Caiff ardrethi busnes eu casglu gan Gynghorau lleol ond fe’u telir i Gronfa Genedlaethol. Yna bydd y Llywodraeth Ganolog yn rhoi cyfran i bob ardal yn seiliedig ar nifer yr oedolion yn y boblogaeth leol. Golyga hynny na fydd ardal sydd â nifer cymharol fechan o fusnesau, neu ble mae gwerth eiddo’n gyffredinol isel, dan anfantais oherwydd ei incwm Ardrethi Busnes isel.
Sut y cyfrifir trethi busnes?
Mae cyfraddau busnes yn cael eu cyfrifo drwy luosi Gwerth Trethiannol eiddo gan luosydd a osodir gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Gwerth Trethiannol
Mae’r Gwerth Trethiannol yn cael ei bennu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac mae’n adlewyrchu’r swm rhentu blynyddol y gallai cyflawni’n rhesymol ar ddyddiad prisio penodol. Mae’r rhestr ardrethi bresennol yn seiliedig ar ddyddiad prisio 1 Ebrill 2021.
Canfod gwerth trethiannol
Gallwch ganfod gwerth trethiannol eiddo yn Sir Ddinbych ar-lein.
Canfod gwerth trethiannol ar-lein
Apelio gwerth trethiannol
Os ydych chi’n teimlo bod gwerth trethiannol yn anghywir, gallwch apelio i Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Dod o hyd i fanylion cyswllt eich Swyddfa Brisio (gwefan allanol)
Lluosyddion
Mae’r lluosyddion yn cael eu gosod yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn cael eu gosod ar yr un gyfradd ledled Cymru, felly nid oes modd i gynghorau lleol osod cyfraddau gwahanol.
2025/26
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, y lluosydd ar gyfer holl eiddo Cymru yw 0.568.
2026/27
O 1 Ebrill 2026, mae tri lluosydd a all fod yn gymwys i eiddo yng Nghymru. Dewiswch un o’r canlynol i ddysgu mwy, gan gynnwys swm y lluosydd:
Lluosydd manwerthu
Lluosydd manwerthu
Mae’r lluosydd manwerthu’n gymwys i eiddo gyda gwerth trethiannol is na £51,000, ac un o’r disgrifiadau canlynol mewn rhestr o gyfraddau lleol:
- ciosg a safle
- fferyllfa a safle
- swyddfa bost a safle
- siop a safle
- siop, swyddfa bost a safle
2026/2027
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/2027, y lluosydd manwerthu yng Nghymru yw 0.350.
Lluosydd safonol
Lluosydd safonol
Mae’r lluosydd safonol yn gymwys i’r holl eiddo nad yw’n destun i’r lluosydd manwerthu neu’n lluosydd uwch, megis:
- eiddo gyda gwerth trethiannol sy’n is na £51,000 nad yw’n destun lluosydd manwerthu
- eiddo gyda gwerth trethiannol rhwng £51,000 a £100,000
- eiddo gyda gwerth trethiannol sy’n uwch na £100,000 nad yw’n destun lluosydd uwch
Eiddo gyda’r disgrifiad canlynol yn y rhestr gyfraddau lleol, sy’n destun y lluosydd safonol, yn hytrach na’r lluosydd uwch, hyd yn oed os oes ganddynt werth trethiannol uwchben £100,000:
- gorsaf ambiwlans a safle
- sefydliad amddiffyn cynorthwyol a safle
- mynwent a safle
- coleg a safle
- amlosgfa a safle
- gorsaf dân a safle
- canolfan iechyd a safle
- ysbyty a safle
- llys barn a safle
- canolfan hamdden a safle
- llyfrgell a safle
- amgueddfa a safle
- gorsaf heddlu a safle
- carchar a safle
- ysgol a safle
- canolfan chwaraeon a safle
- meddygfa a safle
- pwll nofio a safle
- prifysgol a safle
2026/2027
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/2027, y lluosydd safonol yng Nghymru yw 0.502.
Lluosydd Uwch
Lluosydd Uwch
Mae’r lluosydd uwch yn gymwys i eiddo sy’n cael eu harddangos mewn rhestr o gyfraddau lleol neu ganolog gyda gwerth trethiannol o £100,000 neu fwy. Mae rhai eithriadau ar gyfer mathau eiddo penodol sy’n cael eu meddiannu gan gyrff y sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy’n cael eu cynnal yn bennaf gan fodelau cyllid cyhoeddus
Eiddo gyda’r disgrifiad canlynol yn y rhestr gyfraddau lleol, sy’n destun y lluosydd safonol, yn hytrach na’r lluosydd uwch, hyd yn oed os oes ganddynt werth trethiannol uwchben £100,000:
- gorsaf ambiwlans a safle
- sefydliad amddiffyn cynorthwyol a safle
- mynwent a safle
- coleg a safle
- amlosgfa a safle
- gorsaf dân a safle
- canolfan iechyd a safle
- ysbyty a safle
- llys barn a safle
- canolfan hamdden a safle
- llyfrgell a safle
- amgueddfa a safle
- gorsaf heddlu a safle
- carchar a safle
- ysgol a safle
- canolfan chwaraeon a safle
- meddygfa a safle
- pwll nofio a safle
- prifysgol a safle
2026/2027
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/2027, y lluosydd uwch yng Nghymru yw 0.515.
Ewch i Busnes Cymru (gwefan allanol) am fwy o wybodaeth am luosyddion.
Lluosyddion hyd a 31 Mawrth 2026
Hyd at 31 Mawrth, 2025, roedd yr holl eiddo yng Nghymru yn defnyddio’r un lluosydd.
Lluosyddion ar gyfer pob eiddo hyd at 31 Mawrth 2026
| Blwyddyn ariannol | Lluosydd ardrethol |
| 2025/2026 |
0.568 |
| 2024/2025 |
0.562 |
| 2023/2024 |
0.535 |
| 2022/2023 |
0.535 |
| 2021/2022 |
0.535 |
| 2020/2021 |
0.535 |
| 2019/2020 |
0.526 |
| 2018/2019 |
0.514 |
| 2017/2018 |
0.499 |
| 2016/2017 |
0.486 |
Archwiliadau o daliadau
Yn y gorffennol rydyn ni wedi derbyn ceisiadau gan asiantwyr i ddarparu manylion y taliadau a gwybodaeth arall ar gyfrifon sy’n mynd yn ôl flynyddoedd lawer. Ni all Cyngor Sir Ddinbych ymateb i’r ceisiadau hyn gan y dylai’r asiantwyr ardrethu, yn y rhan fwyaf o achosion, allu cyfrifo taliadau eu cleient yn seiliedig ar y wybodaeth a geir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu gofnodion eu cleientiaid.
Os byddwch yn credu ein bod wedi gwneud camgymeriad efo atebolrwydd eich cleient, gallwch roi manylion llawn i ni yn cynnwys eich cyfrifiadau eich hun ac fe wnawn ni adolygu ac ymateb yn unol â hynny.