Addasiadau i gefnogi eich annibyniaeth

Os oes gennych chi, neu rywun sy'n byw yn eich eiddo, anableddau parhaol a sylweddol, fe allwch chi gael cymorth gyda chost addasu eich cartref er mwyn ei gwneud yn haws i chi i fyw'n annibynnol.

Er enghraifft, fe allwch chi gael cymorth i wneud y canlynol:

  • gwella mynediad i mewn ac allan o’ch eiddo
  • lledu drysau a gosod rampiau
  • gwella mynediad i ystafelloedd a chyfleusterau, e.e. lifftiau grisiau neu ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • addasu rheolyddion gwresogi neu oleuo i'w gwneud nhw’n haws i'w defnyddio
  • gosod cawodydd mynediad gwastad
  • gwneud yr eiddo’n ddiogel 

Cael gwybod pa gymorth sydd ar gael i chi

Os hoffech chi holi am wneud addasiadau i'ch cartref, gallwch ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau addasiadau cartref ar-lein a bydd aelod o'n tîm yn eich ffonio'n ôl i drafod eich opsiynau.

Holi am addasiadau cartref ar-lein

Fel arall, gallwch ein ffonio ar 0300 456 1000 neu siarad gydag un o'n staff wedi’u hyfforddi yn un o'ch Pwyntiau Siarad lleol.

Ar ôl gwneud ymholiad

Byddwch yn cael cyngor am addasiadau tai ac, os oes angen, gallwn wneud argymhellion i'r sefydliadau priodol. Efallai y byddant hefyd yn argymell opsiynau eraill, fel offer fel rheiliau, offer ymolchi arbenigol, neu offer codi.  Mewn rhai achosion, efallai y byddan nhw’n rhoi cyngor ar y posibilrwydd o symud i eiddo mwy addas.

Cymorth a chefnogaeth ariannol i ariannu addasiadau

Mae yna wahanol fathau o gymorth ar gael, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Perchnogion a thenantiaid tai preifat

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref, neu os ydych chi’n rhentu tŷ preifat, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Grant Cyfleusterau i'r Anabl.

Fydd y Grant Cyfleusterau i'r Anabl ddim yn effeithio ar unrhyw fudd-dal rydych chi’n ei dderbyn. Byddwn yn gwneud asesiad ariannol efo chi, ac fe allai hynny olygu y bydd yn rhaid i chi dalu rhywbeth tuag at gost y gwaith addasu. Fyddwn ni ddim yn cynnal asesiad ariannol os ydi’r cais ar gyfer plentyn dan 18 oed.

Mwy gwybodaeth

Pwy sy’n gymwys i gael Grant Cyfleusterau i'r Anabl?

Mae’n rhaid i chi, neu rywun sy'n byw yn eich eiddo, fod yn anabl. Mae’n rhaid i chi, neu’r person rydych chi’n gwneud y cais ar ei ran:

  • fod yn berchen ar yr eiddo, neu’n denant preifat
  • fod yn bwriadu byw yn yr eiddo am 5 mlynedd

Fe allwch chi hefyd wneud cais os ydych chi’n landlord efo tenant anabl.

Mae yna ddau beth pwysig y mae'n rhaid i ni wybod:

  • oes angen unrhyw addasiad, a pha fath o addasiadau
  • ydych chi’n gymwys i gael grant - mae hyn yn dibynnu ar faint o arian sydd gennych chi yn seiliedig ar eich incwm a'ch cynilion
Faint fydd y grant?

Fe allwch chi gael hyd at £36,000. Mae'r grant yn destun prawf modd. Byddwn yn gwneud asesiad ariannol efo chi, ac fe allai hynny olygu y bydd yn rhaid i chi dalu rhywbeth tuag at gost y gwaith addasu.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a'ch cynilion dros £6,000. Gall plant anabl dan 18 oed gael grantiau beth bynnag ydi incwm eu rhieni.

Bydd yn rhaid i ni fod yn fodlon bod y gwaith yn:

  • 'angenrheidiol a phriodol' i ddiwallu eich anghenion
  • 'rhesymol ac ymarferol' neu’n bosibl, yn dibynnu ar oedran a chyflwr yr eiddo

Fyddwch chi ddim yn cael y grant os ydych chi’n dechrau gwneud yr addasiadau cyn i ni gymeradwyo eich cais am grant.

Efallai y bydd arnoch chi angen derbyn caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoliadau cynllunio cyn gwneud unrhyw addasiad. Byddwn yn eich helpu chi efo hyn.

Beth os nad ydw i'n gymwys?

Os nad ydych chi’n gymwys i gael Grant Cyfleusterau i'r Anabl, fe allwn ni siarad efo chi am ffyrdd eraill y gallwn ni eich cefnogi. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth mewn ffyrdd eraill, fel:

  • Gofal a Thrwsio
  • Houseproud
  • Benthyciad gwella cartrefi

Os oes arnoch chi eisiau gwneud addasiadau, fe allwn ni eich helpu i wneud yn siŵr bod y gwaith yn cael ei wneud i safon foddhaol.

Beth os nad ydi fy nghartref yn addas ar gyfer yr addasiadau?

Weithiau, efallai na fydd eich eiddo yn addas ar gyfer yr addasiadau sydd eu hangen arnoch chi, ac fe allai fod yn fwy cost-effeithiol i chi symud i rywle mwy addas. Os ydi hyn yn wir, fe allwch chi wneud cais am Grant Cymorth i Adleoli.

Mae’r grant yma’n cynnig hyd at £10,000 i helpu gyda chostau proffesiynol sy'n gysylltiedig â symud i gartref sy'n fwy addas i'ch anghenion, neu i gartref y gellir ei addasu i ddiwallu eich anghenion. Bydd yn rhaid i'r eiddo newydd fod mewn cyflwr da.

Mae'r grant yn destun prawf modd, felly bydd arnom ni angen cynnal asesiad ariannol efo chi. Bydd therapydd galwedigaethol a swyddog o’n tîm amgylchedd adeiledig yn ymweld â chi i benderfynu a ydych chi’n gymwys i gael Grant Cymorth i Adleoli.

Tenantiaid cymdeithasau tai

Os ydych chi’n rhentu eich cartref gan gymdeithas dai, efallai y bydd y gymdeithas dai yn gallu trefnu gwaith ar eich rhan.

Mae cymdeithasau tai yn gallu gwneud cais am Grant Addasiadau Ffisegol gan Lywodraeth Cymru. Gall y grantiau hyn dalu am waith fel gosod lifft grisiau, cawodydd mynediad gwastad a gwaith hygyrchedd arall. Mewn rhai achosion, bydd angen ymgymryd â gwaith sylweddol a all gynnwys newidiadau strwythurol, fel estyniadau a lifftiau trwy’r llawr.

Am fwy o wybodaeth fe allwch chi:

  • cyflwyno ymholiad, a bydd aelod o'n tîm yn eich ffonio'n ôl i drafod eich dewisiadau
  • ein ffonio ar 0300 456 1000
  • cysylltu â'ch cymdeithas dai i drafod yr addasiadau yr ydych chi’n meddwl sydd eu hangen. Byddan nhw’n gwneud atgyfeiriad er mwyn i therapydd galwedigaethol neu ymarferydd gofal cymdeithasol gynnal asesiad. 

Tenantiaid y Cyngor

Os ydych chi’n byw mewn eiddo Cyngor, bydd y Cyngor fel rheol yn trefnu unrhyw addasiad sydd ei angen heb gymorth grant.

Unwaith y bydd therapydd galwedigaethol neu ymarferydd gofal cymdeithasol wedi ymweld â chi ac wedi asesu bod y gwaith rydych chi wedi gofyn amdano yn angenrheidiol ac yn briodol, byddan nhw’n gwneud argymhelliad i'r Cyngor. Mae yna feini prawf llym ar gyfer pa fathau o addasiadau y gellir eu gwneud, ac mewn rhai achosion efallai y byddai’n fwy priodol i chi symud i eiddo mwy addas.

Am fwy o wybodaeth, fe allwch chi:

  • cyflwyno ymholiad ar-lein, a bydd aelod o'n tîm yn eich ffonio'n ôl i drafod eich dewisiadau
  • ein ffonio ar 0300 456 1000
  • cysylltu â'ch swyddog tai i drafod yr addasiadau yr ydych chi’n meddwl sydd eu hangen. Bydd y swyddog wedyn yn gwneud atgyfeiriad er mwyn i therapydd galwedigaethol neu ymarferydd gofal cymdeithasol gynnal asesiad.