Adfywio'r Rhyl: Byw Cyfoes a Siopau Annibynnol

Byw Cyfoes a Siopau Annibynnol

Mae'r prosiect yn cynnwys prynu tair uned fanwerthu wag, gan gynnwys dwy â ffryntiadau'r Stryd Fawr, i greu lleoedd manwerthu newydd ffres ar lefel y llawr gwaelod i fodloni gofynion manwerthwyr annibynnol sy'n tyfu.

Bydd y lloriau uchaf yn cael eu trosi i ddarparu fflatiau cyfoes, gan ddefnyddio arwynebedd llawr gwag i ddarparu cartrefi mawr eu hangen a chynyddu nifer y bobl sy'n byw ac yn gwario arian yng nghanol y dref.

Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys prynu'r ystafelloedd ocsiwn ar draws y ffordd yn St Helen's Place i greu lle parcio pwrpasol i bobl yn y fflatiau, a fydd yn eu gwneud yn gynnig mwy deniadol.

Ariennir y cynllun yn rhannol gan y rhaglen Trawsnewid Trefi (gwefan allanol) trwy Lywodraeth Cymru.