Treialu casgliadau newydd ar gyfer eich bagiau a deunydd lapio plastig 

Mae preswylwyr yn Sir Ddinbych yn ailgylchu 69% o’u gwastraff ar hyn o bryd, ond rydym am eich helpu i ailgylchu mwy fyth.

O ddydd Llun 14 Medi 2026, byddwn yn cynnal treial 12 wythnos yn rhai rhannau o’r sir i ddarganfod y ffordd orau o gasglu ac ailgylchu eich bagiau a deunydd lapio plastig.

Rydym wedi gwahodd tua 4,500 o gartrefi i gymryd rhan yn y trial. Mae'r preswylwyr yr ydym wedi’u gwahodd yn byw mewn cymysgedd o fathau o dai, felly gallwn gael dealltwriaeth dda a theg o sut mae gwahanol gartrefi'n defnyddio'r gwasanaeth.

Byddwn yn ailgylchu'r bagiau a deunydd lapio plastig y mae preswylwyr yn eu rhoi allan fel rhan o'r treial ac yn eu defnyddio i wneud nwyddau newydd, fel 'bagiau am oes' amldro a bagiau bin.

Trolibocs

Os yw eich cartref wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y treial, byddwn yn danfon taflen i'ch cartref yn esbonio sut mae'n gweithio.

Y casgliad olaf yn y treial hwn fydd dydd Gwener 4 Rhagfyr 2026. Ar ôl y dyddiad hwn, dylai preswylwyr sy'n cymryd rhan yn y treial ymweld â www.sirddinbych.gov.uk/plastigion-meddal am y wybodaeth ddiweddaraf am y treial ac i gael gwybod beth i'w wneud â'u bagiau a deunydd lapio plastig.

Pam ydych chi'n treialu casgliad newydd ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig?

Bagiau a deunydd lapio plastig yw bron i 8% o'r hyn sy'n mynd i'r biniau olwynion du neu las yn Sir Ddinbych, fel bagiau siopa, bagiau bara, pecynnau creision a deunydd lapio aml-becyn. Eitemau untro yw’r rhain, ac mae'r rhan fwyaf wedi'u gwneud o blastig newydd neu blastig ‘crai'.

Byddwn yn ailgylchu'r bagiau a deunydd lapio plastig y mae preswylwyr yn eu rhoi allan fel rhan o'r treial ac yn eu defnyddio i wneud nwyddau newydd, fel 'bagiau am oes' amldro a bagiau bin.

Bydd ailgylchu'r eitemau hyn yn lle eu rhoi mewn biniau olwynion du neu las yn:

  • creu mwy o le yn eich bin,
  • lleihau faint o blastig newydd sydd ei angen i wneud nwyddau,
  • eich helpu i ailgylchu mwy o'ch gwastraff o'ch cartref,
  • helpu Cymru gyrraedd ei thargedau lleihau carbon ac ailgylchu, a
  • chadw Cymru ymhlith cenhedloedd gorau'r byd am ailgylchu.

Bydd y treial yn ein galluogi i ddeall sut y gellir cynnwys bagiau a deunydd lapio plastig mewn casgliadau ailgylchu presennol.

Beth ddylwn i ei wneud?

Os yw eich cartref wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y treial, byddwn yn danfon taflen i'ch cartref rhwng dydd Llun 7 a dydd Gwener 11 Medi 2026.

Bydd y daflen yn gofyn i chi ddechrau defnyddio'r gwasanaeth newydd o ddydd Llun 14 Medi 2026 mewn un o ddwy ffordd.

Rydym yn gofyn i tua hanner y cartrefi sy'n cymryd rhan yn y treial ddefnyddio eu bagiau plastig eu hunain i gasglu a rhoi allan eu bagiau a deunydd lapio plastig er mwyn i ni eu casglu. Rydym yn gofyn i'r hanner arall ddefnyddio sachau glas untro. Byddwn yn dosbarthu rholyn o'r sachau hyn i'r cartrefi hyn ynghyd â'u taflen.

Os yw'r daflen yn gofyn i chi ddefnyddio eich bagiau plastig eich hun:

O ddydd Llun 14 Medi 2026, os gwelwch yn dda:

  1. Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig gwag yn rhydd mewn unrhyw fag plastig sydd gennych eisoes, fel bag siopa, bag bara, neu fag parsel/danfon. Peidiwch â defnyddio bagiau du na bagiau sy’n fwy na ‘bag am oes’.
  2. Pan fydd eich bag yn llawn, clymwch ef yn ddiogel â chwlwm dwbl i atal y cynnwys rhag dianc.
  3. Rhowch eich bag wedi’i glymu y tu mewn i focs uchaf eich Trolibocs - wrth ymyl eich papur - yna rhowch y caead glas arno a’i roi allan ar eich diwrnod casglu arferol. Os yw eich bocs uchaf yn llawn, clymwch eich bag i ffrâm eich Trolibocs. (Os nad oes gennych Trolibocs, gwthiwch eich sach rhwng eich cynwysyddion ailgylchu eraill.)

Trolibocs

Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig yn rhydd yn eich bagiau. Peidiwch â chlymu eitemau at ei gilydd na'u rhoi y tu mewn i fagiau eraill. Mae cadw eitemau'n rhydd yn ein helpu i'w sortio a'u hailgylchu'n haws.

Nes byddwch yn derbyn eich taflen, daliwch ati i fynd â'ch bagiau a deunydd lapio plastig i fannau casglu ailgylchu, fel y rhai mewn archfarchnadoedd. Gallwch ddod o hyd i'ch man danfon agosaf yma www.cymruynailgylchu.org.uk (gwefan allanol).

Sylwch y gall yr eitemau a dderbynnir amrywio o un lleoliad i’r llall, felly dilynwch y canllawiau ym mhob man ailgylchu. Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i fan ailgylchu, rhowch nhw yn eich bin du neu las gyda'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Os yw'r daflen yn gofyn i chi ddefnyddio sachau glas untro:

Pan fyddwn yn danfon y daflen i'ch cartref, byddwn hefyd yn rhoi rolyn o sachau glas untro i chi.

O ddydd Llun 14 Medi 2026, os gwelwch yn dda:

  1. Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig gwag yn rhydd mewn sach las (gweler y dudalen nesaf am y mathau o eitemau y byddwn yn eu casglu gennych).
  2. Pan fydd eich sach yn llawn, clymwch hi’n ddiogel â chwlwm dwbl i atal y cynnwys rhag dianc.
  3. Rhowch eich sach wedi’i chlymu y tu mewn i focs uchaf eich Trolibocs - wrth ymyl eich papur - yna rhowch y caead glas arno a’i roi allan ar eich diwrnod casglu arferol. Os yw eich bocs uchaf yn llawn, clymwch eich sach i ffrâm eich Trolibocs. (Os nad oes gennych Trolibocs, gwthiwch eich sach rhwng eich cynwysyddion ailgylchu eraill.)

Trolibocs

Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig yn rhydd yn eich sachau glas. Peidiwch â chlymu eitemau at ei gilydd na’u rhoi y tu mewn i fagiau eraill. Mae cadw eitemau’n rhydd yn ein helpu i’w sortio a’u hailgylchu’n haws.

Nes byddwch yn derbyn eich rolyn o sachau glas a'r daflen, daliwch ati i fynd â'ch bagiau a deunydd lapio plastig i fannau casglu ailgylchu, fel y rhai mewn archfarchnadoedd. Gallwch ddod o hyd i'ch man danfon agosaf yma www.cymruynailgylchu.org.uk (gwefan allanol).

Sylwch y gall yr eitemau a dderbynnir amrywio rhwng lleoliadau, felly dilynwch y canllawiau ym mhob man ailgylchu. Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i fan ailgylchu, rhowch nhw yn eich bin du neu las gyda'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Pa eitemau ddylwn i eu rhoi yn fy magiau / sachau glas?

✅ Rhowch yr eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig:

  • Bagiau siopa
  • Pecynnau creision a chnau
  • Pecynnau bisgedi
  • Pecynnau bariau siocled a melysion
  • Bagiau pasta a reis
  • Bagiau bara
  • Bagiau leinio bocsys grawnfwyd

Gallwch hefyd roi'r eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas:

  • Bagiau parseli/danfoniadau plastig
  • Labeli/pecynnau plastig o amgylch poteli diodydd
  • Bagiau bwyd cathod a chŵn
  • Bagiau sychlanhau a bagiau lapio dillad newydd
  • Deunydd pacio plastig a ddefnyddir gan adwerthwyr i ddosbarthu eitemau cartref, megis nwyddau gwyn
  • Bagiau compost gardd ac uwchbridd
  • Deunydd lapio pecynnau aml-becyn creision, cnau a melysion
  • Bagiau ffrwythau, salad a llysiau wedi’u pacio’n barod
  • Bagiau plastig tenau sy’n dal eitemau ffrwythau, salad a llysiau rhydd
  • Ffilm, fel caeadau prydau parod
  • Bagiau rhewgell
  • Bagiau bwyd wedi’i rewi
  • Deunydd lapio cylchgronau a phapurau newydd
  • Haenen lynu a dolenni plastig o becynnau poteli a chaniau
  • Deunydd lapio pecynnau o bapur toiled a phapur cegin
  • Haenen lynu
  • Pecynnau rhannu a chodenni siocledi a melysion
  • Swigiod lapio

Gwnewch yn siŵr nad yw eich eitemau'n cynnwys unrhyw fwyd na hylifau.

Pa eitemau na ddylwn i eu rhoi yn fy magiau / sachau glas?

❌ Please Peidiwch â rhoi’r eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig:

  • E-sigaréts neu fêps
  • Polystyren neu ewyn
  • Tiwbiau creision
  • Codenni neu sachets a ddefnyddir ar gyfer bwyd (fel reis microdon), diodydd, bwyd babanod neu anifeiliaid anwes
  • Batris o’r cartref
  • Codenni neu sachets a ddefnyddir ar gyfer nwyddau glanhau, fel capsiwlau neu dabledi peiriant golchi llestri neu olchi dillad
  • Rhwydi a ddefnyddir i bacio ffrwythau a llysiau
  • Pocedi tyllog, fel 'Poly Pockets'
  • Gwellt neu gyllyll a ffyrc plastig
  • Menig neu fasgiau tafladwy
  • Caeadau anhyblyg potiau iogwrt neu hufen
  • Pecynnau swigod plastig a ddefnyddir ar gyfer tabledi
  • Gwastraff bwyd
  • Gwastraff anifeiliaid anwes

Cwestiynau Cyffredin

Pam ydych chi'n treialu casgliad newydd ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig?

Pam ydych chi'n treialu casgliad newydd ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig?

Bagiau a deunydd lapio plastig yw bron i 8% o'r hyn sy'n mynd i'r biniau olwynion du neu las yn Sir Ddinbych, fel bagiau siopa, bagiau bara, pecynnau creision a deunydd lapio aml-becyn. Eitemau untro yw’r rhain, ac mae'r rhan fwyaf wedi'u gwneud o blastig newydd neu blastig ‘crai'.

Byddwn yn ailgylchu'r bagiau a deunydd lapio plastig y mae preswylwyr yn eu rhoi allan fel rhan o'r treial ac yn eu defnyddio i wneud nwyddau newydd, fel 'bagiau am oes' amldro a bagiau bin.

Bydd ailgylchu'r eitemau hyn yn lle eu rhoi mewn biniau olwynion du neu las yn:

  • creu mwy o le yn eich bin,
  • lleihau faint o blastig newydd sydd ei angen i wneud cynhyrchion,
  • eich helpu i ailgylchu mwy o'ch gwastraff o'ch cartref,
  • helpu Cymru gyrraedd ei thargedau lleihau carbon ac ailgylchu, ac yn
  • cadw Cymru ymhlith cenhedloedd gorau'r byd am ailgylchu.

Bydd y treial yn ein galluogi i ddeall sut y gellir cynnwys bagiau a deunydd lapio plastig mewn casgliadau ailgylchu presennol.

Beth ddylwn i ei wneud?

Beth ddylwn i ei wneud?

Os yw eich cartref wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn y treial, byddwn yn danfon taflen i'ch cartref rhwng dydd Llun 7 a dydd Gwener 11 Medi 2026.

Bydd y daflen yn gofyn i chi ddechrau defnyddio'r gwasanaeth newydd o ddydd Llun 14 Medi 2026 mewn un o ddwy ffordd.

Rydym yn gofyn i tua hanner y cartrefi sy'n cymryd rhan yn y treial ddefnyddio eu bagiau plastig eu hunain i gasglu a rhoi allan eu bagiau a deunydd lapio plastig er mwyn i ni eu casglu. Rydym yn gofyn i'r hanner arall ddefnyddio sachau glas untro. Byddwn yn dosbarthu rholyn o'r sachau hyn i'r cartrefi hyn ynghyd â'u taflen.

Os yw'r daflen yn gofyn i chi ddefnyddio eich bagiau plastig eich hun:

O ddydd Llun 14 Medi 2026, os gwelwch yn dda:

  1. Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig gwag yn rhydd mewn unrhyw fag plastig sydd gennych eisoes, fel bag siopa, bag bara, neu fag parsel/danfon. Peidiwch â defnyddio bagiau du na bagiau sy’n fwy na ‘bag am oes’.
  2. Pan fydd eich bag yn llawn, clymwch ef yn ddiogel â chwlwm dwbl i atal y cynnwys rhag dianc.
  3. 3. Rhowch eich bag wedi’i glymu y tu mewn i focs uchaf eich Trolibocs – wrth ymyl eich papur – yna rhowch y caead glas arno a’i roi allan ar eich diwrnod casglu arferol. Os yw eich bocs uchaf yn llawn, clymwch eich bag i ffrâm eich Trolibocs. (Os nad oes gennych Trolibocs, gwthiwch eich sach rhwng eich cynwysyddion ailgylchu eraill.)

Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig yn rhydd yn eich bagiau. Peidiwch â chlymu eitemau at ei gilydd na'u rhoi y tu mewn i fagiau eraill. Mae cadw eitemau'n rhydd yn ein helpu i'w sortio a'u hailgylchu'n haws.

Nes byddwch yn derbyn eich taflen, daliwch ati i fynd â'ch bagiau a deunydd lapio plastig i fannau casglu ailgylchu, fel y rhai mewn archfarchnadoedd. Gallwch ddod o hyd i'ch man danfon agosaf yma www.cymruynailgylchu.org.uk (gwefan allanol).

Sylwch y gall yr eitemau a dderbynnir amrywio rhwng lleoliadau, felly dilynwch y canllawiau ym mhob man ailgylchu. Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i fan ailgylchu, rhowch nhw yn eich bin du neu las gyda'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Os yw'r daflen yn gofyn i chi ddefnyddio sachau glas untro:

Pan fyddwn yn danfon y daflen i'ch cartref, byddwn hefyd yn rhoi rolyn o sachau glas untro i chi.

O ddydd Llun 14 Medi 2026, os gwelwch yn dda:

  1. Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig gwag yn rhydd mewn sach las.
  2. Pan fydd eich sach yn llawn, clymwch hi’n ddiogel â chwlwm dwbl i atal y cynnwys rhag dianc.
  3. Rhowch eich sach wedi’i chlymu y tu mewn i focs uchaf eich Trolibocs – wrth ymyl eich papur – yna rhowch y caead glas arno a’i roi allan ar eich diwrnod casglu arferol. Os yw eich bocs uchaf yn llawn, clymwch eich sach i ffrâm eich Trolibocs. (Os nad oes gennych Trolibocs, gwthiwch eich sach rhwng eich cynwysyddion ailgylchu eraill.)

Rhowch eich bagiau a deunydd lapio plastig yn rhydd yn eich sachau glas. Peidiwch â chlymu eitemau at ei gilydd na’u rhoi y tu mewn i fagiau eraill. Mae cadw eitemau’n rhydd yn ein helpu i’w sortio a’u hailgylchu’n haws.

Nes byddwch yn derbyn eich rolyn o sachau glas a'r daflen, daliwch ati i fynd â'ch bagiau a deunydd lapio plastig i fannau casglu ailgylchu, fel y rhai mewn archfarchnadoedd. Gallwch ddod o hyd i'ch man danfon agosaf yma www.cymruynailgylchu.org.uk (gwefan allanol).

Sylwch y gall yr eitemau a dderbynnir amrywio rhwng lleoliadau, felly dilynwch y canllawiau ym mhob man ailgylchu. Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i fan ailgylchu, rhowch nhw yn eich bin du neu las gyda'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Pa eitemau ddylwn i eu rhoi yn fy magiau / sachau glas?

Rhowch yr eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig:

  • Bagiau siopa
  • Pecynnau creision a chnau
  • Pecynnau bisgedi
  • Pecynnau bariau siocled a melysion
  • Bagiau pasta a reis
  • Bagiau bara
  • Bagiau leinio bocsys grawnfwyd

Gallwch hefyd roi'r eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas:

  • Bagiau parseli/danfoniadau plastig
  • Labeli/pecynnau plastig o amgylch poteli diodydd
  • Bagiau bwyd cathod a chŵn
  • Bagiau sychlanhau a bagiau lapio dillad newydd
  • Deunydd pacio plastig a ddefnyddir gan adwerthwyr i ddosbarthu eitemau cartref, megis nwyddau gwyn
  • Bagiau compost gardd ac uwchbridd
  • Deunydd lapio pecynnau aml-becyn creision, cnau a melysion
  • Bagiau ffrwythau, salad a llysiau wedi’u pacio’n barod
  • Bagiau plastig tenau sy’n dal eitemau ffrwythau, salad a llysiau rhydd
  • Ffilm, fel caeadau prydau parod
  • Bagiau rhewgell
  • Bagiau bwyd wedi’i rewi
  • Deunydd lapio cylchgronau a phapurau newydd
  • Haenen lynu a dolenni plastig o becynnau poteli a chaniau
  • Deunydd lapio pecynnau o bapur toiled a phapur cegin
  • Haenen lynu
  • Pecynnau rhannu a chodenni siocledi a melysion
  • Swigiod lapio

Gwnewch yn siŵr nad yw eich eitemau'n cynnwys unrhyw fwyd na hylifau.

Plastigion Meddal: Pa eitemau ddylwn i eu rhoi yn fy magiau / sachau glas?

Pa eitemau na ddylwn i eu rhoi yn fy magiau / sachau glas?

Peidiwch â rhoi’r eitemau canlynol yn eich bagiau / sachau glas ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig:

  • E-sigaréts neu fêps
  • Polystyren neu ewyn
  • Tiwbiau creision
  • Codenni neu sachets a ddefnyddir ar gyfer bwyd (fel reis microdon), diodydd, bwyd babanod neu anifeiliaid anwes
  • Batris o'r cartref
  • Codenni neu sachets a ddefnyddir ar gyfer nwyddau glanhau, fel capsiwlau neu dabledi peiriant golchi llestri neu olchi dillad
  • Rhwydi a ddefnyddir i bacio ffrwythau a llysiau
  • Pocedi tyllog, fel 'Poly Pockets'
  • Gwellt neu gyllyll a ffyrc plastig
  • Menig neu fasgiau tafladwy
  • Caeadau anhyblyg potiau iogwrt neu hufen
  • Pecynnau swigod plastig a ddefnyddir ar gyfer tabledi
  • Gwastraff bwyd
  • Gwastraff anifeiliaid anwes

Plastigion Meddal: Pa eitemau na ddylwn i eu rhoi yn fy magiau / sachau glas?

Rhowch eich gwastraff bwyd mewn bag leinio cadi, clymwch ef yn ddiogel, ac yna rhowch ef yn eich cadi oren.

Rhowch gaeadau anhyblyg potiau iogwrt neu hufen ym mocs canol eich Trolibocs.

Rhowch unrhyw e-sigaréts neu fêps mewn bag plastig untro, clymwch ef yn ddiogel, ac yna rhowch ef ar ben eich Trolibocs.

Rhowch fatris o’r cartref yn eich cwdyn pinc amldro, ac yna ei glipio ar handlen eich Trolibocs.

Daliwch ati i roi gweddill yr eitemau hyn yn eich bin olwynion du neu las ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Gaf i roi mathau eraill o blastig yn y bagiau / sachau glas, fel poteli plastig?

Gaf i roi mathau eraill o blastig yn y bagiau / sachau glas, fel poteli plastig?

Na. Daliwch ati i roi plastigion 'anhyblyg' – fel poteli, potiau a thybiau – ym mocs canol eich Trolibocs, gyda’ch metelau a chartonau, ar ôl eu rinsio'n gyflym. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Poteli nwyddau glanhau plastig, fel poteli cannydd a chwistrellau
  • Poteli diodydd plastig, fel llaeth, diod feddal a photeli dŵr
  • Cynwysyddion bwyd plastig, fel potiau iogwrt, tybiau menyn a hufen iâ, tybiau ffrwythau a phecynnau cacennau

Rhaid ailgylchu plastigion 'meddal', fel bagiau a deunydd lapio plastig, ar wahân i blastigion 'anhyblyg' – fel poteli, tybiau a photiau.

Pam rydych chi'n gofyn i ni ddefnyddio bagiau plastig / sachau glas untro ar gyfer y treial hwn?

Pam rydych chi'n gofyn i ni ddefnyddio bagiau plastig / sachau glas untro ar gyfer y treial hwn?

Ni ellir ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig gyda phlastigion eraill fel poteli, potiau, a thybiau. Mae'r bagiau / sachau glas yn helpu i gadw'r deunyddiau hyn ar wahân wrth eu casglu a’u hailgylchu.

Byddwn yn ailgylchu'r bagoau / sachau glas a ddefnyddiwyd ynghyd â'ch bagiau a deunydd lapio plastig.

Os yw'n wyntog, sut alla i atal fy mag / sach las rhag chwythu i ffwrdd ar fy niwrnod casglu?

Os yw'n wyntog, sut alla i atal fy mag / sach las rhag chwythu i ffwrdd ar fy niwrnod casglu?

Os yw'n bosibl, rhowch eich bag / sach glas y tu mewn i focs uchaf eich Trolibocs – wrth ymyl eich papur – yna rhowch y caead glas arno a’i roi allan ar eich diwrnod casglu arferol.

Os yw eich bocs uchaf yn llawn, clymwch eich bag / sach i ffrâm eich Trolibocs. (Os nad oes gennych Trolibocs, gwthiwch eich bag / sach rhwng eich cynwysyddion ailgylchu eraill.)

Cofiwch hefyd bod angen clymu eich bagiau / sachau yn ddiogel â chwlwm dwbl i atal y cynnwys rhag dianc.

Rwy'n byw mewn cartref lle rydych chi'n darparu sachau glas ar gyfer y treial. Pam mae'r sachau rydych chi wedi'u darparu mor fawr?

Rwy'n byw mewn cartref lle rydych chi'n darparu sachau glas ar gyfer y treial. Pam mae'r sachau rydych chi wedi'u darparu mor fawr?

Mae'r sachau'n fawr fel bod aelwydydd o wahanol feintiau yn gallu eu defnyddio.

Dim ond pan fyddan nhw’n llawn y mae angen i chi eu rhoi allan i'w casglu.

Rwy'n byw mewn cartref lle rydych chi'n darparu sachau glas ar gyfer y treial. A gaf i gasglu mwy o sachau?

Rwy'n byw mewn cartref lle rydych chi'n darparu sachau glas ar gyfer y treial. A gaf i gasglu mwy o sachau?

Ni ddylai fod angen unrhyw sachau glas ychwanegol arnoch chi yn ystod y treial. Os bydd angen rhai arnoch, ffoniwch ni ar 01824 706000 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.00pm), a byddwn yn danfon rholyn ychwanegol o sachau i’ch cartref.

Rwy'n byw mewn cartref lle rydych chi'n darparu sachau glas ar gyfer y treial. Beth ddylwn i ei wneud gydag unrhyw sachau sbâr ar ddiwedd y treial?

Rwy'n byw mewn cartref lle rydych chi'n darparu sachau glas ar gyfer y treial. Beth ddylwn i ei wneud gydag unrhyw sachau sbâr ar ddiwedd y treial?

Os oes gennych unrhyw sachau gwag ar ôl ar ddiwedd y treial, rhowch nhw y tu fewn i'ch sach olaf i'w casglu. Bydd eich casgliad olaf fel rhan o'r treial ar ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2026.

Pam ydych chi'n dechrau'r gwasanaeth hwn gyda nifer fach o gartrefi yn unig?

Pam ydych chi'n dechrau'r gwasanaeth hwn gyda nifer fach o gartrefi yn unig?

Rydym yn treialu'r gwasanaeth hwn gyda thua 4,500 o gartrefi rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2026, i ddod o hyd i'r ffordd orau o gasglu ac ailgylchu eich bagiau a deunydd lapio plastig.

Mae'r preswylwyr yr ydym wedi’u gwahodd yn byw mewn cymysgedd o fathau o dai, felly gallwn gael dealltwriaeth dda a theg o sut mae gwahanol gartrefi'n defnyddio'r gwasanaeth.

Bydd y treial hwn yn ein helpu i sicrhau bod gan ein cerbydau casglu ddigon o le i gario'r bagiau a deunydd lapio plastig ychwanegol, ochr yn ochr â'r eitemau arferol rydym yn eu casglu o'ch cartref.

Mae angen i ni hefyd fonitro faint a phwysau'r eitemau rydym yn eu casglu o gartrefi bob wythnos. Bydd hyn yn ein helpu i gynllunio pa mor aml y mae angen i ni anfon y deunydd at y cyfleuster prosesu i'w ailgylchu.

Beth ddylwn i ei wneud os na fyddwch chi'n casglu fy mag / sach las?

Beth ddylwn i ei wneud os na fyddwch chi'n casglu fy mag / sach las?

Os na fyddwn yn casglu eich bag / sach las, gallai fod oherwydd:

  • ei bod yn cynnwys yr eitemau anghywir
  • nad yw wedi'i chlymu'n ddiogel
  • fod bwyd neu hylifau y tu mewn iddi

Gwiriwch y daflen a roddon ni i chi – neu’r rhestr uchod – i wneud yn siŵr mai dim ond yr eitemau cywir rydych chi’n eu rhoi yn eich bag / sach.

Os byddwch yn rhoi eitemau anghywir yn eich bag / sach las, byddwn yn rhoi sticer arno.

Tynnwch unrhyw eitemau nad ydyn nhw’n perthyn a gwnewch yn siŵr bod eich bag / sach wedi'i chlymu'n ddiogel gyda chwlwm dwbl.

Os yw unrhyw eitemau'n fudr neu'n cynnwys bwyd neu hylifau, rinsiwch nhw yn gyntaf, ac yna rhowch eich bag / sach las allan eto – ym mocs canol eich Trolibocs – ar eich diwrnod casglu nesaf.

Allaf i gael help i sortio’r hyn y gallaf a'r hyn na allaf ei ailgylchu?

Allaf i gael help i sortio’r hyn y gallaf a'r hyn na allaf ei ailgylchu?

Mae gennym dîm o Swyddogion Ailgylchu sy’n gallu:

  • rhoi cyngor ac arweiniad i chi ynglŷn â'n holl wasanaethau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu, ac
  • eich cefnogi i fanteisio i’r eithaf ar ailgylchu a lleihau eich gwastraff na ellir ei ailgylchu.

I drefnu i un o'n Swyddogion Ailgylchu ymweld â chi yn eich cartref, cysylltwch â ni, neu ewch i'n gwefan i weld ble gallwch ymweld â ni.

Beth ddylwn ei wneud â bagiau a deunydd lapio plastig pan fydd y treial wedi dod i ben?

Beth ddylwn ei wneud â bagiau a deunydd lapio plastig pan fydd y treial wedi dod i ben?

Y casgliad olaf yn y treial hwn fydd dydd Gwenr 4 Rhagfyr 2026. Ar ôl y dyddiad hwn, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/plastigion-meddal am y wybodaeth ddiweddaraf am y treial ac i gael gwybod beth i'w wneud â'ch bagiau a deunydd lapio plastig.

Os nad yw fy nghartref yn cymryd rhan yn y treial, beth ddylwn i ei wneud gyda fy magiau a deunydd lapio plastig?

Os nad yw fy nghartref yn cymryd rhan yn y treial, beth ddylwn i ei wneud gyda fy magiau a deunydd lapio plastig?

Daliwch ati i fynd â'ch bagiau a deunydd lapio plastig i fannau casglu ailgylchu, fel y rhai mewn archfarchnadoedd. Gallwch ddod o hyd i'ch man danfon agosaf yn www.cymruynailgylchu.org.uk (gwefan allanol).

Sylwch y gall yr eitemau a dderbynnir amrywio o un lleoliad i’r llall, felly dilynwch y canllawiau ym mhob man ailgylchu.

Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i fan ailgylchu, rhowch nhw yn eich bin olwynion du neu las gyda'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Os bydd y treial yn llwyddiannus, a fyddwch chi'n dechrau casglu bagiau a deunydd lapio plastig o bob cartref yn y sir?

Os bydd y treial yn llwyddiannus, a fyddwch chi'n dechrau casglu bagiau a deunydd lapio plastig o bob cartref yn y sir?

Er ein bod yn gobeithio y bydd y treial yn llwyddiannus ac yn dangos i ni’r ffordd orau o gasglu ac ailgylchu eich bagiau a deunydd lapio plastig, ni fyddwn yn gallu cadarnhau pryd – a sut – y byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu parhaus, parhaol ar gyfer yr eitemau hyn tan ar ôl i’r treial ddod i ben.

Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i ddadansoddi dirnadaethau’r treial ac ystyried yr argymhellion a'r camau nesaf i'w gwneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr ailgylchu cymaint â phosib o'u gwastraff o'u cartrefi.

Ewch i www.sirddinbych.gov.uk/plastigion-meddal am y wybodaeth ddiweddaraf am y treial ac i gael gwybod beth i'w wneud â'ch bagiau a deunydd lapio plastig.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau rhagor o wybodaeth?

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau rhagor o wybodaeth?

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach nad ydynt yn cael eu hateb yn y Cwestiynau Cyffredin, mae croeso ichi gysylltu â ni.

Mae eich ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth mawr yn Sir Ddinbych. Diolch i chi am barhau i wneud y peth iawn a chwarae eich rhan dros yr amgylchedd, drwy sortio eich gwastraff ac ailgylchu cymaint ag y gallwch.


Denbighshire Recycles logo