Grant Datblygu Eiddo Masnachol Sir Ddinbych

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Rydym wedi sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn cynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol canol dinas a threfi Sir Ddinbych. Mae’r cynllun grant yn ffurfio rhan o Brosiect Cynllun Gwella Eiddo Canol Trefi ehangach.

Mae Grant Datblygu Eiddo Masnachol Sir Ddinbych ar agor i eiddo masnachol sydd wedi’u lleoli yng nghanol un o’r 8 prif drefi a dinas yn y sir sydd wedi cynnig prosiect(au) i ddatblygu a gwella eu heiddo a chanol y dref. Mae’n rhaid i eiddo fod o fewn ffiniau canol y dref neu’r ddinas yn un o’r canlynol:

  • Corwen
  • Dinbych
  • Llangollen
  • Prestatyn
  • Rhuddlan
  • Y Rhyl
  • Rhuthun
  • Llanelwy

Mae’n rhaid i’r prosiect hefyd fod o fewn y meini prawf canlynol:

  • Bydd dyfarniadau grant i brosiectau unigol wedi’u cyfyngu i £50,000 y cais, gydag isafswm o £5,000.
  • Bydd angen 30% o gyllid cyfatebol gan yr ymgeisydd.
  • Mae’r gronfa ar gael i berchnogion rhydd-ddaliadol yr eiddo, neu feddianwyr sydd â phrydles gyda 7 mlynedd neu fwy ar ôl ar ddyddiad y cais, ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord ar gyfer y gwaith arfaethedig.

Beth sydd ar gael?

Mae grantiau rhwng £5,000 a £50,000 ar gael i wella neu ddatblygu eiddo masnachol.

Byddai gwaith allanol i flaen yr adeilad yn cael ei ystyried heb yr angen am waith mewnol. Gall hyn gynnwys gwaith sy’n cael ei gyfrif yn angenrheidiol er mwyn cadernid strwythurol a defnydd yr eiddo, yn enwedig pan fo bwriad i newid defnydd. Gall eitemau gynnwys:

  • Blaen siopau
  • Gwella ffenestri arddangos
  • Gwella arwyddion
  • Ffenestri a drysau
  • Goleuadau allanol
  • Toeau a simneiau
  • Landeri a phibellau dŵr
  • Rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig, ail-bwyntio
  • Gwaith strwythurol

Byddai gwaith mewnol ond yn gymwys i dderbyn y grant fel rhan o becyn cynhwysfawr o welliannau allanol i’r adeilad, neu lle mae gofyn newid defnydd arfaethedig. Dylai hyn gynnwys yr holl waith, gweledol neu strwythurol, sydd ei angen i gwblhau’r prosiect i safon Rheoliadau Adeiladu. Gall hyn gynnwys:

  • Ffenestri a drysau
  • Gwell hygyrchedd
  • Waliau, nenfydau, goleuadau
  • Cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi
  • Cyfleusterau lles (e.e. cyfleusterau glanhau ac ymolchi hanfodol yn unig)
  • Gwaith strwythurol

Hefyd, bydd unrhyw waith i wella effeithlonrwydd ynni’r adeilad (e.e. inswleiddio mwy), yn gymwys, fel rhan o waith ehangach.

Nid yw gwaith i ddarparu neu wella eiddo preswyl yn gymwys ar gyfer y grant hwn.

Beth ddylai’r cynllun ei gyflawni?

Rydym yn disgwyl i bob prosiect allu dangos manteision i ganol y dref, fel:

  • Llai o unedau gwag yng nghanol y dref.
  • Gwella ansawdd a delwedd yr amgylchedd yn gyffredinol (creu hunaniaeth, ymdeimlad o le a hyder i fusnesau) i annog mwy o bobl i dreulio mwy o amser yng nghanol y dref ac annog mwy o weithgarwch a masnach i gefnogi busnesau lleol.
  • Creu cyfleoedd cyflogaeth a busnes newydd.
  • Cynaliadwyedd busnesau presennol a busnesau newydd yng nghanol y dref.

Sut i ymgeisio

Os hoffech wneud cais am Grant Datblygu Eiddo Masnachol, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ar–lein.

Ffurflen Mynegi Diddordeb ar–lein

Ar ôl cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb

Ar ôl cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb, a phan fydd yr holl feini prawf o’r ffurflen mynegi diddordeb i fod yn gymwys wedi’u bodloni, byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi ffurflen gais lawn i chi ei llenwi gyda’r dystiolaeth angenrheidiol.

Bydd ceisiadau am grant yn cael eu hasesu gan Swyddogion Datblygu Economaidd a Busnesau Sir Ddinbych, cyn cael eu cymeradwyo gan Banel Ariannu a fydd yn goruchwylio’r broses ac yn dyfarnu’r grant.

Swm cyfyngedig o gyllid sydd ar gael. Os oes gormod o geisiadau i faint o gyllid sydd ar gael bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r ymgeiswyr cyntaf i lenwi a dychwelyd ffurflen gais lawn a darparu’r holl dystiolaeth ategol.

Mwy o wybodaeth

Gallwch gysylltu â ni os hoffech fwy o wybodaeth am y Grant Datblygu Eiddo Masnachol.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro