Prosiectau bioamrywiaeth yn y Rhyl

Mae nifer o brosiectau yn y Rhyl wedi ceisio gwella bioamrywiaeth y dref er mwyn cefnogi natur a darparu ardaloedd croesawus i'r trigolion ac ymwelwyr.

Mae’r prosiectau yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a Chyngor sy’n fwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Cafodd gwarchodfa natur Maes Gwilym ei chreu fel rhan o brosiect creu coetiroedd y Cyngor.

Maes Gwilym
Maes Gwilym.

Bu gwirfoddolwyr, staff y Cyngor ac aelodau lleol yn plannu 2,500 o goed ar y safle, yn ogystal â gwella’r ardal o goetir.

Crëwyd llwybrau newydd gan ddefnyddio deunydd wedi’i ailgylchu a’u gorffen gyda llwch calchfaen. Er mwyn adfer yr ardal o wlyptir, dyluniwyd pwll dŵr ar y safle er mwyn cynnwys lefel isel o ddŵr. Pwll bywyd gwyllt byrhoedlog yw hwn ac mae’n darparu’r amodau gorau ar gyfer nifer o rywogaethau.

Mae gwylfa adar newydd wedi’i sefydlu ar y safle hefyd sy’n galluogi ymwelwyr i fwynhau’r bywyd gwyllt yn yr ardal, sy’n cynnwys nifer o rywogaethau adar ar y rhestr goch a’r rhestr oren.

Plannwyd perthi hefyd sy’n annog dolydd blodau gwyllt presennol a rhai newydd. Cyflwynwyd ardaloedd eistedd a chafodd ffensys a gatiau wedi’u difrodi eu disodli.

Gerddi'r Coronation, y Rhyl
Yng Ngerddi Coronation y Rhyl bu staff y Cyngor, gwirfoddolwyr o’r gymuned leol a phlant ysgol, gyda chymorth aelodau o’r ward leol, yn plannu bron i 3,000 o goed o amgylch y safle, gan gynnwys perthi bywyd gwyllt, er mwyn helpu i adfer natur.

Mae cyfanswm o dros 2,000 o goed wedi cael eu plannu mewn ardaloedd eraill yn y Rhyl hefyd, gan gynnwys Llwybr Cambria, Rhodfa Rhedyn a Ffordd Elan Park.

Ymunodd disgyblion Ysgol Dewi Sant â thimau Cefn Gwlad, Bioamrywiaeth a Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych i greu ardaloedd newydd o goed a gwrychoedd ar diroedd yr ysgol.

Ysgol Dewi Sant
Mae bron i 2,000 o goed newydd, gan gynnwys coed unigol a choed gwrychoedd wedi cael cartref ar diroedd yr ysgol.

Ac mae myfyrwyr Coleg Llandrillo, y Rhyl wedi gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad i wella ardal o berthi yn Ffos y Rhyl ger campws y Coleg.

Cafodd y myfyrwyr eu harwain i ddysgu sut i blygu gwrych sy’n golygu torri gwrych yn rhannol a’i blygu ar ongl. Canlyniad hyn yw tyfiant newydd yn dod o waelod y gwrych, ac mae’n galluogi i’r gwrych dewychu yn ei fôn, gan ddarparu cynefin trwchus ar gyfer bioamrywiaeth.

Draw yng Ngwarchodfa Natur Pwll Brickfield, mae gwaith wedi’i wneud i agor mynediad i hen berllan gymunedol a phwll gerllaw. Ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a myfyrwyr o’r coleg lleol, bu staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn gwneud gwaith i glirio’r ardal, gosod llwybrau newydd i gysylltu’r brif warchodfa a gosod pont i ddarparu mynediad i’r berllan.

Mae cyrsiau dŵr gerllaw wedi cael eu clirio hefyd i roi cyfle i lygod pengrwn y dŵr ffynnu yno.