Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg Sir Ddinbych yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant hyd at eu pen-blwydd yn 4 oed a'u rhieni/gofalwyr, sy'n byw mewn ardaloedd cod post penodol yn Sir Ddinbych. Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl yn eu bywyd o ran eu twf a’u datblygiad.

Ehangu gwasanaethau Dechrau'n Deg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein cynlluniau i ehangu ein Gwasanaethau Dechrau'n Deg i fwy o ardaloedd yn Sir Ddinbych. Mae'r ardaloedd newydd yn cynnwys codau post yn Henllan, Dinbych, y Rhyl a Phrestatyn.

Sut i wirio a ydych yn gymwys am y rhaglen Dechrau'n Deg

Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg ar gael i drigolion sy’n byw mewn ardaloedd cod post penodol.

Gwiriwch os yw eich côdpost yn y rhaglen Dechrau’n Deg

Gwasanaethau Dechrau'n Deg

Mae’r gwasanaethau isod ar gael am ddim i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg.

Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i ddarparu hyd at 12 awr a hanner o ofal plant am ddim bob wythnos yn ystod tymor yr ysgol i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg.

Mwy o wybodaeth am Ofal Plant Dechrau’n Deg

Dewiswch wasanaeth i wybod mwy.

Sut i drefnu gwasanaeth Dechrau'n Deg

Os ydych mewn ardal gymwys ac eisiau cymryd rhan yn unrhyw un o’r gwasanaethau hyn, gallwch gysylltu â ni i drefnu neu drafod gwasanaeth Dechrau’n Deg.

Cysylltwch â ni i drefnu neu drafod gwasanaeth Dechrau’n Deg

Fel arall, gallwch chi siarad ag unrhyw un o’r canlynol i gael rhagor o wybodaeth am ddechrau’n deg.

  • Y Fydwraig
  • Ymwelydd Iechyd
  • Nyrs Feithrin Gymunedol
  • Gweithiwr Cefnogaeth Gymunedol
  • Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd 

Cofrestrwch eich diddordeb i ddarparu Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim

Os ydych yn ddarparwr gofal plant ac wedi’ch cofrestru gydag Estyn a/neu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gallwch gofrestru eich diddordeb mewn darparu Dechrau’n Deg a/neu Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim.

Rhaid i ddarparwyr gofal plant fod wedi cofrestru gyda Gofal Arolygiaeth Cymru i ddarparu menter Dechrau’n Deg.

Rhaid i ddarparwyr gofal plant fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn i ddarparu Addysg Gynnar – 10 awr o addysg am ddim. Os ydi darparwr gofal plant wedi cofrestru gyda’r Arolygiaeth ond ddim gydag Estyn, bydd disgwyl i’r darparwr gofrestru gydag Estyn yn dilyn cais llwyddiannus.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn darparu gwasanaethau Addysg Gynnar neu Dechrau'n Deg

Tudalen Facebook Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg

Gallwch gael diweddariadau a chael mwy o wybodaeth ar ein tudalen Facebook Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg

Edrych ar ein tudalen Facebook Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg (gwefan allanol)