Gwybodaeth am eich bil treth y cyngor.
Talu Treth y Cyngor
Mae’n rhaid i chi dalu treth y cyngor erbyn y dyddiad a nodir ar eich bil.
Mwy o wybodaeth am dalu
Gostyngiadau ac esemptiadau
Mae gostyngiadau ac esemptiadau ar gael a allai ostwng eich bil treth y cyngor.
Edrychwch ar y gostyngiadau a'r esemptiadau sydd ar gael
Newidiadau yn eich amgylchiadau
Os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a allai newid y swm sy'n daladwy gennych neu os ydych wedi symud tŷ, mae'n rhaid i chi ein hysbysu cyn gynted ag sy'n bosibl.
Rhowch wybod i ni am newid yn eich amgylchiadau
Bandiau eiddo
Mae’r swm a dalwch yn dibynnu ar y band sydd wedi cael ei ddyrannu i’ch tŷ yn unol â’i werth ar 1 Ebrill 2003.
Edrychwch ar y gwerthoedd a manylion sut i apelio yn erbyn band eiddo.
Bandiau eiddo 2019/20 a 20/21
Band eiddo | 2019/20 | 2020/21 | Lluosog |
A |
£884.72 |
£922.77 |
6/9 |
B |
£1,032.17 |
£1,076.57 |
7/9 |
C |
£1,179.63 |
£1,230.36 |
8/9 |
D |
£1,327.08 |
£1,384.16 |
9/9 |
E |
£1,621.99 |
£1,691.75 |
11/9 |
F |
£1,916.89 |
£1,999.34 |
13/9 |
G |
£2,211.80 |
£2,306.93 |
15/9 |
H |
£2,654.16 |
£2,768.32 |
18/9 |
I |
£3,096.52 |
£3,229.71 |
21/9 |
Crynodeb o dreth y cyngor ar gyfer Sir Ddinbych 2020 - 2021 yn band D (PDF, 164KB)
Apelio yn erbyn eich bil treth y cyngor
Gallwch apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru (gwefan allanol) os ydych yn credu nad ydych yn atebol i dalu treth y cyngor oherwydd:
- nad ydych yn credu mai chi yw'r person atebol
- bod eich eiddo wedi'i eithrio rhag treth y cyngor
- rydym wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrifo’ch bil
Os ydych yn herio lefel eich band neu os ydych yn gwneud math arall o apêl yn erbyn taliad, mae’n rhaid i chi ddal i dalu’r bil presennol nes bo’r apêl wedi’i setlo.
Premiwm Treth y Cyngor
Codir premiwm treth y cyngor o 50% ar eiddo sydd heb ei feddiannu neu sydd wedi bod heb fawr o ddodrefn am 12 mis neu fwy a hefyd eiddo sy’n cael ei ddosbarthu fel ail gartref.
Pwrpas y premiwm hwn yw:
- Annog perchnogion i ailddefnyddio cartrefi gwag hirdymor er mwyn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy
- Cefnogi awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
Gofynnwch am fil mewn fformat arall
Mae biliau treth y cyngor ar gael mewn Braille, print bras ac ar gryno ddisg sain. Os hoffech dderbyn eich bil mewn fformat arall, ffoniwch 01824 706000.
I le mae’r arian yn mynd
Mae treth y cyngor yr ydych yn ei thalu yn cael ei chasglu i ddarparu'r gwasanaethau mwyaf lleol yn Sir Ddinbych ac yn cael ei rhannu rhwng tri awdurdod;
- 80% Cyngor Sir Ddinbych
- 17% Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
- 3% Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned
Ffeithiau a Ffigyrau
Ar gyfer 2020/21 bydd bil treth y cyngor ar gyfartaledd yn £1,728.90 (yn seiliedig ar eiddo cyffredinol Band D), o’i gymharu â £1,656.96 yn 2019/20; mae hyn yn gynnydd o 4.3%.
Cynnydd yn Nhreth y Cyngor
Awdurdod | 2019/20 | 2020/21 | Cynnydd |
Cyngor Sir Ddinbych |
£1,327.08 |
£1,384.16 |
4.30% |
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru |
£278.10 |
£290.61 |
4.50% |
Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned (Cyfartaledd) |
£51.78 |
£54.13 |
4.54% |
Cyllideb Refeniw
Ein cyllideb ar gyfer 2020/21 yw £208.302 miliwn sy’n £9.764 miliwn yn fwy na chyllideb llynedd o £198.538m.
Mae hyn yn cael ei rannu fel y ganlyn:
- Chwyddiant / Pwysau: + £11,889,000
- Grantiau bellach wedi’u cynnwys neu eu trosglwyddo allan o'r setliad: + £1,794,000
- Buddsoddi mewn blaenoriaethau: + £529,000
- Effeithlonrwydd/Arbedion: - £4,448,000
Mae’r gyllideb o £208.302 miliwn yn £2.412 miliwn uwchben yr Asesiad Gwario Safonol sef £205.89 miliwn – amcangyfrif Llywodraeth Cymru o’r hyn sydd ei angen i ddarparu ‘lefel gwasanaeth safonol’.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gadael y penderfyniad terfynol ar lefel y gwariant a threth y cyngor i gynghorau i’w galluogi i fynd i’r afael â’r broblem o ddiffyg darpariaeth gwasanaethau ac i gydnabod methiant yn null dyrannu arian y Cynulliad.
Cyllid Cyngor Sir Ddinbych
Mae cyllid Cyngor Sir Ddinbych yn dod o:
- Llywodraeth Cymru 47.58%
- Grantiau penodol 18.36%
- Treth y Cyngor 17.44%
- Incymau eraill 16.4%
- Cyllid wrth Gefn 0.22%
Balansau
Dechreuodd y Cyngor y flwyddyn gyda balansau cyffredinol o £7.135 miliwn.
Gosodwyd cyllideb 2020/21 gan ddefnyddio £0.685 miliwn o arian wrth gefn. Mae hyn yn gynaliadwy fel mesur tymor canol, ond nid yw’n ddatrysiad parhaol i ariannu’r bwlch yn y gyllideb.
Gwariant cyfalaf
Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at wariant ar asedau, megis gwelliannau i’r ffyrdd, a ddisgwylir i gael budd a fydd yn para mwy na blwyddyn.
Mae gan daliadau a wneir i sefydliadau allanol ac unigolion fuddion tymor hir tebyg, megis tal grantiau gwella cartrefi, yn cael eu trin fel gwariant cyfalaf hefyd.
Yn 2020/21, disgwylir y bydd gwariant o £37.2 miliwn. Bydd gwariant sylweddol ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Dwyrain y Rhyl ac ar ailfodelu’r gwasanaeth gwastraff. Gellir dadansoddi eitemau mawr o wariant cyfalaf disgwyliedig fel y ganlyn:
- Gwaith Adeiladu Ysgolion gan gynnwys Iechyd a Diogelwch: £3.7 miliwn
- Grantiau Gwelliannau i Dai: £1.2 miliwn
- Priffyrdd, Fflyd, Pontydd a Gwaith i Leddfu Llifogydd: £3.9 miliwn
- Cynlluniau i Amddiffyn yr Arfordir: £11.7 miliwn
- Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol a mân addasiadau: £1.8 miliwn
- Ysgolion yr 21ain Ganrif: £3 miliwn
- Y Gwasanaeth Gwastraff a Depos: £10.8 miliwn
Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2020/21
Gyllideb 2020/21
Gwasanaeth | Gwariant Gros | Incwm | Gwariant Net |
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion |
£81,706,000 |
£8,546,000 |
£73,160,000 |
Addysg a Gwasanaethau Plant |
£34,979,000 |
£17,945,000 |
£17,034,000 |
Priffyrdd, Asedau ac Amgylchedd |
£32,131,000 |
£15,209,000 |
£16,922,000 |
Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo |
£9,063,000 |
£4,466,000 |
£4,597,000 |
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd |
£16,738,000 |
£7,035,000 |
£9,703,000 |
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol |
£55,504,000 |
£17,523,000 |
£37,981,000 |
Gwasanaethau Cymorth Eraill |
£23,147,000 |
£11,072,000 |
£12,075,000 |
Corfforaethol ac Amrywiol |
£47,473,000 |
£29,223,000 |
£18,250,000 |
Codi Cyfalaf |
£13,681,000 |
£0 |
£13,681,000 |
Ardollau |
£4,899,000 |
£0 |
£4,899,000 |
Cyfanswm |
£319,321,000 |
£111,019,000 |
£208,302,000 |
Ariennir gan:
- Ariannu Llywodraeth Cymru: £151,932,000
- Talwr Treth y Cyngor: £55,685,000
- Defnydd o Gweddillion: £685,000
Cyfanswm: £208, 302, 000
Crynodeb o gyllideb Cyngor Sir Ddinbych 2019/20
Gyllideb 2019/20
Gwasanaeth | Gwariant Gros | Incwm | Gwariant Net |
Cyllid Dirprwyedig Ysgolion |
£78,393,000 |
£9,399,000 |
£68,994,000 |
Addysg a Gwasanaethau Plant |
£29,834,000 |
£13,825,000 |
£16,009,000 |
Priffyrdd, Asedau ac Amgylchedd |
£30,966,000 |
£15,199,000 |
£15,767,000 |
Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo |
£9,273,000 |
£4,446,000 |
£4,827,000 |
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd |
£16,284,000 |
£7,009,000 |
£9,275,000 |
Gwasanaethau Cymorth Cymunedol |
£53,375,000 |
£17,592,000 |
£35,783,000 |
Gwasanaethau Cymorth Eraill |
£23,554,000 |
£11,030,000 |
£12,524,000 |
Corfforaethol ac Amrywiol |
£46,124,000 |
£29,223,000 |
£16,901,000 |
Codi Cyfalaf |
£13,652,000 |
£0 |
£13,652,000 |
Ardollau |
£4,806,000 |
£0 |
£4,806,000 |
Cyfanswm |
£306,261,000 |
£107,723,000 |
£198,538,000 |
Ariennir gan:
- Ariannu Llywodraeth Cymru: £143,637,000
- Talwr Treth y Cyngor: £52,901,000
- Defnydd o Gweddillion: £2,000,000
Cyfanswm: £198,538,000
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn gosod eu helfen eu hunain o Dreth y Cyngor (a elwir yn praesept).
Ar gyfer 2020/21 maent wedi penderfynu cynyddu’r cyllid o 5.46%, sy’n arwain at gynnydd yn elfen treth y cyngor o 4.5%.
Mae’r elfen hon tu hwnt i reolaeth y cyngor Sir.
Dysgwch ragor ar wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru (gwefan allanol)
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
Mae gan gynghorau dinas, tref a chymuned awdurdod i osod eu helfennau treth y cyngor eu hunain.
Dysgwch sut i gysylltu â chyngor dinas, tref a chymuned