Dechrau'n Deg: Grŵp ‘siarad gyda’ch babi’ Elklan

Ymunwch â ni ar gyfer grŵp ‘siarad gyda’ch babi’ Elklan sy’n cynnal amrywiaeth o sesiynau hwyliog ac yn annog cyfathrebu a datblygiad ieithyddol drwy chwarae gyda babis.

Babanod yn gorwedd ar fatiau lliw

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau

Mae sesiynau grŵp ‘siarad gyda’ch babi’ Elklan ar gyfer rhieni/gofalwyr sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg a babis hyd at 1 oed ac nad ydynt yn cerdded eto

Gwiriwch os yw eich côdpost yn y rhaglen Dechrau’n Deg.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Cynhelir sesiynau grŵp ‘siarad gyda’ch babi’ Elklan yng Nghanolfan Margaret Morris rhwng 1pm a 2:30pm ar:

  • Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024
  • Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024
  • Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024
  • Dydd Mawrth 7 Mai 2024
  • Dydd Mawrth 14 Mai 2024
  • Dydd Mawrth 21 Mai 2024
  • Dydd Mawrth 4 June 2024
  • Dydd Mawrth 11 June 2024

Gwybodaeth am y lleoliad

Cyfeiriad y lleoliad yw:

Canolfan Margaret Morris
Ysgol Pendref
Dinbych
LL16 3RU

Parcio

Gallwch barcio yn y lleoliad.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae mynediad a thoiledau anabl yn y lleoliad.

Sut i gymryd rhan

Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg ac archebu lle i fynychu’r grŵp.

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg ac yn awyddus i archebu lle, ffoniwch 01824 708089:

  • Dydd Llun i ddydd Iau, 9am tan 5pm
  • Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm