfon un i’ch cartref.

Wrth archebu eich cadi newydd yn lle un blaenorol ar-lein, fe welwch wybodaeth gyfredol ynghylch pa mor hir y mae’n debygol o’i gymryd inni ei ddanfon atoch.

Os na allwn ddanfon eich cadi mewn pryd i’ch casgliad nesaf, rhowch eich gwastraff AHP yn eich bin du neu sachau pinc ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, os gwelwch yn dda. Peidiwch â defnyddio unrhyw fath o gynhwysydd arall i roi eich AHP allan i ni ei gasglu.

Yn ôl i'r brig


Rwyf wedi rhedeg allan o sachau piws untro. Sut allaf i archebu rhagor?

Pan fyddwn yn danfon eich cadi du a’ch cyflenwad o sachau piws untro i’ch cartref, fe wnawn hefyd ddanfon set o dagiau ‘ail-archebu’ i chi. Pan fyddwch ar fin rhedeg allan o sachau, clymwch un o’r tagiau hyn i handlen eich cadi, ac fe wnawn ni adael cyflenwad newydd o sachau ar ben, neu wrth ymyl, eich cadi.

Yn ôl i'r brig


Beth ddylwn ei wneud os bydd gennyf fwy o AHP i'w gasglu bob wythnos nag y gallaf ei ffitio yn y cadi newydd?

Os oes gennych fwy o AHP i’w roi allan bob wythnos nag y gallwch ei ffitio yn eich cadi, cysylltwch â ni er mwyn inni gael trafod eich anghenion, os gwelwch yn dda.

Nes byddwn yn gallu dod o hyd i ffordd o ddatrys hyn, rhowch eich gwastraff AHP ychwanegol yn eich bin du neu sachau pinc ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, os gwelwch yn dda.

Peidiwch â defnyddio unrhyw fath o gynhwysydd arall i roi eich AHP allan i ni ei gasglu. A pheidiwch â rhoi AHP ychwanegol allan wrth ymyl eich cadi du. Yr enw ar hyn yw ‘gwastraff ochr’. Nid ydym yn casglu ‘gwastraff ochr’ a gallech orfod talu dirwy.

Yn ôl i'r brig


Sut ddylen i gael gwared ar nwyddau hylendid, fel padiau leinio, tamponau a thyweli mislif?

Peidiwch â rhoi’r eitemau hyn yn eich cadi i ni eu casglu.

Lapiwch yr eitemau hyn mewn hances bapur – neu mewn bag fel sach clytiau os yw’n well gennych – yna eu rhoi yn eich bin du neu sachau pinc ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


Rwy'n derbyn 'casgliad â chymorth' ar hyn o bryd. A fydd hyn yn parhau os byddaf yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau AHP?

Bydd. Os ydych chi’n derbyn ‘casgliad â chymorth’ ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn ichi ar gyfer eich casgliadau AHP. Nid oes angen ichi gofrestru eto ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Yn ôl i'r brig


Rwy'n cael anhawster rhoi fy AHP allan i chi ei gasglu. Allwch chi fy helpu gyda hyn?

Os ydych chi’n methu rhoi eich AHP – ac ailgylchu arall a gwastraff na ellir ei ailgylchu – allan i ni ei gasglu, boed hynny dros dro neu’n barhaol, oherwydd bod eich symudedd wedi’i gyfyngu arno, ac nad oes unrhyw un arall i’ch helpu, cewch gysylltu â ni i wneud cais am ‘gasgliad â chymorth’, ac fe wnawn ni asesu eich sefyllfa.

‘Casgliad â chymorth’ yw pan fo’n criwiau yn casglu eich ailgylchu a’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu o fan casglu a gytunwyd arno sy’n gyfleus ac yn hawdd ichi ei gyrraedd.

Yn ôl i'r brig


Nid oeddwn yn gallu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth Cynnych Hylendid Amsugnol. Beth ddylwn i ei wneud?

Os nad oeddech yn gallu cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu newydd yn ystod y cyfnod cofrestru hwn, dylech barhau i roi eich gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn eich cynhwysydd ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


Sut ddylwn i gael gwared ar fy ngwastraff AHP os nad ydw i’n dymuno cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn?

Os ydych chi’n dewis peidio â chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol newydd yna dylech barhau i roi eich gwastraff Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn eich cynhwysydd ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Yn ôl i'r brig


Beth ddylwn ei wneud os byddaf i’n symud tŷ?

Os byddwch wedi cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casgliadau AHP a’ch bod yn symud i gartref newydd, cysylltwch â ni unwaith y byddwch yn gwybod eich dyddiad symud a’ch cyfeiriad newydd.

Os ydych chi’n symud i gartref arall yn Sir Ddinbych, byddwn yn gadael ichi wybod a fydd angen ichi fynd â’ch cadi du a sachau piws untro gyda chi i’ch cartref newydd, ac a fydd newid i’ch diwrnod casglu.

Os byddwch yn symud i gartref arall y tu allan i’r sir, byddwn yn canslo eich cofrestriad ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Yn ôl i'r brig


Beth ddylwn ei wneud os nad ydw i'n creu gwastraff AHP mwyach?

Os nad ydych yn creu gwastraff AHP mwyach, ac felly nad oes angen inni gasglu’r gwastraff hwn o’ch cartref, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.

Unwaith y byddwch wedi canslo eich cofrestriad, gadewch eich cadi du ac unrhyw sachau piws untro yn eich man casglu ar eich diwrnod casglu nesaf i ni eu casglu gennych.

Yn ôl i'r brig


Rwyf wedi clywed eich bod yn lleihau amlder casgliadau ein gwastraff na ellir ei ailgylchu, o bob pythefnos i bob pedair wythnos. A yw hyn yn golygu y bydd yn rhaid imi ddal gafael ar fy ngwastraff AHP am hyd at bedair wythnos cyn ichi ei gasglu o fy nghartref?

Nac ydy. Byddwn yn parhau i gasglu gwastraff AHP bob wythnos os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Yn ôl i'r brig


Wrth ichi ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o ailgylchu AHP, a oes ffordd o osgoi defnyddio clytiau tafladwy yn y lle cyntaf?

Er bod ailgylchu’n ffordd wych o leihau ein hallyriadau carbon ac atal newid hinsawdd, mae’n well fyth i’n planed ailddefnyddio’r nwyddau a brynwn a lleihau faint o eitemau untro a ddefnyddiwn.

I’ch helpu chi i wneud hyn, rydym yn cynnig Cynllun Talebau Clytiau Go Iawn. Mae’r cynllun hwn yn darparu talebau sy’n werth £25, a gallwch eu defnyddio i brynu clytiau go iawn. Mae’r rhain yn gyfforddus, yn gallu arbed arian i chi, yn hawdd eu defnyddio, ac yn lleihau faint o wastraff rydych chi’n ei greu.

Yn ôl i'r brig


A fydd angen imi adnewyddu fy nghofrestriad ar unrhyw adeg?

Bydd. Bydd angen ichi ailgofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau AHP bob blwyddyn.

Byddwn yn cysylltu â chi cyn diwedd eich cofrestriad blwyddyn i ofyn a hoffech gofrestru am flwyddyn arall.

Os nad ydych yn defnyddio’r gwasanaeth am dri chasgliad yn olynol, byddwn yn canslo eich cofrestriad. Os hoffech barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen ichi gofrestru drachefn.

Os bydd angen ichi atal eich cofrestriad ar unrhyw adeg, am unrhyw reswm – er enghraifft, os ydych chi’n mynd ar wyliau am gyfnod estynedig – cysylltwch â ni.

Yn ôl i'r brig


Beth sy'n digwydd i fy AHP ar ôl iddo gael ei gasglu?

Yn y lle cyntaf, bydd y gwastraff AHP a gasglwn yn cael ei losgi, gan greu ychydig o ynni a fydd yn cael ei fwydo i’r Grid Cenedlaethol, i bweru cartrefi a chymunedau ledled y wlad. Mae’r lludw sy’n weddill yn cael ei ailgylchu i wneud deunyddiau adeiladu, fel sment.

O fis Mehefin 2024, byddwn yn dechrau casglu’r gwastraff hwn ar wahân i’ch gwastraff ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu ar draws y sir, fel y byddwn yn barod i ddechrau ailgylchu eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol ar unwaith pan fydd gennym gontract â chyfleuster ailgylchu.

Unwaith y gallwn ailgylchu gwastraff AHP, gallai gael ei ddefnyddio i gynhyrchu amrywiaeth o nwyddau newydd, a allai gynnwys byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianyddol i’w ddefnyddio ar wynebau ffyrdd.

Yn ôl i'r brig


Beth ddylwn ei wneud os bydd rhywun yn rhoi eu AHP yn fy nghadi i?

Os bydd rhywun yn rhoi eu AHP yn eich cadi chi heb eich caniatâd, cysylltwch â ni.

Yn ôl i'r brig


Gaf i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn ar ran rhywun arall?

Cewch. Cewch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn ar ran rhywun arall, fel aelod o’ch teulu neu ffrind. Pan fyddwch yn cofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys cyfeiriad yr eiddo yr hoffech i ni gasglu’r AHP ohono, a rhaid i’r eiddo hwnnw fod yn brif gartref yr aelod o’ch teulu neu’r ffrind sy’n creu’r gwastraff.

Yn ôl i'r brig


Rwy'n poeni y bydd fy nghymdogion yn gwybod fod gen i broblem anymataliaeth os byddaf yn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Beth allaf ei wneud?

Os ydych chi’n bryderus ynghylch defnyddio’r gwasanaeth casgliadau AHP newydd, cewch ddal ati i roi eich gwastraff AHP yn eich bin du neu eich sachau pinc.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau AHP, ac yr hoffech ganslo eich cofrestriad, cysylltwch â ni.

Yn ôl i'r brig