Dechrau'n Deg: Tylino Babi

A ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg ac a yw eich babi’n llai na 6 mis oed? Os felly, ymunwch â ni am gwrs tylino babi 5 wythnos.

Buddion y cwrs tylino babi yw:

  • Bod yn fwy hyderus wrth afael yn eich plentyn ac adnabod eu hanghenion yn well.
  • Rhyngweithio’n gadarnhaol yn well gyda’ch babi
  • Ffordd wych i bartneriaid, aelodau’r teulu a gofalwyr feithrin perthynas gyda’r babi
  • Gwella cwsg eich babi

Babi yn cael tylino traed

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?

Mae’r cwrs Tylino Babi ar gyfer rhieni/gofalwyr sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg a babis sy’n iau na 6 mis oed.

Gwiriwch a ydych yn gymwys am y rhaglen Dechrau'n Deg.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Cynhelir y cyrsiau Tylino Babi 5 wythnos yng Nghanolfan Margaret Morris rhwng 1pm a 2:30pm.

Cynhelir cyrsiau’r tymor hwn ar y dyddiadau canlynol:

  • bob dydd Iau rhwng 18 Ebrill ac 16 Mai 2024
  • bob dydd Iau rhwng 20 Mehefin a 18 Gorffennaf 2024

Gwybodaeth am y lleoliad

Cyfeiriad y lleoliad lle cynhelir y sesiynau yw:

Canolfan Margaret Morris
Ysgol Pendref
Dinbych
LL16 3RU

Parcio

Gallwch barcio yn y lleoliad.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae mynediad a thoiledau anabl yn y lleoliad.

Sut i gymryd rhan

Mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg ac archebu lle i fynychu’r grŵp.

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu bob un o’r sesiynau i gael y mwyaf allan o’r grŵp.

I gadw lle

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg ac yn awyddus i archebu lle, ffoniwch 01824 708089:

  • Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm
  • Dydd Gwener, 9am - 4:30pm