Nifer yr ymwelwyr

Nifer yr ymwelwyr yw nifer y bobl sy’n mynychu siop neu ardal mewn amser penodol ac mae’n ddangosydd manwl o ba mor brysur ydi tref dros gyfnodau penodol o amser.

Caiff ffigurau am nifer yr ymwelwyr eu casglu o bob tref yn seiliedig ar y nifer o bobl sy’n pasio heibio i beiriant synhwyrydd electronig bob dydd.

Nifer yr Ymwelwyr yn Sir Ddinbych 2022

Mae'r tabl hwn yn dangos y nifer yr ymwelwyr a gofnodwyd yng nghanol trefi a dinasoedd Sir Ddinbych ymhob chwarter 2022.

Mae Llangollen wedi’i adael allan o’r data gan nad oedd y rhifydd ymwelwyr yn cael ei ddefnyddio am rannau o’r flwyddyn, oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal.

Nifer yr ymwelwyr a gofnodwyd yng nghanol trefi Sir Ddinbych ymhob chwarter 2020.
ChwarterCyfanswm
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 574,378
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 661,803
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 716,823
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 644,287
Cyfanswm 2,597,291

Yn gyffredinol, roedd y ffigurau’n dangos cynnydd cadarn o ran nifer yr ymwelwyr ar draws canol trefi a dinas Sir Ddinbych rhwng 2021 a 2022. Mae hyn yn dilyn y cynnydd a welwyd rhwng 2020 a 2021, gan barhau’r tueddiad o adferiad ar gyfer canol trefi o effeithiau’r Covid. 

Bu Cyngor Sir Ddinbych yn arwain prosiectau yn 2022 a helpodd i ddenu ymwelwyr i ganol trefi. Roedd peilotau llwyddiannus fel ‘Blaen Siop Digidol’ yn Ninbych yn denu ymwelwyr i’r dref, tra bod Sioe Awyr y Rhyl a’r Urdd yn nodi cyfnodau prysur ar gyfer trefi Sir Ddinbych.  

Nifer yr Ymwelwyr mewn trefi a dinasoedd

Dewiswch dref neu ddinas i weld nifer yr ymwelwyr ar gyfer 2022.

Corwen
Nifer yr ymwelwyr yn Corwen am 2022
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 21,820
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 26,937
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 30,088
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 24,037
Cyfanswm 102,882
Dinbych
Nifer yr ymwelwyr yn Dinbych am 2022
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 145,732
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 157,048
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 172,078
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 179,775
Cyfanswm 654,633
Llangollen
Nifer yr ymwelwyr yn Llangollen am 2022
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) Ddim ar gael gan fod rhifydd ymwelwyr wedi’i ddileu ar gyfer y cyfnod hwn oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal.
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) Ddim ar gael gan fod rhifydd ymwelwyr wedi’i ddileu ar gyfer y cyfnod hwn oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal.
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 168,270 (Ffigwr wedi’i effeithio oherwydd bod rhifydd ymwelwyr wedi’i symud oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal)
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 122,620
Cyfanswm 290,890 (Ffigwr wedi’i effeithio oherwydd bod rhifydd ymwelwyr wedi’i symud oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal)
Prestatyn
Nifer yr ymwelwyr yn Prestatyn am 2022
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 121,487
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 170,567
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 182,783
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 137,550
Cyfanswm 612,387
Rhuddlan
Nifer yr ymwelwyr yn Rhuddlan am 2022
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 17,840
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 19,662
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 21,117
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 19,070
Cyfanswm 77,689
Y Rhyl
Nifer yr ymwelwyr yn y Rhyl am 2022
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 199,914
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 211,444
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 227,229
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 212,076
Cyfanswm 850,663
Rhuthun
Nifer yr ymwelwyr yn Rhuthun am 2022
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 55,542
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 63,759
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 73,321
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 60,477
Cyfanswm 253,099
Llanelwy
Nifer yr ymwelwyr yn Llanelwy am 2022
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 12,043
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 12,386
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 10,207
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 11,302
Cyfanswm 45,938

Blynyddoedd blaenorol

Nifer yr Ymwelwyr yn Sir Ddinbych 2021

Mae'r tabl hwn yn dangos y nifer yr ymwelwyr a gofnodwyd yng nghanol trefi a dinasoedd Sir Ddinbych ymhob chwarter 2021.

Nifer yr ymwelwyr a gofnodwyd yng nghanol trefi Sir Ddinbych ymhob chwarter 2020.
Chwarter Cyfanswm
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 405,278
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 749,413
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 700,410
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 620,832
Cyfanswm 2,475,933

Mae’r ffigurau’n dangos cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr ar draws canol trefi a dinas Sir Ddinbych rhwng 2020 a 2021. Gellir priodoli hyn yn bennaf i’r cynnydd yn Chwarter 2, 3 a 4 2021, pan oedd llai o gyfyngiadau Covid-19 na’r cyfnodau yn 2020.

Yn ystod Chwarter 1, bu gostyngiad o ran nifer yr ymwelwyr yn 2021 o’i gymharu â 2020 oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Bu Cyngor Sir Ddinbych yn arwain prosiectau yn 2021 a helpodd i ddenu ymwelwyr i ganol trefi. Gwnaeth cynlluniau peilot llwyddiannus fel siop Love Live Local yn y Rhyl ddenu ymwelwyr i’r dref, gan chefnogodd adferiad canol y dref.

Covid-19

Gwelodd pob canol tref a dinas yn Sir Ddinbych ostyngiad o ran nifer yr ymwelwyr yn ystod y pandemig. Bu gostyngiad o ran nifer yr ymwelwyr ym mhob tref a dinas, a effeithiodd ar fasnach busnesau mewn canol trefi.

Dangosodd data nifer yr ymwelwyr y llynedd fod pobl yn dychwelyd pan oedd canllawiau’r Llywodraeth yn caniatáu hynny, er bod nifer yr ymwelwyr mewn canol trefi yn is oherwydd cyfyngiadau yn sgil y pandemig. Parhaodd y duedd hon eleni, ac mae nifer yr ymwelwyr wedi dychwelyd yn nes at eu lefel cyn y pandemig. Gellir gweld y cynnydd yn Chwarter 2, Chwarter 3 a Chwarter 4 ym mhob canol tref yn Sir Ddinbych, ar wahân i Langollen, lle symudwyd offer cyfri nifer yr ymwelwyr dros dro oherwydd gwaith parhaus yn yr ardal.

Er nad oedd lefelau nifer yr ymwelwyr yn 2021 ar lefel 2019, mae’r cynnydd o’i gymharu â 2020 yn anogol oherwydd lefel cyfyngiadau’r Llywodraeth a oedd yn dal i fod ar waith ar draws Cymru yn 2021.

Mae’r ffigurau hyn yn rhoi hyder, nid yn unig y bydd canol trefi Sir Ddinbych yn adfer o effeithiau pandemig Covid-19, ond bod y defnyddwyr yn dal i ystyried bod strydoedd mawr yn angenrheidiol er y newidiadau o ran arferion defnyddwyr a fu dros y 2 flynedd ddiwethaf.

Nifer yr Ymwelwyr mewn trefi a dinasoedd

Nifer yr Ymwelwyr mewn trefi a dinasoedd

Corwen

Nifer yr ymwelwyr yn Corwen am 2021
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 11,299
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 23,253
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 32,654
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 24,276
Cyfanswm 91,482

Dinbych

Nifer yr ymwelwyr yn Dinbych am 2021
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 103,892
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 130,648
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 156,651
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 157,903
Cyfanswm 549,094

Llangollen

Nifer yr ymwelwyr yn Llangollen am 2021
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 39,268
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 166,172 (Nifer yr effeithir arnynt gan dynnu cownteri'r ymwelwyr oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal)
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 0 (Nifer yr effeithir arnynt gan dynnu cownteri'r ymwelwyr oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal)
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 0 (Nifer yr effeithir arnynt gan dynnu cownteri'r ymwelwyr oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal)
Cyfanswm 205,440 (Nifer yr effeithir arnynt gan dynnu cownteri'r ymwelwyr oherwydd gwaith adfywio yn yr ardal)

Prestatyn

Nifer yr ymwelwyr yn Prestatyn am 2021
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 118,042
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 118,042
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 277,630
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 226,656
Cyfanswm 858,573

Rhuddlan

Nifer yr ymwelwyr yn Rhuddlan am 2021
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 15,878
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 19,914
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 22,233
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 19,685
Cyfanswm 77,710

Y Rhyl

Nifer yr ymwelwyr yn y Rhyl am 2021
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 119,984
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 195,563
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 223,262
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 200,574
Cyfanswm 739,263

Rhuthun

Nifer yr ymwelwyr yn Rhuthun am 2021
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 30,394
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 50,794
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 73,179
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 63,816
Cyfanswm 218,183

Llanelwy

Nifer yr ymwelwyr yn Llanelwy am 2021
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 8,812
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 10,454
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 10,012
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 11,680
Cyfanswm 40,958
Nifer yr Ymwelwyr yn Sir Ddinbych 2020

Mae'r tabl hwn yn dangos y nifer yr ymwelwyr a gofnodwyd yng nghanol trefi a dinasoedd Sir Ddinbych ymhob chwarter 2021.

Nifer yr ymwelwyr a gofnodwyd yng nghanol trefi Sir Ddinbych ymhob chwarter 2020.
Chwarter Cyfanswm
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 749,981
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 327,072
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 800,026
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 543,992
Cyfanswm 2,421,071

Er y gall nifer yr ymwelwyr fod yn is ar draws canol trefi a dinasoedd Sir Ddinbych, mae ymdrechion i ddigideiddio a chynnig gwasanaethau dosbarthu wedi arwain at ddefnyddwyr yn aros gyda busnesau canol tref a dinas, gan eu cadw'n barod i fynd yn ôl i ganol trefi a dinasoedd Sir Ddinbych pan godir y cyfyngiadau.

Covid-19

Gwelodd pob canol tref a dinas yn Sir Ddinbych ostyngiad mewn ymwelwyr yn ystod y pandemig. Gellir gweld o batrymau bod llai o ymwelwyr i ganol trefi a dinasoedd mewn cyfnodau o gyfyngiadau tynn, ond gellir gweld bod nifer yr ymwelwyr yn cynyddu eto mewn cyfnodau pan mae cyfyngiadau’n llacio, gan ddangos pan ddaw pen ar y cyfyngiadau, bydd galw am ganol trefi eto.

Gwelodd Sir Ddinbych ostyngiad rhwng Chwarter 1 a Chwarter 2 yn 2020.

Yna, fe adfywiodd pob canol tref a dinas rhwng Chwarter 2 a Chwarter 3 pan laciodd y cyfyngiadau.

Roedd Chwater 4 yn cynnwys Cyfnod Atal Byr ym mis Hydref, a’r cyfyngiadau’n arwain at y Nadolig, ac yna gwelwyd gostyngiad eto o Chwarter 3.

Nifer yr ymwelwyr fesul Cyfnod Clo

Mae’r wybodaeth hon yn dangos fod gostyngiad i nifer yr ymwelwyr yn sgil effaith o gyfyngiadau Covid ar ganol trefi a dinasoedd:

  • Cyfnod Clo 1 - gostyngiad cyfartalog o 66% yn nifer yr ymwelwyr (Mae ystumiad i nifer yr ymwelwyr yn sgil gwaith stryd Cydweithfa Dinbych wedi cael ei ystyried)
  • Cyfnod Clo 2 - gostyngiad cyfartalog o 63% yn nifer yr ymwelwyr
  • Cyfnod Clo 3 - gostyngiad cyfartalog o 54% yn nifer yr ymwelwyr

Gostyngiad mewn nifer yr ymwelwyr rhwng 2019 a 2020

Mae'r tabl canlynol yn dangos gostyngiad canrannol nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi a dinasoedd Sir Ddinbych rhwng 2019 a 2020.

Gostyngiad canrannol nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi a dinasoedd Sir Ddinbych rhwng 2019 a 2020
Chwarter Gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) -11.2%
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) -62.2%
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) -20.7%
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) -40.2%

Mae hyn yn amlygu bod canol trefi a dinasoedd Sir Ddinbych wedi’u heffeithio’n sylweddol gan y cyfyngiadau. Er bod nifer yr ymwelwyr wedi gostwng 11.2% yn Chwarter 1, dyma oedd nifer lleiaf y chwarteri, ac nid oedd cyfyngiadau ar waith i'w defnyddio fel meincnod ar gyfer misoedd eraill.

Er gwaethaf y cyfyngiadau ar waith yn Chwarter 3, 20.7% o ostyngiad yn unig oedd ymysg ymwelwyr.

Nifer yr Ymwelwyr mewn trefi a dinasoedd

Corwen

Nifer yr ymwelwyr yn Corwen am 2020
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 25027
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 11506
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 27289
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 16464
Cyfanswm 80286

Dinbych

Nifer yr ymwelwyr yn Dinbych am 2020
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 158874
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 89902
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 128612
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 127386
Cyfanswm 504774

Llangollen

Nifer yr ymwelwyr yn Llangollen am 2020
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 107515
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 32403
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 210677
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 58894
Cyfanswm 409489

Prestatyn

Nifer yr ymwelwyr yn Prestatyn am 2020
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 129841
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 58111
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 148889
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 101430
Cyfanswm 438271

Rhuddlan

Nifer yr ymwelwyr yn Rhuddlan am 2020
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 17066
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 13004
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 17331
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 17781
Cyfanswm 65182

Y Rhyl

Nifer yr ymwelwyr yn y Rhyl am 2020
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 234963
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 96935
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 203994
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 164816
Cyfanswm 700708

Rhuthun

Nifer yr ymwelwyr yn Rhuthun am 2020
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 64911
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 17093
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 53855
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 47654
Cyfanswm 183513

Llanelwy

Nifer yr ymwelwyr yn Llanelwy am 2020
Quarter Nifer yr Ymwelwyr
Chwarter 1 (Ionawr i Mawrth) 11784
Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 8118
Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 9379
Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 9567
Cyfanswm 38848

Gwelir fod pob canol tref wedi dilyn patrwm tebyg o ostyngiad rhwng Chwarter 1 a Chwarter 2, ac adferiad rhwng Chwarter 2 a Chwarter 3, a gostyngiad arall rhwng Chwarter 3 a Chwarter 4.

O’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, Dinbych cafodd y newid lleiaf o’r naill flwyddyn i'r llall, gyda gostyngiad o 3.8%. Gwelodd Rhuthun ostyngiad o 45.4% o’r naill flwyddyn i’r llall, a Chorwen, gostyngiad o 43.5%. Mae rhesymau dros hyn yn cynnwys canol trefi yn cael eu heffeithio’n benodol gan bobl yn gweithio o gartref, a chanol trefi’n seiliedig ar letygarwch.