Rownd 2 Cronfa Adfywio Leol: Cynigion prosiect llwyddiannus 

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o fod wedi sicrhau £10.95 miliwn o Rownd 2 Cronfa Adfywio Leol Llywodraeth y DU i gefnogi datblygu 10 prosiect sydd â’r bwriad o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, cefnogi cymunedau gwledig a chefnogi lles. 

Roedd y cynllun cyllid hwn ar agor i awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ynghlwm â themâu adfywio, treftadaeth neu gludiant.

Cefnogwyd y cynigion oedd wedi’u cynnwys ar gyfer Rhuthun ac ardaloedd gwledig cyfagos gan gyn AS yr etholaeth, David Jones, ac aelodau etholedig lleol.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am gyflawni 8 o’r prosiectau. Bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd yn cyflawni prosiect Eglwys a Chlwystai Sant Pedr a bydd Cymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni prosiect Ysgol Bryneglwys – Canolbwynt Cymunedol.

Gellwch danysgrifio i’n rhestr bostio os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am rownd 2 prosiectau’r Gronfa Adfywio Lleol.

Canfod mwy am restr bostio Cronfa Adfywio Lleol rownd 2.

Amhariadau ar ddigwyddiadau yn Rhuthun

Os ydych chi’n bwriadu cynnal digwyddiad yn Rhuthun, mae’n bosibl y bydd gwaith ar brosiectau Rownd 2 Cronfa Adfywio Leol yn effeithio arno. Mae rhagor o wybodaeth am amhariadau ar ddigwyddiadau ar gael ar ein tudalen we cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych.

Prosiectau

Mae'r rhestr lawn o brosiectau i’w gweld isod.

Rownd 2 y Gronfa Adfywio Leol: Rhuthun ac ardaloedd cyfagos
Enw'r Prosiect / GweithgareddLleoliadDisgrifiad
Sgwâr Sant Pedr Rhuthun

Cyngor Sir Ddinbych sydd yn cyflawni’r prosiect hwn. Mae OBR Construction yn gwneud y gwaith.

Cynllun o welliannau i’r parth cyhoeddus i wella llif cerddwyr a thraffig o amgylch y sgwâr a hwyluso lle canolog mwy hyblyg i gynnal digwyddiadau.

Disgwylir cwblhau’r prosiect ym mis Chwefror 2027.

Eglwys a Chlwystai Sant Pedr Rhuthun

Cenhadaeth Dyffryn Clwyd fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.

Gwelliannau er mwyn gwarchod yr adeiladau treftadaeth hyn yn well a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch i bawb.

Tŵr Cloc Rhuthun Rhuthun

Cyngor Sir Ddinbych sydd wedi cyflawni’r prosiect hwn.

Rhaglen o waith atgyweirio ac adnewyddu i dŵr y cloc.

Cwblhawyd y gwaith adeiladu ym mis Rhagfyr 2024.

Carchar Rhuthun/46 Stryd Clwyd Rhuthun

Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.

Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.

Bydd mynedfa newydd i adeilad rhestredig gradd 2* Carchar Rhuthun yn cael ei hychwanegu drwy 46 Stryd Clwyd gyda gwell cyfleusterau ar gael i’r cyhoedd.

Nantclwyd-y-Dre, Rhuthun Rhuthun

Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.

Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.

Adfer yr adain orllewinol restredig gradd 1 sydd wedi dadfeilio.

Cae Ddôl, Rhuthun Rhuthun

Cyngor Sir Ddinbych sydd yn cyflawni’r prosiect hwn. Mae OBR Construction yn gwneud y gwaith.

Cynllun o welliannau i’r parth cyhoeddus sy’n ceisio gwella cysylltedd drwy’r parc a rhwng y parc a chanol y dref.

Gwelliannau i’r cynnig hamdden o fewn y parc, a gosod trac pwmpio newydd.

Disgwylir cwblhau’r prosiect ym mis Hydref 2026.

Cyfleusterau a Llwybrau Beicio Moel Famau Moel Famau

Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.

Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.

Bydd y prosiect yn creu cyfleusterau toiledau a lluniaeth newydd a gwell. Bydd llwybrau beicio’n cael eu hymestyn a’u rheoli’n gynaliadwy.

Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno.

Adeilad ac Ardal Allanol Loggerheads Loggerheads

Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.

Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.

Gwelliannau i’r adeilad presennol yn cynnwys gwelliannau mewnol ac ardal fwy dan do y tu allan. Mesurau rheoli llifogydd.

Cafwyd caniatâd cynllunio yn Tachwedd 2024.

Ysgol Bryneglwys - Canolbwynt Cymunedol Bryneglwys

Cymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.

Trawsnewid hen adeilad ysgol yn ganolfan gymunedol newydd.

Gwaith adeiladu wedi dechrau fis Gorffennaf 2024.

Gwyddelwern - Canolbwynt Cymunedol Gwyddelwern

Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.

Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.

Bydd canolbwynt cymunedol newydd, effeithlon o ran ynni yn cynyddu’r ystod o gyfleusterau sydd yn y pentref.

Cafwyd caniatâd cynllunio yn Rhagfyr 2024.

Tudalennau cysylltiedig

Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Adfywio Leol (LRF) i'w gweld ar wefan GOV.UK.