Cofrestru genedigaeth

Mae’n rhaid cofrestru genedigaeth eich plentyn yn y dosbarth lle cafodd ei eni o fewn 42 o ddyddiau i’r enedigaeth. 

Sut mae cofrestru genedigaeth?

Mae angen i chi wneud apwyntiad yn y swyddfa gofrestru i hysbysu’r cofrestrydd o ddyddiad a man geni eich babi (ac amser yr enedigaeth os cawsoch chi efeilliaid neu dripledi), ei ryw a’i enw llawn yn ogystal â’ch manylion eich hun.

Os na allwch fynd i’r swyddfa yn yr ardal lle ganwyd eich plentyn, gallwch fynd i Swyddfa Gofrestru arall ac fe anfonan nhw eich datganiad i’r lle priodol. Bydd yn rhaid i chi dalu am y dystysgrif (os yn gymwys) â archeb bost neu gerdyn debyd/credyd i’r Swyddfa Gofrestru lle cedwir manylion yr enedigaeth.

Gallwch ddod o hyd i’ch swyddfa gofrestru agosaf, neu unrhyw swyddfa gorestru, drwy chwilio’r GOV.UK (gwefan allanol)

Gwneud apwyntiad

Gallwch wneud apwyntiad drwy gysylltu â swyddfa gofrestru.

Sut i gysylltu â swyddfa gofrestru 

Cost tystysgrif Geni

Mae tystysgrifau geni yn costio £11.

Pwy all gofrestru genedigaeth?

Gall un rhiant neu’r ddau gofrestru genedigaeth. Os bydd y rhieni wedi priodi ar adeg beichiogiad, gall un ai’r fam neu’r tad gofrestru manylion y ddau ohonyn nhw ar eu pen eu hun.

Os na fydd y rhieni’n briod, gellir cynnwys y ddau set o fanylion os byddan nhw’n arwyddo’r gofrestr efo’i gilydd, un person yn darparu ffurflen datganiad o rieni wedi ei harwyddo gan y llall neu mae’r rhiant â gorchymyn llys yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i’r tad.

Os na fydd y fam wedi priodi â’r tad, gall gofrestru’r enedigaeth ar ei phen ei hun ac ni chynhwysir manylion y tad ar y dystysgrif. Mae’n bosib ychwanegu manylion y tad yn ddiweddarach drwy gwblhau ffurflen ailgofrestru, a dod i’r Swyddfa Gofrestru i ailgofrestru’r enedigaeth.

Gwybodaeth am dderbyn copi o dystysgrif.