Beth ddylwn i ei wneud?
Os yw eich cartref wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y treial, byddwn yn danfon taflen i'ch cartref rhwng dydd Llun 7 a dydd Gwener 11 Medi 2026.
Bydd y daflen yn gofyn i chi ddechrau defnyddio'r gwasanaeth newydd o ddydd Llun 14 Medi 2026 mewn un o ddwy ffordd.
Rydym yn gofyn i tua hanner y cartrefi sy'n cymryd rhan yn y treial ddefnyddio eu bagiau plastig eu hunain i gasglu a rhoi allan eu bagiau a deunydd lapio plastig er mwyn i ni eu casglu. Rydym yn gofyn i'r hanner arall ddefnyddio sachau glas untro. Byddwn yn dosbarthu rholyn o'r sachau hyn i'r cartrefi hyn ynghyd â'u taflen.
Os yw'r daflen yn gofyn i chi ddefnyddio eich bagiau plastig eich hun:
O ddydd Llun 14 Medi 2026, os gwelwch yn dda:
- Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig gwag yn rhydd mewn unrhyw fag plastig sydd gennych eisoes, fel bag siopa, bag bara, neu fag parsel/danfon. Peidiwch â defnyddio bagiau du na bagiau sy’n fwy na ‘bag am oes’.
- Pan fydd eich bag yn llawn, clymwch ef yn ddiogel â chwlwm dwbl i atal y cynnwys rhag dianc.
- 3. Rhowch eich bag wedi’i glymu y tu mewn i focs uchaf eich Trolibocs – wrth ymyl eich papur – yna rhowch y caead glas arno a’i roi allan ar eich diwrnod casglu arferol. Os yw eich bocs uchaf yn llawn, clymwch eich bag i ffrâm eich Trolibocs. (Os nad oes gennych Trolibocs, gwthiwch eich sach rhwng eich cynwysyddion ailgylchu eraill.)
Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig yn rhydd yn eich bagiau. Peidiwch â chlymu eitemau at ei gilydd na'u rhoi y tu mewn i fagiau eraill. Mae cadw eitemau'n rhydd yn ein helpu i'w sortio a'u hailgylchu'n haws.
Nes byddwch yn derbyn eich taflen, daliwch ati i fynd â'ch bagiau a deunydd lapio plastig i fannau casglu ailgylchu, fel y rhai mewn archfarchnadoedd. Gallwch ddod o hyd i'ch man danfon agosaf yma www.cymruynailgylchu.org.uk (gwefan allanol).
Sylwch y gall yr eitemau a dderbynnir amrywio rhwng lleoliadau, felly dilynwch y canllawiau ym mhob man ailgylchu. Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i fan ailgylchu, rhowch nhw yn eich bin du neu las gyda'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Os yw'r daflen yn gofyn i chi ddefnyddio sachau glas untro:
Pan fyddwn yn danfon y daflen i'ch cartref, byddwn hefyd yn rhoi rolyn o sachau glas untro i chi.
O ddydd Llun 14 Medi 2026, os gwelwch yn dda:
- Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig gwag yn rhydd mewn sach las.
- Pan fydd eich sach yn llawn, clymwch hi’n ddiogel â chwlwm dwbl i atal y cynnwys rhag dianc.
- Rhowch eich sach wedi’i chlymu y tu mewn i focs uchaf eich Trolibocs – wrth ymyl eich papur – yna rhowch y caead glas arno a’i roi allan ar eich diwrnod casglu arferol. Os yw eich bocs uchaf yn llawn, clymwch eich sach i ffrâm eich Trolibocs. (Os nad oes gennych Trolibocs, gwthiwch eich sach rhwng eich cynwysyddion ailgylchu eraill.)
Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig yn rhydd yn eich sachau glas. Peidiwch â chlymu eitemau at ei gilydd na’u rhoi y tu mewn i fagiau eraill. Mae cadw eitemau’n rhydd yn ein helpu i’w sortio a’u hailgylchu’n haws.
Nes byddwch yn derbyn eich rolyn o sachau glas a'r daflen, daliwch ati i fynd â'ch bagiau a deunydd lapio plastig i fannau casglu ailgylchu, fel y rhai mewn archfarchnadoedd. Gallwch ddod o hyd i'ch man danfon agosaf yma www.cymruynailgylchu.org.uk (gwefan allanol).
Sylwch y gall yr eitemau a dderbynnir amrywio rhwng lleoliadau, felly dilynwch y canllawiau ym mhob man ailgylchu. Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i fan ailgylchu, rhowch nhw yn eich bin du neu las gyda'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Pa eitemau ddylwn i eu rhoi yn fy magiau / sachau glas?
Rhowch yr eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig:
- Bagiau siopa
- Pecynnau creision a chnau
- Pecynnau bisgedi
- Pecynnau bariau siocled a melysion
- Bagiau pasta a reis
- Bagiau bara
- Bagiau leinio bocsys grawnfwyd
Gallwch hefyd roi'r eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas:
- Bagiau parseli/danfoniadau plastig
- Labeli/pecynnau plastig o amgylch poteli diodydd
- Bagiau bwyd cathod a chŵn
- Bagiau sychlanhau a bagiau lapio dillad newydd
- Deunydd pacio plastig a ddefnyddir gan adwerthwyr i ddosbarthu eitemau cartref, megis nwyddau gwyn
- Bagiau compost gardd ac uwchbridd
- Deunydd lapio pecynnau aml-becyn creision, cnau a melysion
- Bagiau ffrwythau, salad a llysiau wedi’u pacio’n barod
- Bagiau plastig tenau sy’n dal eitemau ffrwythau, salad a llysiau rhydd
- Ffilm, fel caeadau prydau parod
- Bagiau rhewgell
- Bagiau bwyd wedi’i rewi
- Deunydd lapio cylchgronau a phapurau newydd
- Haenen lynu a dolenni plastig o becynnau poteli a chaniau
- Deunydd lapio pecynnau o bapur toiled a phapur cegin
- Haenen lynu
- Pecynnau rhannu a chodenni siocledi a melysion
- Swigiod lapio
Gwnewch yn siŵr nad yw eich eitemau'n cynnwys unrhyw fwyd na hylifau.

Pa eitemau na ddylwn i eu rhoi yn fy magiau / sachau glas?
Peidiwch â rhoi’r eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig:
- E-sigaréts neu fêps
- Polystyren neu ewyn
- Tiwbiau creision
- Codenni neu sachets a ddefnyddir ar gyfer bwyd (fel reis microdon), diodydd, bwyd babanod neu anifeiliaid anwes
- Batris o'r cartref
- Codenni neu sachets a ddefnyddir ar gyfer nwyddau glanhau, fel capsiwlau neu dabledi peiriant golchi llestri neu olchi dillad
- Rhwydi a ddefnyddir i bacio ffrwythau a llysiau
- Pocedi tyllog, fel 'Poly Pockets'
- Gwellt neu gyllyll a ffyrc plastig
- Menig neu fasgiau tafladwy
- Caeadau anhyblyg potiau iogwrt neu hufen
- Pecynnau swigod plastig a ddefnyddir ar gyfer tabledi
- Gwastraff bwyd
- Gwastraff anifeiliaid anwes

Rhowch eich gwastraff bwyd mewn bag leinio cadi, clymwch ef yn ddiogel, ac yna rhowch ef yn eich cadi oren.
Rhowch gaeadau anhyblyg potiau iogwrt neu hufen ym mocs canol eich Trolibocs.
Rhowch unrhyw e-sigaréts neu fêps mewn bag plastig untro, clymwch ef yn ddiogel, ac yna rhowch ef ar ben eich Trolibocs.
Rhowch fatris o’r cartref yn eich cwdyn pinc amldro, ac yna ei glipio ar handlen eich Trolibocs.
Daliwch ati i roi gweddill yr eitemau hyn yn eich bin olwynion du neu las ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.