Neuadd y Sir

Croeso nôl i Siop Un Alwad Rhuthun

Rydym ar agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4:30pm.

Gallwn helpu gyda phethau fel:

  • sganio dogfennau
  • trwyddedi parcio
  • archebu sachau gwastraff masnachol
  • gwneud cais am Fathodyn Glas

Os oes angen i chi wneud taliad neu os oes gennych gwestiwn am un o wasanaethau’r Cyngor, ffoniwch 01824 706000 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm) er mwyn i ni sicrhau bod yr holl fanylion gennym i'ch helpu ac i drefnu apwyntiad i'n gweld ni os oes angen.

Os oes gennych unrhyw bryderon am les preswylydd, cysylltwch ag Un Pwynt Mynediad (UPM) ar 0300 456 1000. Mewn argyfwng y tu allan i oriau, ffoniwch 0345 053 3116 ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol, neu 0300 123 3068 ar gyfer pob gwasanaeth arall.

Ewch yn syth i:

Oriau agor canolfan alwadau

  • Dydd Llun: 8:30am i 5pm
  • Dydd Mawrth: 8:30am i 5pm
  • Dydd Mercher: 8:30am i 5pm
  • Dydd Iau: 8:30am i 5pm
  • Dydd Gwener: 8:30am i 5pm
  • Dydd Sadwrn: ar gau
  • Dydd Sul: ar gau

Yn ôl i frig y dudalen.

Cyfleusterau Siop Un Alwad

Mae Siopau Un Alwad yn darparu gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o wasanaethau'r cyngor o dan un to, o dreth y cyngor i gasgliadau sbwriel a thrwyddedau parcio.

Gallwch hefyd dalu am amrywiaeth o wasanaethau'r cyngor, gan gynnwys treth y cyngor, rhenti tai a dirwyon parcio. Gallwch dalu gydag arian parod, cerdyn credyd neu gerdyn debyd. Cofiwch ddod â'ch rhif cyfrif / rhif cyfeirnod neu gerdyn talu gyda chi. Mae yna hefyd giosg taliadau hunan-wasanaeth yn y Siop Un Alwad yma.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Dydd Llun i Ddydd Iau: 8:30am i 5pm

Dydd Gwener: 8:30am i 4.30pm

Cysylltu â’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol

Yn ôl i frig y dudalen.

Sut i gysylltu a dod o hyd i ni

Ysgrifennwch atom

Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ

Ewch i

Cyngor Sir Ddinbych,
Ffordd Wynnstay,
Rhuthun,
LL15 1YN

Ffôn: 01824 706000

Sut i gyrraedd yma

Cynlluniwch eich taith gyda Traveline Cymru.

Dyma’r meysydd parcio agosaf:

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.