Mae'r cwrs Dewch i Goginio yn gwrs coginio ymarferol, sy'n dysgu hanfodion bwyd a maeth mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.
Y sesiynau a gaiff eu cynnwys yn y cwrs hwn yw:
- Hylendid a Diogelwch Bwyd - Coginio Ymarferol
- Y Canllaw Bwyta'n Iach - Coginio Ymarferol
- Cynllunio Pryd Cytbwys - Coginio Ymarferol
- Cyfrifo Cost Pryd Iach - Coginio Ymarferol
Mae gweithdy Bwyta'n Ddoeth / Arbed yn Well wedi'i gynnwys hefyd.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Dim ond ar gyfer rhieni/gofalwyr yn y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf neu'r rhaglen Dechrau'n Deg.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Mae’r sesiynau ‘Dewch i Goginio’ yn cael eu cynnal yn Canolfan Gymunedol Eirianfa, 9:30am tan 11:30am ar:
- Dydd Iau 18 Medi 2025
- Dydd Iau 25 Medi 2025
- Dydd Iau 2 Hydref 2025
- Dydd Iau 9 Hydref 2025
- Dydd Iau 16 Hydref 2025
- Dydd Iau 23 Hydref 2025 (gweithdy Bwyta'n Ddoeth / Arbed yn Well)
Gwybodaeth am y lleoliad
Cyfeiriad y lleoliad yw:
Canolfan Gymunedol Eirianfa
Maes y Ffatri
Dinbych
LL16 3TS
Parcio
Y meysydd parcio agosaf i’r lleoliad yw:
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae mynediad a thoiledau ar gyfer pobl anabl yn y lleoliad.
Sut i gymryd rhan
Rhaid i chi archebu lle er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.
Sut i gymryd rhan
I gadw lle ar y cwrs hwn, ffonio 01824 708089:
- Dydd Llun i Dydd Iau, 9am tan 5pm
- Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm