Strategaeth llyfrgell
2025 i 2030
Mynd yn syth i:
"Yr unig beth y mae’n rhaid i chi ei wybod yw lleoliad y llyfrgell."
― Albert Einstein
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn lleoedd dibynadwy, croesawgar a diogel. Mae ganddyn nhw ran bwysig yn y gwaith o sicrhau bod diwylliant, cyfleoedd i ddarllen, technoleg a chyfleoedd dysgu ar gael i bobl yn eu cymuned leol. Mae'n hanfodol bod ein llyfrgelloedd yn gallu addasu i newid a darparu gwasanaeth perthnasol ac ystyrlon tra eu bod nhw dan bwysau i weithredu o fewn cyllidebau sy'n tynhau’n barhaus.
Mae gan ein llyfrgelloedd enw da am weithio gyda phartneriaid i’n galluogi ni i gynnig amrywiaeth o wasanaethau a chyfleoedd yn ein hadeiladau.
Mae'r Strategaeth hon yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer y Llyfrgelloedd a'r Gwasanaeth Un Alwad yn Sir Ddinbych dros y 5 mlynedd nesaf.
Yn ôl i frig y dudalen.
Mae gofyniad statudol ar gynghorau lleol i gynnig ‘gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithlon’, fel y nodir yn Neddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 (gwefan allanol).
Libraries operate within the context of various local, regional and national policies and plans. This includes the following:
Yn ôl i frig y dudalen.
Mae 8 llyfrgell yn Sir Ddinbych, ac mae 4 llyfrgell fwy yn y Rhyl, Prestatyn, Dinbych a Rhuthun, a 4 o rai llai yng Nghorwen, Llangollen, Llanelwy a Rhuddlan. Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn danfon llyfrau i bobl na allant ymweld â llyfrgell o ganlyniad i oed neu wendid. Ar wahân i lyfrgell Rhuthun mae pob llyfrgell hefyd yn cynnig gwasanaeth Siop Un Alwad y Cyngor, sy’n helpu pobl ag ymholiadau yn ymwneud â'r Cyngor a rhoi trwyddedau parcio ac ati.
Mae llyfrgelloedd hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau digidol 24/7, gan gynnwys defnyddio eLyfrau a llyfrau llafar, papurau newydd a chylchgronau digidol yn rhad ac am ddim, a neilltuo llyfrau ar-lein. Caiff llyfrgelloedd eu rheoli o fewn Gwasanaeth Tai a Chymunedau'r Cyngor.
Yn ôl i frig y dudalen.
Benthycwyd 226,451 o eitemau ffisegol, gan gynnwys:
- 90,306 o lyfrau ffuglen i oedolion
- 34,961 o lyfrau ffeithiol
- 15,392 o lyfrau print bras
- 60,638 o lyfrau Saesneg i blant
- 14,380 o lyfrau Cymraeg i blant
- 1,167 o jig-sos
- 250,764 o ymweliadau i lyfrgelloedd
- 15,384 o ddefnyddwyr gweithredol (pobl a ddefnyddiodd eu cerdyn llyfrgell yn y flwyddyn ddiwethaf)
- 218,290 o eitemau ffisegol ar gael
- 26,778 o eLyfrau Llafar wedi’u benthyca drwy Borrowbox
- 18,161 o eLyfrau wedi’u benthyca drwy Borrowbox
- 21,765 o sesiynau ar y cyfrifiaduron sydd ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio
- Argraffwyd 81,897 o dudalennau – roedd hyn yn cynnwys 18,829 o dudalennau drwy ein gwasanaeth argraffu sydd wedi’i gysylltu â’r cwmwl
“Nid yw darllen yn bwysig oherwydd ei fod yn eich helpu chi i gael swydd. Mae’n bwysig oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i chi fodoli y tu hwnt i realiti bywyd bob dydd.
Dyma sut mae pobl yn dod ynghyd.
Dyma sut mae meddyliau’n cysylltu.
Breuddwydion. Empathi. Dealltwriaeth. Dianc. Mae darllen yn weithred o gariad."
― Matt Haig, Notes on a Nervous Planet
Yn ôl i frig y dudalen.
Mae pedwar cynnig cyffredinol sy'n sail i'n strategaeth llyfrgelloedd. Darllen; Gwybodaeth a Digidol; Iechyd a Lles; Diwylliant, Creadigrwydd a'r Gymraeg yw’r rhain.
Mae llyfrau a darllen wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae darllen yn eich helpu chi i ddianc i fyd arall neu ddysgu gwybodaeth newydd. Mae llawer o fanteision iechyd yn gysylltiedig â darllen yn rheolaidd, gan gynnwys gwell iechyd meddwl a lles ac mae’n lleihau straen. Mae hefyd yn eich helpu chi i gael noson well o gwsg. Mae darllen hefyd yn cynyddu empathi ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o deimladau pobl eraill a gwahanol brofiadau bywyd. (Sefyllfa’r Genedl o ran Arferion Darllen Oedolion 2024: Pwyslais ar Ddarllen, Iechyd a Lles, Asiantaeth Ddarllen, 2024)
Mae tystiolaeth i ddangos bod y pandemig wedi cael effaith negyddol ar sgiliau llythrennedd plant ysgol ac mae darllen mor bwysig o ran gwella cyfleoedd bywyd. Dangosodd Adroddiad BookTrust diweddar fod plant sy'n gallu darllen yn fwy tebygol o oresgyn anfantais sy’n cael ei hachosi gan anghydraddoldeb, yn fwy tebygol o fod yn iachach ac yn hapusach, yn fwy tebygol o wneud yn well yn yr ysgol a datblygu empathi a chreadigrwydd. (Manteision Darllen, BookTrust 2023)
Yn ein harolwg llyfrgell diweddar, dywedodd dros 60% o'r ymatebwyr eu bod nhw wedi dod i'r llyfrgell i fenthyca neu ddychwelyd llyfrau y diwrnod hwnnw, a chytunodd 87% fod y dewis o lyfrau yn dda neu'n dda iawn.
Ein hymrwymiad
- Rhoi dewis perthnasol a chyfredol o ddeunydd darllen ym mhob un o'n llyfrgelloedd ac yn ddigidol, mewn amrywiaeth o fformatau ac ieithoedd
- Cynnig rhaglen o weithgareddau dwyieithog i annog pobl i barhau i ddarllen. Bydd hyn yn cynnwys grwpiau darllen, hyrwyddo llyfrau, ymweliadau ag ysgolion a digwyddiadau gydag awduron
- Cynnig rhaglen o weithgareddau Dechrau Da, gan gynnwys sesiynau amser rhigwm wythnosol, i roi cyfle i bob babi fwynhau rhannu llyfrau a darllen yn gynnar, ac i ddod yn aelodau o'u llyfrgell leol.
- Cefnogi Her Ddarllen yr Haf flynyddol, gan ymgysylltu ag ysgolion lleol ac annog plant i barhau i ddarllen dros wyliau’r haf.
- Darparu Gwasanaeth Llyfrgell Cartref i sicrhau bod llyfrau ar gael i bobl nad ydyn nhw’n gallu mynd i’r llyfrgell mewn fformat sy'n addas iddyn nhw, e.e. print bras neu lyfr llafar ar CD.
Adnoddau
Mae'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn rhan o Gonsortiwm Prynu Cymru gyfan sy'n caffael contractau ar gyfer cyflenwi deunyddiau Saesneg, gan sicrhau'r gwerth gorau am arian. Mae contractau lleol ar gyfer cyflenwi print bras a llyfrau llafar yn cael eu hadnewyddu’n flynyddol i sicrhau dewis a gwerth am arian.
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Gogledd Cymru yn rhannu catalog llyfrgell a gellir neilltuo, benthyca a dychwelyd eitemau i unrhyw lyfrgell yng Nghonwy, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam, yn ogystal â Sir Ddinbych. Mae hyn cyflwyno darllenwyr i ystod ehangach o stoc ac mae neilltuo llyfrau yn rhad ac am ddim.
Mae Llyfrgelloedd Cymru yn cynnig amrywiaeth o adnoddau digidol Cymru gyfan, gan gynnwys eLyfrau a llyfrau llafar, cylchgronau a phapurau newydd digidol.
Mae staff gwybodus yn gallu cynghori darllenwyr a'u helpu nhw i ddewis llyfrau yn ogystal â chreu arddangosfeydd llyfrau mewn llyfrgelloedd i annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Mesurau
Caiff ystadegau eu monitro'n rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys nifer yr argraffiadau o lyfrau, nifer yr eLyfrau wedi’u lawrlwytho ac ati, nifer aelodau gweithredol y llyfrgell ac ymweliadau â’r llyfrgelloedd.
Caiff arolygon defnyddwyr eu cynnal bob 3 blynedd yn rhan o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.
Canlyniad
Bydd darllen er mwyn pleser yn cyfoethogi bywydau pobl a bydd teuluoedd yn mwynhau darllen llyfrau gyda'i gilydd o oed ifanc.
Dyfyniadau o Arolwg Defnyddwyr Llyfrgell 2024:
‘Mae wedi rhoi’r cyfle i mi ddarllen cannoedd o lyfrau yn ystod fy mywyd yn rhad ac am ddim, na fyddwn i wedi gallu eu darllen fel arall. Yn bendant gwnaeth hyn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau darllen yn gyflymach pan oeddwn i’n iau. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i mi archwilio bydoedd newydd trwy lyfrau o ganlyniad i hyn’.
‘AMHRISIADWY! Rydw i wedi archwilio gwahanol fathau o lenyddiaeth. Mae gan y llyfrgell ddewis mawr o lawer o wahanol fathau o lyfrau ac mae gallu archebu llyfrau yn y catalog ar-lein yn wych.’
Yn ôl i frig y dudalen.
Mae gan lyfrgelloedd ran bwysig yn y gwaith o sicrhau bod ein cymunedau lleol yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau digidol o safon, dysgu sgiliau digidol newydd a theimlo'n ddiogel ar-lein.
Ein hymrwymiad
- Gall unigolion ddefnyddio cyfrifiaduron, y rhyngrwyd a’r Wi-Fi am ddim ym mhob llyfrgell
- Amrywiaeth o wasanaethau llyfrgelloedd digidol ar gael 24/7, gan gynnwys eLyfrau, llyfrau llafar, cylchgronau a phapurau newydd digidol.
- Lleoliadau i bartneriaid allu cynnig sesiynau dysgu a gwybodaeth.
- Mae 7 allan o 8 o'n llyfrgelloedd ni hefyd yn Siopau Un Alwad ac yn cynnig gwasanaethau'r Cyngor yn lleol.
- Cymorth i gwsmeriaid y mae angen cymorth arnyn nhw i ddefnyddio gwasanaethau digidol, er enghraifft, ceisiadau am Fathodyn Glas a cherdyn bws.
- Gweithio gyda'r Good Things Foundation i ddosbarthu cardiau SIM a data symudol am ddim i bobl leol sy'n byw mewn tlodi data, drwy'r cynllun Banc Data Cenedlaethol.
Adnoddau
Y dechnoleg ddiweddaraf a staff gwybodus sydd wedi’u hyfforddi.
Mae Pwyntiau Siarad ar waith ym mhob un o'n 8 llyfrgell, sy’n rhoi cyfle i drigolion siarad â Llywiwr Cymunedol a chael cymorth a chefnogaeth yn eu hardal leol.
Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid, fel Coleg Llandrillo a Hyder Digidol Cymru i sicrhau bod amrywiaeth o gyfleoedd dysgu digidol ar gael yn ein llyfrgelloedd.
Mesurau
Ystadegau ar nifer y sesiynau TG mewn llyfrgelloedd, nifer y defnyddwyr unigol a nifer y tudalennau a argraffwyd trwy ein Gwasanaeth Argraffu Cwmwl.
Cofnodi nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau digidol fel Ancestry.com a Find My Past.
Canlyniad
Mae cymunedau’n cael eu cefnogi i wella eu sgiliau digidol a mynd at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw ar-lein.
Dyfyniadau o Arolwg Defnyddwyr Llyfrgell 2024:
‘Dechreuais ddefnyddio Ancestry, ac arweiniodd hyn at ddatgelu llawer o bethau am fy nheulu/cyndeidiau.’
‘Fel arall, nid oeddwn i’n gallu argraffu na chopïo dogfennau pwysig‘.
‘Mae’r llyfrgell wedi bod yno i mi a fy mhlant pan nad oeddem ni’n gallu fforddio talu am y rhyngrwyd na phrynu cyfrifiadur.’
Yn ôl i frig y dudalen.
Cefnogi iechyd a lles cymunedau drwy wasanaethau sy'n hysbysu, yn ymgysylltu ac yn cysylltu.
Ein hymrwymiad
- Mae ein llyfrgelloedd yn cymryd rhan yn y cynllun Darllen yn Well, gan gynnig casgliadau o lyfrau sy'n helpu pobl i gefnogi eu lles eu hunain trwy ddarllen llyfrau a argymhellir. Ceir pedwar casgliad - Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl, Darllen yn Well ar gyfer Dementia, Darllen yn Well ar gyfer Plant a Darllen yn Well ar gyfer Pobl Ifanc.
- Yn ogystal â chynnig diodydd poeth am ddim yn ystod y gaeaf, mae llyfrgelloedd hefyd yn cynnig boreau cymdeithasol yn rheolaidd a chyfleoedd i bobl sgwrsio â’i gilydd.
- Mae llyfrgelloedd hefyd yn cynnal sefydliadau partner sy'n cefnogi iechyd a lles trigolion, gan gynnwys Pwyntiau Siarad, Help me Quit, Adferiad, Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a gwirfoddolwyr Awdioleg sy'n rhoi cefnogaeth â chymhorthion clyw'r GIG.
- Tynnir sylw at stoc berthnasol drwy arddangosfeydd a negeseuon hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn, er enghraifft, Wythnos Iechyd Meddwl Plant ym mis Chwefror, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac Wythnos Gweithredu Dros Ddementia ym mis Mai.
- Caiff cartrefi gofal a phobl sydd â dementia eu cefnogi â gweithgareddau fel sesiynau hel atgofion a chaiff Blychau Atgofion a Bagiau Atgofion eu darparu i’w benthyg.
Adnoddau
Mae gan bob un o'n llyfrgelloedd ni staff empathig sy’n meddu ar sgiliau ac sydd wedi cael hyfforddiant deall awtistiaeth a dementia.
Mae ein Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn danfon llyfrau a llyfrau llafar i bobl nad ydyn nhw’n gallu cyrraedd y llyfrgell o ganlyniad i afiechyd neu gyfrifoldebau gofalu.
Mae taflenni sy'n hyrwyddo casgliadau Darllen yn Well yn cael eu hanfon i sefydliadau perthnasol.
Mesurau
Cynnydd yn nifer y teitlau Darllen yn Well y cafodd eu benthyca o lyfrgelloedd, a chynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd i weithgareddau lles.
Canlyniad
Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar, a phobl o bob oed yn cael eu cefnogi i fyw'n dda.
Dyfyniadau o Arolwg Defnyddwyr Llyfrgell 2024:
‘Mae staff yn gyfeillgar ac yn groesawgar iawn ond hefyd yn barod iawn i helpu i ddod o hyd i lyfrau neu wybodaeth briodol. Mae’n lle diogel a chynnes hefyd yn enwedig i bobl hŷn unig. Rwyf bob amser yn gweld pobl hŷn yn eistedd yn y cyntedd yn darllen y papur newydd ac yn sgwrsio ag eraill neu'r llyfrgellwyr sy'n gwneud pwynt o'u croesawu nhw. Mae’n wasanaeth hanfodol ar gyfer lles.’
‘Rwy’n dod â phobl sydd â dementia i lawr i lyfrgell Llanelwy. Mae’r menywod sy'n gweithio yno mor garedig a chyfeillgar, maen nhw'n rhoi croeso cynnes i ni ac yn gwneud yr ymweliad yn un hynod o bleserus.’
Yn ôl i frig y dudalen.
Galluogi cymunedau lleol i fwynhau profiadau celfyddydol a diwylliannol o ansawdd uchel drwy lyfrgelloedd. Mae casgliadau hanes lleol yn nifer o’n llyfrgelloedd, sy'n caniatáu i bobl ddysgu am hanes eu hardal leol.
Ein hymrwymiad
- Darparu cyfoeth o lyfrau ac adnoddau Cymraeg.
- Cynnal rhaglen o weithgareddau yn Gymraeg, gan gynnwys Paned a Sgwrs, Grwpiau Darllen Cymraeg, Amser Rhigwm Dechrau Da dwyieithog a digwyddiadau gydag awduron.
- Gweithio gyda phartneriaid fel Hamdden Sir Ddinbych i ddarparu gweithgareddau celf o ansawdd uchel i blant yn ystod gwyliau'r ysgol.
- Cynnal grwpiau cymdeithasol yn rheolaidd, fel Crefft a Chlonc, Gwau a Sgwrsio.
- Bydd y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cefnogi Strategaeth y Gymraeg 2023-28 yn Sir Ddinbych drwy sicrhau y gall pawb ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell a Siop Un Alwad y Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg yn naturiol, ac yn ystod pob cam o'u bywydau.
- Cefnogi plant a theuluoedd yn ystod eu blynyddoedd cynnar i ddatblygu hyder o ran defnyddio’r Gymraeg.
- Bydd cyfle i drigolion lleol gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a mwynhau profiadau diwylliannol.
Adnoddau
Staff dwyieithog ym mhob man gwasanaeth.
Gweithio gyda phartneriaid, fel Menter Iaith a Chymraeg i Blant, i gefnogi cynnal rhagor o ddigwyddiadau yn y Gymraeg.
Nodi ffynonellau cyllid i’n galluogi ni i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau gydag awduron a gweithgareddau crefft am ddim.
Mesurau
Nifer y bobl sy'n mynd i ddigwyddiadau a nifer y teitlau Cymraeg sy'n cael eu benthyca o'r llyfrgelloedd.
Canlyniad
Gall pawb fynd at wasanaethau a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg yn naturiol, ac yn ystod pob cam o’u bywydau.
Dyfyniadau o Arolwg Defnyddwyr Llyfrgell 2024:
‘Ymdeimlad o berthyn a chymuned, profiadau na fyddwn i wedi’u cael fel arall e.e. ymweliadau gan awduron, digwyddiadau yn y Gymraeg a darganfod llyfrau sydd wedi gwella fy mywyd’.
‘Rydyn ni’n dod i’r dosbarthiadau Dechrau Da sydd wedi fy helpu i ddatblygu ychydig o Gymraeg drwy’r hwiangerddi ac mae fy merch yn mwynhau’r sesiynau’n fawr ac yn edrych ymlaen atynt’.
Yn ôl i frig y dudalen.
Byddwn ni’n cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn yn unol â Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Mae'r Fframwaith hwn yn nodi set o hawliau craidd a dangosyddion ansawdd ar gyfer dinasyddion Cymru. Caiff yr adroddiad hwn wedyn ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu’r Cyngor.
Byddwn ni hefyd yn cynnal Arolygon Defnyddwyr bob 3 blynedd ac yn casglu adborth yn dilyn digwyddiadau a gweithgareddau.
Yn ôl i frig y dudalen.
Er mwyn sicrhau y gall y gwasanaeth llyfrgelloedd barhau i ddatblygu a chynnig amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau wrth wynebu cyfyngiadau ar y gyllideb, byddwn ni’n ceisio dod o hyd i ffynonellau cyllid eraill.
Byddwn ni’n gweithio i ddatblygu grwpiau ‘Cyfeillion y Llyfrgell’ a fydd yn cefnogi gweithgareddau’r llyfrgell ac yn helpu i godi arian.
Rydym ni’n gobeithio cynyddu incwm drwy logi cyfleusterau’r llyfrgell, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynhyrchu mwy o incwm drwy logi ystafelloedd masnachol.
Byddwn ni’n parhau i ddatblygu cydberthnasau â phartneriaid presennol a cheisio meithrin cydberthnasau newydd â sefydliadau sy'n ategu ein gwasanaethau ni ac a all elwa o'n safle ni fel mannau diogel y gellir ymddiried ynddynt yn y gymuned.
Byddwn ni’n cefnogi Strategaeth Hinsawdd a Natur y Cyngor drwy gymryd camau cadarnhaol pan fo’n briodol, er enghraifft yr ydym ni eisoes wedi newid i gardiau llyfrgell bioddiraddadwy ac yn defnyddio fan drydan ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell Cartref. Rydym ni hefyd yn gobeithio datblygu gerddi bywyd gwyllt y tu allan i adeiladau llyfrgell priodol.
Byddwn ni’n adolygu stoc ein llyfrgell i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol, ac yn ei archwilio i sicrhau ei fod yn amrywiol ac yn adlewyrchu ein cymunedau lleol, gan gefnogi'r symudiad tuag at arferion gwrth-hiliol yng Nghymru.
Byddwn ni’n cynnal a chadw adeiladau ein llyfrgelloedd ac yn gwneud cais am gyllid i uwchraddio adeiladau pan fo’n briodol, gan ymchwilio hefyd i dechnoleg newydd i wella mynediad.
Yn ôl i frig y dudalen.