Dechrau’n Deg: Academi Nofio

Mae Academi Nofio Dechrau’n Deg er mwyn i chi a’ch plentyn fwynhau gweithgareddau hwyliog a magu hyder yn y dŵr.

Rhieni a gofalwyr mewn pwll nofio gyda'u plant

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?

Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr sydd yn gymwys am raglen Dechrau’n Deg sydd â phlant hyd at 4 mlwydd oed y mae Academi Nofio Dechrau’n Deg ar gael.

Gwiriwch a ydych yn gymwys am y rhaglen Dechrau'n Deg.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Mae Academi Nofio: Dechrau’n Deg yn cynnwys:

  • Un cwrs diogelwch nofio (bydd yr amser a’r dyddiad yn cael ei gadarnhau pan fydd y cwrs yn llawn)
  • Pum gwers nofio 30 munud o hyd

Dewiswch grwp i ddarganfod pryd fydd y sesiynau nofio’n cael eu cynnal. 

Gwybodaeth am leoliad

Dewiswch un o’r canlynol i ddysgu mwy am leoliad: 

Sut i gymryd rhan

Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau’n Deg ac archebu lle i fynychu Academi Nofio Dechrau’n Deg.

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

I gadw lle

Mae’r Academi Nofio’n llawn ar hyn o bryd, ond os hoffech i ni eich ychwanegu at ein rhestr aros, ffoniwch ni 03000 856 594:

  • Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm