Cofrestru marwolaeth

Fel rheol, dylid cofrestru marwolaeth o fewn 5 diwrnod, oni bai bod Crwner yn ymchwilio i’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’r farwolaeth. Dylid cofrestru’r farwolaeth yn Swyddfa Gofrestru'r ardal lle bu i’r unigolyn farw.

Serch hynny, mae’n bosib i chi fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru a Lloegr i roi manylion y farwolaeth. Byddan nhw wedyn yn anfon yr wybodaeth ymlaen at y swyddfa gofrestru lle bydd y farwolaeth yn cael ei chofrestru. Yn anffodus, gall hyn oedi’r angladd, oherwydd caiff y dogfennau angenrheidiol eu hanfon drwy’r post yn hytrach na’u rhoi i’r unigolyn sy’n cofrestru’r farwolaeth.

Pwy sy’n gallu cofrestru marwolaeth?

Gall y canlynol gofrestru marwolaeth; 

  • Perthynas yr unigolyn a fu farw 
  • Rhywun a oedd yn bresennol pan ddigwyddodd y farwolaeth 
  • Perchennog yr eiddo lle digwyddodd y farwolaeth (os oedd yn gwybod am y farwolaeth) 
  • Person sy’n trefnu’r angladd

Sut ydw i'n cofrestru marwolaeth?

Bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad yn y Swyddfa Gofrestru a dod â thystysgrif marwolaeth feddygol (gan ddoctor a oedd yn trin yr unigolyn a fu farw) efo chi os ydych chi wedi derbyn un. Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu’r wybodaeth ganlynol am yr unigolyn a fu farw: 

  • Enw llawn a chyfenw cyn priodi (os yn berthnasol)
  • Dyddiad a lle bu'r unigolyn farw
  • Dyddiad a lle ganed yr unigolyn
  • Statws priodasol
  • Cyfeiriad arferol
  • Galwedigaeth
  • Os oedd yr unigolyn yn wraig briod neu weddw - enw llawn, dyddiad geni a galwedigaeth ei gŵr
  • Os ar gael - Cerdyn Meddygol y GIG neu rif GIG
  • P'un ai oedd yr unigolyn a fu farw yn derbyn pensiwn neu fudd-dal o arian cyhoeddus (e.e. Pensiwn o'r Gwasanaeth Sifil neu Bensiwn y Lluoedd Arfog).

Dywedwch Wrthym Unwaith

Pan rydych chi’n cofrestru marwolaeth yn un o’n Swyddfeydd Cofrestru gallwn ddarparu gwasanaeth o’r enw ‘dywedwch wrthym unwaith’ i roi gwybod i adrannau eraill y cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM a’r DVLA ynglŷn â’r farwolaeth ar eich rhan. 

Bydd arnoch chi angen y dogfennau / yr wybodaeth ganlynol ynglŷn â’r ymadawedig:

  • Eu rhif yswiriant gwladol a’u dyddiad geni
  • Manylion unrhyw fudd-dal neu wasanaeth yr oedd yr ymadawedig yn ei dderbyn
  • Tystysgrif marwolaeth
  • Eu trwydded yrru neu rif eu trwydded yrru
  • Eu pasport neu rif eu pasport a’u tref/gwlad enedigol
  • Eu bathodyn parcio glas
  • Eu pas bws

Efallai y bydd arnom ni hefyd angen y manylion canlynol:

  • Manylion eu perthynas agosaf
  • Manylion gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • Manylion y person sy’n delio gyda’u stad

Mwy o wybodaeth am ein gwasanaeth ‘dywedwch wrthym unwaith’ (gwefan allanol)

Ffioedd a thystysgrifau

Bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad yn y Swyddfa Gofrestru a dod â thystysgrif marwolaeth feddygol (gan ddoctor a oedd yn trin yr unigolyn a fu farw) efo chi os ydych chi wedi derbyn un. Bydd gofyn i chi hefyd ddarparu’r wybodaeth ganlynol am yr unigolyn a fu farw. Cost Tystysgrif Marwolaeth yw £11.

Gwybodaeth am dderbyn copi o dystysgrif.