Adfywio'r Rhyl: Prosiectau wedi'u cwblhau

Er gwaethaf yr heriau, mae egin o adferiad i'w gweld ar draws Canol Tref y Rhyl. Mae prosiectau mawr diweddar wedi denu mwy na £65 miliwn mewn buddsoddiadau, gan gynnwys:

SC2 Y Rhyl

Gyda ffocws ar ddarparu gwell profiad i drigolion ac ymwelwyr, mae'r datblygiadau mwy hyn wedi bod yn gadarnhaol ac wedi bod yn llwyddiannus yn y farchnad.

Theatr y Pafiliwn a Bwyty 1891

Nid dim ond y pethau mawr sy'n gadarnhaol. Mae busnesau bach newydd wedi agor i ymuno â'r rhai sydd eisoes yn cynnig cynhyrchion a gwasanaeth cwsmeriaid gwych; mae datblygiadau gofod swyddfa bach newydd yn llenwi; ac mae darparwyr gweithgareddau ar lan y traeth yn buddsoddi ac yn tyfu i ddarparu ar gyfer galw cynyddol gan bobl leol a thwristiaid fel ei gilydd.

Pont y Ddraig, Y Rhyl