Cefnogaeth dileu swyddi

Cewch wybod am y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer eich busnes a’ch gweithwyr sydd mewn perygl o golli eu swyddi.

Gyrfa Cymru

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cefnogi dileu swyddi proffesiynol, yn rhad ac am ddim i unigolion sydd mewn perygl o golli eu swyddi.

Ewch i Gyrfa Cymru: Cymorth colli swydd i gyflogwyr (gwefan allanol)

Canolfan Byd Gwaith

Os oes rhaid i chi ddileu swyddi, gall y Ganolfan Byd Gwaith roi cymorth a chyngor i chi a'ch gweithwyr drwy ei Wasanaeth Ymateb Cyflym.

Ewch i GOV.UK: Dileu swyddi staff (gwefan allanol)