Ardrethi busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 

Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn gallu gostwng bil ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Beth sydd ar gael drwy’r cynllun hwn

Mae busnesau cymwys yn gallu derbyn y canlynol:

  • Gostyngiad o 50% yn atebolrwydd net eu hardrethi annomestig yn 2022-23.
  • Gostyngiad o 75% yn atebolrwydd net eu hardrethi annomestig yn 2023-24.

Mae’r mwyafswm rhyddhad ardrethi a ganiateir drwy’r cynllun hwn ar draws pob eiddo a ddefnyddir gan yr un busnes yng Nghymru yn £110,000 ar gyfer pob blwyddyn ariannol.  

Er enghraifft, os ydych wedi derbyn £100,000 o Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch gan gyngor arall yng Nghymru ar gyfer 2022-2023, byddem ond yn gallu dyfarnu £10,000 ar draws yr eiddo yn ein hardal ar gyfer 2022-2023.

Sut i ymgeisio

I ymgeisio am y cynllun hwn, byddwch angen llenwi ffurflen gais ar gyfer pob blwyddyn ariannol yr hoffech ymgeisio i dderbyn rhyddhad ar ei chyfer.

Os oes gennych fwy nag un eiddo busnes yng Nghymru, byddwch angen nodi ar gyfer pa eiddo yr ydych yn dymuno cael y rhyddhad ar ei gyfer.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch ymgeisio am y cynllun hwn ar-lein.

  • Pa flwyddyn hoffech chi wneud cais am Ryddhad Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch?

Cymhwysedd

Mae manylion cymhwysedd ar gyfer y cynllun hwn ar gael ar wefan Busnes Cymru. 

2022-2023

Gallwch weld meini prawf cymhwyso ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022-2023 (gwefan allanol)

2023-2024

Gallwch weld meini prawf cymhwyso ar gyfer Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023-2024 (gwefan allanol)