Sut mae Treth y Cyngor yn cael ei wario

Sut mae Treth y Cyngor yn cael ei wario

Mae Treth y Cyngor yr ydych yn ei thalu yn cael ei chasglu i ddarparu'r mwyafrif o wasanaethau yn Sir Ddinbych ac yn cael ei rhannu rhwng tri awdurdod: Cyngor Sir Ddinbych, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Pie Chart

Beth yw Treth y Cyngor a sut caiff ei gwario?

Mae Treth y Cyngor rydych chi’n ei thalu yn cael ei chasglu i ddarparu gwasanaethau lleol fel addysg, glanhau strydoedd a phlismona.

Mae Treth y Cyngor rydych chi'n ei dalu

Mae’r swm a dalwch yn dibynnu ar y band sydd wedi cael ei ddyrannu i’ch eiddo yn unol â’i werth ar 1 Ebrill 2003.

Treth Cyngor: Y swm rydych yn ei dalu


Y Swyddfa Brisio (gwefan allanol) sy’n gyfrifol am fandio pob eiddo yng Nghymru.


Y Swyddfa Brisio

Rydym yn cyfrifo pob band prisio fel cyfran o Dreth y Cyngor o’i gymharu â Band D.

Darganfyddwch fwy am fandiau eiddo Treth y Cyngor.

Mae Treth y Cyngor yn cynnwys tri thaliad ar wahân (gelwir yn ‘braeseptau’ hefyd) sy’n llunio’r cyfanswm a godir ar bob eiddo yn Sir Ddinbych.

Mae’r arian a gesglir yn cael ei rannu rhwng:

  • Cyngor Sir Ddinbych: 80%
  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: 17%
  • Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned: 3%

Praeseptau

Cyngor Sir Ddinbych

Y Cyngor Sir sy’n cymryd y gyfran fwyaf o’ch Treth y Cyngor. Mae’r arian hwn nyn mynd at ddarparu gwasanaethau lleol ar gyfer y sir gyfan fel:

  • addysg, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid
  • llyfrgelloedd
  • parciau a mannau agored
  • gofal cymdeithasol i bobl hŷn, plant ac aelodau diamddiffyn eraill o’r gymuned
  • cynllunio a rheoli adeiladu
  • casglu gwastraff, glanhau strydoedd a materion amgylcheddol eraill
  • cynnal a chadw ffyrdd a phontydd
  • rheoli traffig a diogelwch ar y ffyrdd
  • gwasanaethau parcio a rheolaeth
  • etholiadau, cofrestryddion genedigaethau, marwolaethau a phriodasau
  • mynwentydd, amlosgfa a gwasanaethau crwner
  • safonau masnach a diogelu defnyddwyr
  • datblygu economaidd ac adfywio
  • gwasanaethau datblygu cymunedol
  • darpariaeth tai, strategaeth, cyngor a gwasanaethau i bobl ddigartref
  • budd-daliadau tai a gweinyddiaeth Treth y Cyngor

Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddarparu gwasanaethau fel addysg, iechyd yr amgylchedd, gwasanaethau cymdeithasol a chynllunio gwlad a thref ar gyfer Sir Ddinbych gyfan.

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (gwefan allanol) yw’r corff llywodraethu lleol ar gyfer plismona. Maen nhw’n gosod eu helfen ('praesept') eu hunain o Dreth y Cyngor.

Praesept 2023/2024 ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yw £100 miliwn, sydd gyfwerth â £333.09 o Dreth y Cyngor ar gyfer eiddo Band D.

Mae’r elfen hon o Dreth y Cyngor y tu hwnt i reolaeth y Cyngor Sir.

Darganfyddwch fwy am braesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned

Mae gan Sir Ddinbych 37 Cyngor Dinas, Tref a Chymuned a’u rôl yw cynrychioli cymunedau lleol a darparu gwasanaethau lleol fel:

  • arwyddion a hysbysfyrddau gwybodaeth i’r cyhoedd
  • seddi cyhoeddus
  • llochesi bws
  • cofebau rhyfel
  • canolfannau cymunedol

Mae Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn gosod eu helfen (‘praesept’) eu hunain o Dreth y Cyngor. Bob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid iddynt gyfrifo eu gofynion cyllidebol a chyhoeddi’r praesept i’r awdurdod bilio (Cyngor Sir Ddinbych).

Fe gaiff y praesept ei drosi’n swm fesul Band Treth y Cyngor a gaiff ei ychwanegu i’r bil Treth y Cyngor. Telir y swm net (praesept) i Gynghorau Dinas, Tref neu Gymuned mewn dau randaliad bob chwe mis.

Darganfyddwch fwy am braesept Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.