Trawsnewid Adeiladau'r Frenhines yn ased cymunedol bywiog

Adeiladau'r Frenhines

Mae Marchnad y Frenhines wedi bod yn rhan allweddol o dref y Rhyl ers 1902. Gan ddarparu amrywiaeth o ddibenion, o lawr sglefrio dan do, perfformiadau theatr a chyfleoedd manwerthu, mae gan yr adeilad statws personol a fydd yn cael ei ymestyn ymhellach drwy ailddatblygu'r safle.

Ym mis Mawrth 2019, caffaeledd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) nifer o adeiladau cyfagos yng nghanol tref y Rhyl, sy'n wynebu'r promenâd glan y môr, a elwir gyda'i gilydd yn Adeiladau'r Frenhines.

Roedd yr adeiladau a elwid unwaith yng Ngwesty'r Savoy mewn cyflwr adfeiliedig, a’r lloriau uchaf ddim yn cael eu defnyddio (mae'r adeiladau ar lan y môr yn bedwar llawr) a gwagleoedd sylweddol ar y llawr gwaelod.

Rydym wedi datblygu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailddatblygiad defnydd cymysg y safle. Bydd ailddatblygu'r safle hwn nid yn unig yn cael gwared ar ddolur llygad sylweddol, bydd hefyd yn gweithredu fel cysylltydd allweddol, ac yn rhoi gwell hygyrchedd a symudiad rhwng glan y môr a chanol y dref. Mae wedi’i ddisgrifio fel prosiect catalydd allweddol yn adfywiad a llwyddiant economaidd canol tref y Rhyl i'r dyfodol.

Elfennau allweddol cam cyntaf y prosiect yw:

  • Mae’r datblygiad yn cynnwys 16 uned bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr, gofod digwyddiadau hyblyg mawr, a gofod awyr agored ar gyfer cynnal digwyddiadau, marchnadoedd neu rywle i eistedd
  • Datblygu gofod hyblyg a allai ddarparu ar gyfer ystod o ddigwyddiadau gan gynnwys marchnadoedd arbenigol, arddangosfeydd, cerddoriaeth a pherfformiadau theatrig a ffilm
Adeiladau'r Frenhines: Cerrig milltir y prosiect
Cerrig MilltirCwblhawyd / Rhagolygon
Caffael adeiladau'r Frenhines Mawrth 2019
Adnewyddu Maes Parcio Tanddaearol y Rhyl Ebrill 2019
Cyflwyno Hysbyseb Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw ar gyfer dymchwel Awst 2020
Sesiwn Friffio'r Cabinet Medi 2020
Grŵp Buddsoddiad Strategol Medi 2020
Diweddariad Aelodau'r Rhyl Medi 2020
Cabinet Medi 2020
Grŵp Rheoli Asedau Medi 2020
Sicrhau caniatâd i ddymchwel Medi 2020
Dechrau'r broses/ymgynghoriad Cyn Cais Cynllunio Medi 2020
Cyflwyno cais cynllunio Ionawr 2021
Dechrau'r gwaith dymchwel a gwaredu asbestos Ionawr 2021
Dechrau'r broses o ddewis prif gontractwr Mai 2021
Penodi prif gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu Awst 2021
Sicrhau caniatâd cynllunio Medi 2021
Cwblhau'r gwaith dymchwel Ionawr 2022
Dechrau Cam 1 o'r gwaith adeiladu Awst 2022
Cwblhau Cam 1 o'r gwaith adeiladu Rhagfyr 2023
Cwblhau gwaith gosod a phrofion gweithredol I’w gadarnhau
Agor y Neuadd Farchnad/Gofod Digwyddiadau am fusnes I’w gadarnhau