Teuluoedd yn Gyntaf: Cymorthfeydd Thema

Mae Cymorthfeydd Thema yn rhoi cyfle i chi siarad bob wythnos gyda gweithiwr proffesiynol sydd yn arbenigo mewn maes arbennig.  Bob pedair wythnos, mae yna sesiwn hunan-ofal i dynnu sylw at bwysigrwydd bod rhieni a gofalwyr yn edrych ar ôl eu lles eu hunain.

Oedolyn sy'n dal llaw y plentyn.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau

Mae Cymorthfeydd Thema i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc:

  • sydd rhwng 5 a 18 mlwydd oed
  • sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (wedi cael diagnosis neu beidio)
  • sydd yn derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Cynhelir y sesiynau rhwng 10am a 11am yng Nghanolfan Westbourne yn y Rhyl:

  • dydd Llun 12 Mai 2025 a bydd Women’s Centre yn bresennol
  • dydd Llun 9 Mehefin 2025 a bydd SNAP Cymru yn bresennol
  • dydd Llun 7 Gorffennaf 2025 a bydd CAD yn bresennol
  • dydd Llun 4 Awst 2025 a bydd STAND NW yn bresennol

Gwybodaeth am y lleoliad

Dyma gyfeiriad Canolfan Westbourne:

Wood Road
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1DZ

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan Westbourne.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae yna gyfleusterau toiledau i bobl anabl, ac mae’r ystafell lle bydd y cwrs ar y llawr gwaelod.

Sut i gymryd rhan

Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf, ac mae’n rhaid archebu lle i fod yn bresennol yn y grŵp.

Rydym ni’n argymell eich bod chi’n mynd i bob un o’r sesiynau i fanteisio i’r eithaf ar y grŵp.

Sut i gadw lle

Os ydych chi’n derbyn gwasanaethau drwy raglen Teuluoedd yn Gyntaf ac yn awyddus i archebu lle, siaradwch â’ch Gweithiwr Teuluoedd yn Gyntaf.