Priodasau a Phartneriaethau Sifil: Bwcio a ffioedd

Bydd angen i chi drefnu gyda’r staff cofrestru cyn ymrwymo i ddyddiad ac amser priodas neu bartneriaeth sifil. 

Sut i drefnu cael cofrestrydd

I archebu cofrestrydd ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil, bydd yn rhaid i chi gysylltu â Swyddfa Gofrestru y Rhyl

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi archebu dros dro nad yw’n ad-daladwy ac na ellir ei drosglwyddo os ydych chi’n canslo neu’n newid y trefniadau. Mae’r ffi archebu dros dro yn £30 ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil mewn swyddfa gofrestru neu adeilad crefyddol, ac yn £130 ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil mewn Eiddo Cymeradwy. Bydd y swm hwn yn cael ei dynnu o’r ffi lawn os nad oes newid i’r trefniadau. 

Gwasanaeth Blaenoriaeth

Os hoffech archebu ein staff cofrestru mwy na 12 mis cyn eich priodas neu bartneriaeth sifil, yna gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth blaenoriaeth.

Faint yw cost y gwasanaeth blaenoriaeth?

Mae costau gwasanaeth blaenoriaethol yw £80.

Ni chaiff y taliad dewisol hwn am y gwasanaeth blaenoriaeth ei ad-dalu ac ni fydd yn cael ei dynnu o'r ffi derfynol ddyledus.

Sut i archebu’r gwasanaeth blaenoriaeth

Gallwch archebu’r gwasanaeth blaenoriaeth drwy gysylltu Swyddfeydd Cofrestru y Rhyl.

Ffioedd

Ffioedd archebu dros dro seremoni

  • Mewn eiddo cymeradwy: £130
  • Ystafelloedd seremoni Cyngor Sir Ddinbych - Ystafell Glan Y Mor, y Rhyl neu Ystafell Menlli, Neuadd y Sir, Rhuthun: £65
  • Swyddfa gofrestru'r Rhyl: £30
  • Adeilad crefyddol: £30

Ffioedd ar gyfer ffurfiant a seremoni Partneriaeth Sifil mewn Eiddo Cymeradwy

  • Dydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gŵyl y Banc): £470
  • Dydd Sul a Gŵyl y Banc: £550

Ffioedd ar gyfer ffurfiant a seremoni Partneriaeth Sifil mewn Ystafell Glan y Môr, Neuadd y Dref y Rhyl

  • Dydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gŵyl y Banc): £295
  • Dydd Sul a Gŵyl y Banc: £330

Ffioedd ar gyfer ffurfiant a seremoni Partneriaeth Sifil mewn Ystafell Menlli, Neuadd y Sir, Rhuthun

  • Dydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio Gŵyl y Banc): £295
  • Dydd Sul a Gŵyl y Banc: £330

Ffioedd ar gyfer ffurfiant a seremoni Partneriaeth Sifil mewn Neuadd y Dref Rhuthun

Dydd Llun i Dydd Gwener yn unig (oriau swyddfa yn unig ac eithrio gwyliau banc): £46

Ffioedd eraill Priodas

  • Rhoi rhybudd: £35 yr un
  • Presenoldeb cofrestrydd mewn priodas mewn adeilad crefyddol: £86
  • Tystysgrif Priodas neu Partneriaeth Sifil : £11 yr un