Hyfforddiant GGD: Amddiffyn Plant (cwrs ar-lein)

Mae’r cwrs Amddiffyn Plant yn ymdrin â hanfodion diogelu ac amddiffyn plant i unrhyw un sydd mewn cyswllt â phlant, pobl ifanc a’u rhieni mewn lleoliad gofal plant.

Mae’n rhoi cyflwyniad ar gam-drin plant, yn archwilio arwyddion corfforol ac ymddygiad o gamarfer a sut i adrodd yn effeithiol am achosion o gamdriniaeth a amheuir. Mae hefyd yn amlinellu’r fframwaith cyfreithiol a pha mor bwysig yw sicrhau bod pobl a sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth.

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal ar-lein a dylid ei gwblhau o fewn 30 diwrnod o gofrestru'r cod y byddwch yn ei dderbyn ar ôl cofrestru ar gyfer y cwrs.

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).

Mae’n rhaid i’r lleoliad hefyd fod wedi’i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £15 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs. 

Ffurflen archebu am gwrs ar-lein amddiffyn plant

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan EduCare part of tes (gwefan allanol).

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru