Hyfforddiant GGD: Gweithdy Rheoli Iechyd a Diogelwch mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar

Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer perchnogion, rheolwyr, goruchwylwyr ac aelodau pwyllgor.

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn sy’n para 3 awr yn helpu dysgwyr i ddod i ddeall cyfrifoldebau a gofynion deddfwriaethol rheoli Iechyd a Diogelwch.

Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y dysgwyr yn:

  • ymwybodol o’u cyfrifoldeb cyffredinol
  • gallu darparu cyflwyniad a hyfforddiant parhaus i aelodau staff
  • deall beth sy’n torri rheolau iechyd a diogelwch a chanlyniadau a chosbau posibl gwneud hynny
  • ymwybodol o ddiogelwch tân
  • ymwybodol o godi a symud yn gorfforol
  • ymwybodol o sut i atal a rheoli heintiau
  • gwybod sut i gynnal iechyd a diogelwch da
  • gallu cadw cofnodion
  • gallu cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch mewnol 

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n cael eu cynnal?

Cynhelir y Gweithdy Rheoli Iechyd a Diogelwch mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar:

  • Ddydd Mawrth 18 Mehefin 2024, rhwng 5:30pm ac 8:30pm yng Nghanolfan y Dderwen (Y Rhyl)
  • Ddydd Mawrth 2 Gorffennaf 2024, rhwng 5:30pm ac 8:30pm yng Nghlwb Rygbi Rhuthun 

Gwybodaeth am y lleoliad

Canolfan y Dderwen, y Rhyl

Gwybodaeth am y Lleoliad am Nghanolfan y Dderwen

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Clwb Rygbi Rhuthun

Gwybodaeth am lleoliad Clwb Rygbi Rhuthun

Cyfeiriad Clwb Rygbi Rhuthun yw

Pavilion Cae Ddol
Rhuthun
LL15 2AA

Parcio

Mae maes parcio yn Clwb Rygbi Rhuthun.

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).

Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £40 y pen i fynychu’r gweithdy hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs. 

Ffurflen gais ar-lein i gadw lle ar gyfer y Gweithdy Rheoli Iechyd a Diogelwch mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).

Canslo Archeb

Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Codir tâl arnoch chi, neu'ch lleoliad gofal plant, os nad ydych yn canslo ar amser

Canslo archeb ar-lein

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru