Cronfa Ffyniant Bro - Gorllewin Clwyd: Cwestiynau Cyffredin


Gallwch danysgrifio i’n rhestr bostio os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf ar brosiectau Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.

Darganfod mwy am y rhestr bostio Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.

Beth yw'r Gronfa Ffyniant Bro?

Cronfa Llywodraeth y DU yw'r Gronfa Ffyniant Bro. Mae'n un rhan o gynnig ehangach y Llywodraeth i wella cyfleoedd ledled y DU. Diben penodol y gronfa yw cefnogi buddsoddiad yn y mannau hynny ble gall wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd bob dydd, yn cynnwys hen ardaloedd diwydiannol, trefi difreintiedig a chymunedau arfordirol. Gall hyd at £4.8 biliwn (tan 2024-25) fod ar gael drwy’r Gronfa ledled y DU gydag o leiaf £800 miliwn i’w fuddsoddi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y Gronfa'n canolbwyntio ar fuddsoddiadau cyfalaf.

Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn buddsoddi mewn isadeiledd lleol sy'n cael effaith weladwy ar bobl a'u cymunedau. Mae hyn yn cynnwys ystod o flaenoriaethau buddsoddi lleol o werth uchel, yn cynnwys cynlluniau cludiant lleol, prosiectau adfywio trefol ac asedau diwylliannol. Mae disgwyl i Aelodau Seneddol (AS) ddarparu cymorth lle tybir bod hynny’n briodol. Yng Nghymru, mae ceisiadau (cynigion) am cyllid yn cael eu cyflwyno gan yr awdurdodau lleol. Bydd nifer y ceisiadau y gall awdurdod lleol eu gwneud yn berthnasol i nifer yr Aelodau Seneddol yn eu hardal. Mae'r broses ymgeisio yn gystadleuol, sy'n golygu na fydd pob awdurdod lleol yn llwyddo i gael y cyllid y maen nhw wedi gofyn amdano.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Bro ar wefan GOV.UK (gwefan allanol).

Yn ôl i'r brig


Pam Gorllewin Clwyd?

Gwahoddodd Llywodraeth y DU geisiadau yn seiliedig ar ardaloedd etholaeth. Cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych geisiadau ar gyfer pob ardal etholaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y ceisiadau a gyflwynwyd ar ein gwefan.

Yn ôl i'r brig


O dan pa thema gymeradwywyd y cynllun hwn?

Cyflwynwyd a chymeradwywyd cais Gorllewin Clwyd o dan y thema Diwylliant.

Yn ôl i'r brig


Be' fydd y cyllid yn ei wneud ar gyfer fy ardal i?

Bydd yr arian yn helpu i ddarparu prosiectau i ddiogelu treftadaeth unigryw Rhuthun, lles a chymunedau gwledig.

Nod y cais yw darparu prosiectau dan 2 thema

Treftadaeth Unigryw Rhuthun a Lles

Nod y thema hon yw gwella cysylltedd cerdded a beicio yn Rhuthun a’r cyffiniau ac ategu buddsoddiad mewn gweithgareddau i roi hwb i’r dreftadaeth a gwerth diwylliannol. Mae’r ymyriadau arfaethedig yn canolbwyntio ar welliannau i’r parth cyhoeddus, ehangu’r cwmpas ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref.

Cymunedau Gwledig a Lles

Nod y thema hon yw darparu cyfleusterau yn Loggerheads a Moel Famau sydd o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) i ddenu mwy o ymwelwyr ac i gwrdd â’r galw sydd eisoes yn bodoli. Caiff canolbwyntiau cymunedol newydd eu creu ym mhentrefi gwledig cyfagos Bryneglwys a Gwyddelwern, a fydd yn darparu lleoedd newydd i breswylwyr nad oes ganddynt ddigon o gyfleoedd ar hyn o bryd ar gyfer ymgysylltiad cymdeithasol a mynediad at wasanaethau naill ai’n lleol neu yn Rhuthun.

Yn ôl i'r brig


Sut gafodd y prosiectau eu dewis?

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro gwahoddodd Cyngor Sir Ddinbych gynigion am brosiectau gan aelodau etholedig, AS, Cynghorau Tref a Chymuned a swyddogion CSDd.

Dewiswyd y prosiectau ar gyfer y cais terfynol ar y sail eu bod yn rhai y byddai modd eu darparu, yn cael dylanwad ac yn yn cwrdd â meini prawf y Gronfa Ffyniant Bro.

Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych y rhestr derfynol o brosiectau i’w cynnwys yn y cais ar 28 Mehefin 2022. Mae’r adroddiad a chofnodion y cyfarfod i’w gweld a wefan y Cyngor.

Yn ôl i'r brig


Lle alla' i gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau?

Mae crynodeb o bob prosiect ar gael ar ein gwefan.

Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru wrth i ragor o fanylion am y prosiectau ddod i law.

Bydd unrhyw ddigwyddiadau’n cael eu diweddaru ar wefan a safleoedd cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Newyddion: Cynnal digwyddiad gwybodaeth ar gyfer rhaglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.

Yn ôl i'r brig


Pwy gymeradwyodd y cais hwn?

Cymeradwyodd Llywodraeth y DU y cais yn dilyn proses werthuso eang a oedd yn ystyried y gallu i ddarparu'r prosiectau a'u heffaith.

Dim ond tua 20% o'r holl geisiadau ar draws y DU oedd yn llwyddiannus.

Mae rhestr lawn o'r ceisiadau llwyddiannus i'w gweld ar wefan Llywodraeth y DU.

Yn ôl i'r brig


Mae gen i ddiddordeb mewn grant ar gyfer fy mhrosiect. Allwch chi helpu?

Cymeradwywyd cyllid y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Gorllewin Clwyd i ddarparu cyfres benodol o brosiectau.

Nid yw'n bosibl defnyddio'r grant i ariannu prosiectau eraill.

Mae'n bosibl bod cyllid arall ar gael a fyddai’n addas ar gyfer eich prosiect chi. Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan:

Yn ôl i'r brig


Oni fyddai'n well defnyddio'r arian ar wasanaethau eraill?

Pennodd Llywodraeth y DU feini prawf penodol ar gyfer y mathau o brosiectau y byddai'n eu hariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Bro.

Dim ond ar brosiectau a gymeradwywyd y gellir gwario’r arian.

Gellir gweld rhagor o fanylion ar wefan GOV.UK (gwefan allanol)

Yn ôl i'r brig


Pwy sy'n gyfrifol am ddarparu'r prosiectau?

Cyngor Sir Ddinbych wnaeth y cais am gyllid a'r Cyngor yw'r corff atebol.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu 8 o'r 10 prosiect, gydag Ardal Genhadaeth Dyffryn Clwyd yn gyfrifol am welliannau i Eglwys Sant Pedr a'r Clawstr, a Chymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn gyfrifol am Ganolbwynt Cymunedol Bryneglwys.

Cewch ragor o fanylion ar ein gwefan.

Yn ôl i'r brig


Rwyf wedi clywed y bydd y gylchfan ar sgwâr Sant Pedr yn cael ei thynnu, ydi hyn yn wir?

Mae 1 o’r 10 prosiect yn canolbwyntio ar welliannau i Sgwâr Sant Pedr.

Cewch ragor o fanylion ar ein gwefan.

Nid oes dyluniad terfynol ar gyfer y prosiect hwn eto. Mae tîm y prosiect yn cynnal amryw o arolygon i weld beth sy'n bosibl. Rydym yn gobeithio ymgysylltu ynghylch y cynigion dylunio yn ddiweddarach eleni.

Yn ôl i'r brig


Fydd y gwaith sydd wedi'i gynllunio'n garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?

Mae'r Cyngor wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac wedi gosod targedau uchelgeisiol i fod yn ddi-garbon erbyn 2030.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar ein gwefan. Bydd yr effeithiau carbon felly’n ystyriaeth allweddol wrth ddylunio a darparu’r prosiectau.

Yn ôl i'r brig


Pa ystyriaeth a roddwyd i fioamrywiaeth ac ecoleg?

Mae ar y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau cydymffurfiaeth â, ac i orfodi'r Rheoliadau Cynefinoedd (fel y'i diwygiwyd yn 2017). Yn ogystal, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gofyn bod y Cyngor yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth ac yn hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.

Bydd bioamrywiaeth ac ecoleg felly'n ystyriaethau allweddol wrth ddylunio a darparu'r prosiectau.

Mae gwbodaeth am Strategaeth yr Hinsawdd ac Ecolegol ar gael ar ein gwefan.

Yn ôl i'r brig


Ydych chi'n ymwybodol o'r ystlumod sy'n clwydo yn yr ardal?

Mae'n gyffrous iawn bod clwyd famolaeth bwysig o Ystlumod Pedol Lleiaf yn Rhuthun.

Mae'n rhaid i'n holl brosiectau ystyried goblygiadau ecolegol y gwaith sydd wedi'i gynllunio a bydd unrhyw arolygon ecolegol angenrheidiol yn cael eu cynnal. Bydd y gwaith y gellir ei wneud, a sut y caiff ei wneud, yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolygon hyn.

Yn ôl i'r brig


Pryd fyddwn ni'n dechrau gweld pethau'n digwydd?

Disgwylir bod cyllid o Rownd 2 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU wedi’i wario erbyn mis Mawrth 2025.

Ychydig iawn fydd i’w weld i ddechrau gan fod llawer o waith i’w wneud o hyd i gwblhau’r arolygon angenrheidiol, datblygu dyluniadau a chynnal ymgysylltiad cyhoeddus, cyn penderfynu’n derfynol ar unrhyw ddyluniad a chael y caniatâd angenrheidiol ar gyfer y prosiectau.

Bydd amserlenni’n amrywio’n dibynnu ar natur bob prosiect ond nid ydym yn disgwyl gweld unrhyw waith adeiladu tan yr hydref 2024.

Byddwn yn diweddaru gwefan y Cyngor ac yn defnyddio amrywiol sianelau cyfathrebu i roi gwybod i bobl beth sy’n digwydd o ran cyfleoedd ymgysylltu a chynnydd.

Yn ôl i'r brig


Onid yw rhai o'r prosiectau'n ymwneud ag adeiladau rhestredig? Onid oes raid i chi fod yn ofalus beth yr ydych yn ei wneud i'r rhain?

Oes. Mae Rhuthun yn ffodus iawn o fod â nifer uchel o adeiladau treftadaeth unigryw sydd â statws adeilad rhestredig.

Bydd yn ofynnol i dimau'r prosiectau weithio'n agos ag arbenigwyr treftadaeth a chael caniatâd arbennig cyn iddynt allu gwneud unrhyw newidiadau.

Yn ôl i'r brig


Mae llawer o brosiectau yn Rhuthun, a fydd yn digwydd ar yr un pryd. Fydd hyn tarfu ar fynd a dod arferol yng nghanol y dref?

Mae'n anorfod y bydd rhywfaint o darfu ar fynd a dod yn y dref oherwydd natur y gwaith. Bydd gwaith adeiladu'n cael ei gynllunio'n ofalus i gadw unrhyw anghyfleustra i'r isafswm a bydd hysbysiad ynghylch yr hyn sydd i ddigwydd yn cael ei ddosbarthu i breswylwyr a busnesau ymlaen llaw.

Yn ôl i'r brig


Sut wnewch chi roi gwybod i bobl beth sy'n digwydd?

Bydd gwybodaeth am y prosiectau wrth iddynt ddatblygu ar gael ar wefan y Cyngor.

Gan fod Cyngor Sir Ddinbych yn anelu at fod yn Ddi-garbon erbyn 2030, mae'n rhaid i ni ystyried sut yr ydym yn ymgysylltu â phawb er mwyn osgoi argraffu gormod o ddogfennau.

Yn ôl i'r brig