Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-25
    
Rhwng 2022 a 2025, bu i Gyngor Sir Ddinbych weithio gyda chymunedau, busnesau a sefydliadau lleol i ddarparu buddsoddiad o £25.6 miliwn trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 
Bu i’r cyllid hwn, a oedd yn disodli’r hen Raglen Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, gefnogi 48 o brosiectau ar draws y sir.  Bu i’r prosiectau hyn greu cyfleoedd newydd i breswylwyr, cefnogi busnesau a gwella lleoedd a chyfleusterau ar draws Sir Ddinbych.
Blaenoriaethau Buddsoddi
Strwythurwyd y gronfa o gwmpas tri maes blaenoriaeth allweddol:
- Cymunedau a Lleoedd – £10.94 miliwn
 Cefnogi gwelliannau i fannau cyhoeddus, gwella isadeiledd lleol a chryfhau gwasanaethau cymunedol. 
- Cefnogi Busnesau Lleol – £3.2 miliwn
 Buddsoddi mewn mentrau lleol i hybu twf, gwella cynhyrchiant a chreu cyfleoedd cyflogaeth newydd. 
- Pobl a Sgiliau – £11.9 miliwn
 Creu llwybrau i unigolion i ddatblygu sgiliau newydd a gwella eu rhagolygon cyflogaeth. 
Buddsoddiad ychwanegol
Cafodd £1.7 miliwn yn ychwanegol ei glustnodi ar gyfer menter Lluosi Llywodraeth y DU, sy’n canolbwyntio ar wella sgiliau rhifedd oedolion.
Mae’r rhaglen yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i helpu unigolion i fagu hyder a galluedd gyda rhifau, gan eu grymuso mewn bywyd bob dydd a chyflogaeth.
Cynllun buddsoddi
Cafodd cynllun buddsoddi ei gyflwyno i Lywodraeth y DU ar 1 Awst 2022.  Mae’r themâu a gododd o Gynllun Corfforaethol y Cyngor 2022-2027 wedi helpu i ddatblygu’r cynllun buddsoddi a’r targedau gan weithio at ddarparu cyflogaeth deg a chyfleoedd gwaith da i bawb, yn ogystal â chreu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy y gellir ymfalchïo ynddyn nhw.
Bydd y cynllun yn ystyried tair thema’r gronfa fel y’u nodir gan y Llywodraeth.
Wrth ddatblygu’r cynllun rydym hefyd yn ystyriol o amcanion y gronfa a osodwyd gan y Llywodraeth:
- Rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflogau, swyddi a safonau byw
 
- Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus
 
- Adfer synnwyr o gymuned, balchder lleol a pherthyn
 
- Grymuso arweinwyr lleol a chymunedau
 
Wrth ddatblygu ein cynllun buddsoddi lleol, bu i ni weithio mewn partneriaeth â chynghorwyr, Aelodau Seneddol a budd-ddeiliaid lleol, yn cynnwys busnesau a thrigolion.
Gweithio Rhanbarthol
Er bod Sir Ddinbych wedi datblygu ei gynllun buddsoddi ei hun, bu iddo hefyd ffurfio rhan o’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru ehangach.  Bu i ni weithio gyda’r awdurdodau cyfagos canlynol:
- Cyngor Gwynedd
 
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
 
- Cyngor Sir y Fflint
 
- Cyngor Sir Ynys Môn
 
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
 
Grant programmes and local funds
Gan gydnabod pwysigrwydd cefnogi sefydliadau llai a mentrau llawr gwlad, bu i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU hefyd ddarparu amrywiaeth o gronfeydd allweddol a rhaglenni grant.
Dyluniwyd y rhain i wneud cyllid Llywodraeth y DU yn fwy hygyrch a sicrhau bod ei fuddion yn cael eu teimlo’n eang ar draws y sir:
- Cefnogi Cronfa Allweddol Busnesau Lleol (yn cynnwys y Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau): £2.2 miliwn
 
- Cronfa Allweddol Capasiti Cymunedol (yn cynnwys Cronfa Allweddol Lluosi): £2.1 miliwn
 
- Grantiau Cymunedol a Rhaglen Celfyddydau Creadigol:  £600,000
 
- Grant Gwella Canol y Dref:  £240,000
 
Mae’r cronfeydd hyn wedi galluogi i fentrau a phrosiectau llai i ffynnu, gan gyfrannu at gymunedau bywiog ac economi lleol cryfach. 
Prosiectau
Gweler yr holl brosiectau sydd wedi’u hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Canlyniadau allweddol
Mae’r cyllid hwn wedi cefnogi amrywiaeth o fentrau sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn lleol.  Mae rhai o’r canlyniadau allweddol yn Sir Ddinbych yn cynnwys:
- 25,111 o gyfleoedd i wirfoddoli wedi’u cefnogi
 
- Dros 5,000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol wedi’u darparu
 
- 119 o gyfleusterau cymunedol wedi’u creu neu eu gwella
 
- Dros 49,000 o goed wedi’u plannu
 
- 52 o swyddi newydd wedi’u creu
 
- 261 o swyddi wedi’u diogelu
 
- 1,397 o bobl wedi ennill cymhwyster neu wedi cwblhau cwrs
 
- Dros 800 o fusnesau wedi’u cefnogi
 
- Bron i 1,000 o sefydliadau wedi derbyn cymorth 
 
Beth nesaf?
Bu i Lywodraeth y DU ymestyn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU am flwyddyn bontio tan 31 Mawrth 2026, gyda £42.4 miliwn yn ychwanegol wedi’i ddyrannu i Ogledd Cymru ar gyfer 2025–26. Daw £8.6 miliwn o hynny i Sir Ddinbych i gefnogi prosiectau a blaenoriaethau lleol.
Dysgwch fwy am flwyddyn bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26