Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael yn un o’n grwpiau chwarae partner, ein Cylchoedd Mudiad Meithrin neu Feithrinfeydd Dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol. 

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i deuluoedd sy'n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg yn:

  • Corwen
  • Dinbych
  • Dyserth
  • Gallt Melyd
  • Henllan
  • Llangollen
  • Prestatyn
  • Rhuddlan
  • y Rhyl

Gwiriwch os yw eich côdpost yn y rhaglen Dechrau’n Deg

Ehangu gwasanaethau Dechrau'n Deg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein cynlluniau i ehangu ein Gwasanaethau Dechrau'n Deg i fwy o ardaloedd yn Sir Ddinbych. Mae'r ardaloedd newydd yn cynnwys codau post yn Henllan, Dinbych, y Rhyl a Phrestatyn.

Sut i wneud cais am Ofal Plant Dechrau'n Deg

Gall rhieni a gofrestrwyr sydd â phlant a anwyd rhwng 1 Medi 2022 a 31 Rhagfyr 2023 wneud cais nawr am ofal Plant Dechrau'n Deg.

Y dyddiad cau i wneud cais yw 30 Tachwedd 2025.

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais am Ofal Plant Dechrau'n Deg ar-lein

Os ydych wedi colli’r dyddiad i wneud cais ar gyfer Gofal Plant Dechrau’n Deg, gallwch anfon e-bost atom ni i ddarganfod os yw Gofal Plant Dechrau’n Deg yn dal i fod ar gael.


Ar ôl cyflwyno cais

Os ydych wedi cyflwyno cais, byddwch yn cael galwad ffôn gan aelod o’r tîm Gofal Plant Dechrau'n Deg, pan fyddwn yn gwirio’r manylion a roddwyd gennych a thrafod unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Ceisiadau llwyddiannus

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd y Tîm Dechrau'n Deg yn anfon e-bost atoch yn cadarnhau bod eich plentyn wedi cael darpariaeth gofal plant.

Os ydych chi wedi cyflwyno cais ar gyfer mwy nag un plentyn, byddwch yn cael e-bost ar wahân ar gyfer pob cais.

Dim ond Swyddog Gweinyddol a’r Arweinydd Tîm Gofal Plant Dechrau'n Deg sy’n gyfrifol am ddyrannu lleoedd gofal plant a rhoi gwybod i’r lleoliadau gofal plant a’r rhieni/gofalwyr am y lleoliadau.

Gormod o Geisiadau

Os ydym yn cael mwy o geisiadau am leoedd na sydd gan leoliad gofal plant, yna dilynir ein meini prawf gormod o geisiadau, ble byddwn yn ystyried:

  • oed y plentyn
  • unrhyw frodyr a chwiorydd sy’n mynd i’r lleoliad/ysgol
  • unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 

Os yw hyn yn digwydd efallai y byddwch yn cael cynnig lle gyda’ch ail ddewis. Os nad yw’ch plentyn yn cael lle yn unrhyw un o’r lleoliadau Dechrau'n Deg a nodwyd gennych, nid oes hawl ffurfiol i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Os ydych yn gwrthod cynnig o ddarpariaeth gofal plant arall, rhoddir eich plentyn ar restr aros a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd lle ar gael gan eich darparwr Dechrau'n Deg a ffefrir.

Beth sydd ar gael?

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i ddarparu hyd at 12 awr a hanner o ofal plant wedi ei ariannu (fel arfer pum sesiwn yr wythnos) yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad a gofrestrwyd i gyflwyno’r rhaglen Dechrau'n Deg.

Gellir defnyddio’r gofal plant o’r tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn dair.

Rydym yn monitro presenoldeb plant Dechrau'n Deg yn eu lleoliad o’u dewis. Gall eich cyllid gofal plant fod mewn perygl os yw presenoldeb eich plentyn yn gostwng yn is na 50% ar draws tymor.  Cyfrifoldeb y rhieni/gofalwyr yw hysbysu’r lleoliad gofal plant ynglŷn ag unrhyw absenoldebau a’r rhesymau dros y rhain.

Bydd amseroedd y sesiynau yn dibynnu ar bob sesiwn, ond fel arfer byddant yn:

  • 9am tan 11:30am
  • 1pm tan 3:30pm

Mae pob cais yn amodol ar y lleoedd sydd ar gael.

Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg

Dewiswch dref i weld y lleoliadau gofal plant ble mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael:

Corwen

Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yng Nghorwen yw:

  • Meithrinfa Ddydd Corwen
  • Cylch Meithrin Bro Dyfrdwy (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Cylch Ti a FI Gwyddelwern (lleoliad iaith Gymraeg)
Dinbych

Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Ninbych yw:

  • Auntie Ali’s Childminding
  • Bumble Bees
  • Cylch Capel Seion (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Cylch Llanrhaeadr (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Cylch Meithrin Hadau'r Nant (cyn hynny'n cael ei adnabod fel Cylch Meithrin Bodawen) (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Cylch Meithrin Henllan (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Faye Salisbury
  • Ffrindiau Bach CIC
  • Kids Planet Meithrinfa Dyddiol Dinbych
  • Little Acorns yn Ysgol Bryn Clwyd
Dyserth

Y Lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Dyserth yw Hiraddug Childcare.

Gallt Melyd

Y lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Gallt Melyd yw Miri Melyd.

Llangollen

Y lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Llangollen yw Cylch Meithrin Llangollen (lleoliad iaith Gymraeg).

Prestatyn

Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg ym Mhrestatyn yw:

  • Bodnant Bach
  • Clawdd Offa Bach
  • Clwb Penmorfa
  • Cylch Y Llys (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Daisy Chains
  • Little Rascals
  • Tiny Tots
Rhuddlan

Y Lleoliad gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Rhuddlan yw Castle Day Nursery.

Rhuthun

Y Lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Dyserth a Rhuddlan yw:

  • Cylch Meithrin Clocaenog (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Cylch Meithrin Y Graig (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Little Acorns yn Ysgol Stryd Rhos
  • The Mill Childcare Centre Ltd
Y Rhyl

Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn y Rhyl yw:

  • Beach House Day Nursery
  • Cool Cats
  • Cylch Dewi Sant (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Cylch Y Dderwen (lleoliad iaith Gymraeg)
  • Fun Days nursery
  • Happy Days
  • Lala's House
  • Little Achievers Childminding
  • Little Acorns at Christ the Word
  • Little Acorns at the Oaktree
  • Little Explorers Pre-school
  • Little Lambs at Emmanuel
  • Cyn-ysgol Little Lambs
  • Summer House

Ceisiadau hwyr

Os ydych wedi colli’r dyddiad i wneud cais ar gyfer Gofal Plant Dechrau’n Deg, gallwch anfon e-bost atom ni i ddarganfod os yw Gofal Plant Dechrau’n Deg yn dal i fod ar gael.

Gellir dyrannu lle os oes lleoedd ar gael yn y lleoliad a wnaed cais amdano. Os nad oes lleoedd ar gael, rhoddir eich plentyn ar restr aros a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd lle ar gael. 

Nod Gofal Plant Dechrau'n Deg

Nod Gofal Plant Dechrau'n Deg yw datblygu a chefnogi’r holl bethau rydych eisoes wedi ei ddysgu i’ch plentyn. Mae’n gyfle i’ch plentyn ddod i arfer gyda chwarae mewn grŵp mwy, cymryd tro, gwneud ffrindiau a datblygu eu sgiliau sylw, meddwl a gwrando wrth archwilio a chael hwyl. Byddant yn dysgu caneuon newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.